Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig ar fesurau i reoli TB mewn gwartheg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones AC, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Rwy'n cyhoeddi heddiw nifer o fesurau fel ymateb i'r broblem fwyaf difrifol a brys sydd gennym ym maes iechyd anifeiliaid yng Nghymru. Er gwaetha'r mesurau sydd eisoes yn eu lle i reoli a chadw golwg ar symudiadau gwartheg, mae nifer yr achosion o TB mewn gwartheg wedi codi gan arwain at gostau sylweddol a chynyddol i'r diwydiant a'r Llywodraeth. Wrth ystyried y ffordd ymlaen, rwyf wedi ymgynghori â Grŵp Gweithredu Cymru ar TB, ac wedi derbyn eu barn. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r Grŵp am ei adroddiad cynnydd a'i argymhellion. Rwy'n benderfynol o gael hyd i ffordd ymlaen, ond fy mlaenoriaeth bennaf yw cyflwyno mesurau adeiladol sy'n ymarferol, yn gymesur ac yn gynaliadwy a hynny gyda chydweithrediad ein partneriaid, gan gynnwys ffermwyr, mudiadau lles anifeiliaid, milfeddygon ac eraill sy'n gysylltiedig â'r broblem anodd a chymhleth hon.

Profion Cyn Symud

Fel y dywed fframwaith strategol y Llywodraeth ar gyfer rheoli TB mewn gwartheg ym Mhrydain mewn ffordd gynaliadwy a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2005, ein nod yw arafu a rhwystro lledaeniad TB mewn gwartheg i ardaloedd sydd ar hyn o bryd yn 'lân', a sicrhau lleihad cyson yn nifer yr achosion o'r clefyd mewn ardaloedd lle mae'n fwy cyffredin.  Bu ymgynghori helaeth ar y syniad o gyflwyno profion cyn symud. Neges gref yr ymatebwyr oedd pwysigrwydd diogelu'r ardaloedd lle mae TB mewn gwartheg yn brin a lleihau nifer yr achosion o'r clefyd lle mae'n fwy cyffredin. Roedd cynrychiolwyr o Gymru ar y grwp rhanddeiliaid a ddatblygodd y cynigion manwl ar gyfer rhoi'r profion cyn symud ar waith ym mis Ebrill eleni. Fy mwriad yw mynd ati gam wrth gam i gyflwyno'r profion cyn symud ar wartheg o blwyfi profion blynyddol a phob dwy flynedd o wanwyn 2006 ymlaen, gyda'r bwriad o leihau'r risg bod TB mewn gwartheg yn lledaenu trwy gyfrwng symudiadau gwartheg. Fodd bynnag, yn unol ag egwyddorion y strategaeth iechyd a lles anifeiliaid, nid y Llywodraeth yn unig ddylai ysgwyddo cost y mesurau i reoli'r clefyd. Ffermwyr fydd yn trefnu'r profion ac yn talu amdanynt, a'r Llywodraeth fydd yn darparu'r twbercwlin. Rwy'n credu y gwnaiff y mesurau hyn i reoli'r clefyd ddod â manteision mawr i ffermwyr, felly yn fy marn i, dylai ffermwyr ysgwyddo rhan o'r gost.

Rwyf wedi penderfynu peidio â gofyn i ffermwyr gynnal y profion rheolaidd gorfodol yn amlach. Trwy newid i system o brofi o leiaf bob dwy flynedd, byddai'n rhaid profi pob buwch cyn ei symud (heblaw'r rheini a fyddai'n cael eu cynnwys o dan yr eithriadau arfaethedig). Cafodd Asesiad Rheoliadol ei gynnal a ddaeth i'r casgliad na fyddai hynny'n arwain at fanteision net. Yng ngoleuni'r cyngor hwn, rwyf wedi penderfynu na ddylid bwrw ati â'r cynnig i'w gwneud yn orfodol cynnal y profion yn fwy aml.  


Rhesymoli'r trefniadau talu iawndal

Mae angen system arall yn lle'r cynllun taliadau presennol ar gyfer gwartheg sy'n cael eu lladd i reoli TB. Mae'r drefn bresennol yn dibynnu ar brisio anifeiliaid unigol cyn eu lladd - system y mae archwilwyr yn feirniadol ohoni. Yn ôl y dystiolaeth sydd gennym, mae'n arwain at dalu iawndal sy'n fwy na gwerth yr anifail ar y farchnad. Yn ôl Swyddfa Archwilio Genedlaethol Cymru yn 2003, cafodd iawndal a oedd o leiaf 50% yn uwch na phrisiau'r farchnad ei dalu ar gyfer anifeiliaid masnachol a rhai pedigri yn 2002 a bod y Cynulliad wedi talu rhyw £2.6m yn fwy o iawndal na phe bai'r prisiadau wedi bod yn gyson â gwerthoedd y farchnad. Yng Nghymru, cafodd rhyw £9.8m ei dalu fel iawndal i ffermwyr gwartheg â TB yn 2004/05. Cwblhawyd yr ymgynghoriad ar system iawndal newydd a fyddai'n seiliedig ar dabl o brisiadau yn Rhagfyr 2004.  Roedd yn ddefnyddiol iawn er i nifer o'r ymatebwyr ddweud eu bod yn poeni am y categorïau gwartheg. Yng ngoleuni'r gofidiau hyn, rwyf wedi penderfynu cyflwyno tabl prisio newydd yng Ngwanwyn 2006, gan gynyddu nifer y categorïau gwartheg o 29 i 47.  Bydd y prisiadau'n seiliedig ar brisiau marchnadoedd ledled Prydain. Byddwn yn troi felly at ddefnyddio tabl prisio ar gyfer holl wartheg Cymru ac yn cyhoeddi lefel yr iawndal fydd yn cael ei dalu ar gyfer gwartheg masnachol a phedigri o'r newydd bob mis. Y newid i'r system yw cam cyntaf cynllun tymor hir i gael trefn ar system talu iawndal pob clefyd hysbysadwy ar anifeiliaid. Bydd yn helpu hefyd i gyflymu'r broses o fynd ag anifeiliaid heintiedig o'r fferm a thrwy hynny, gwella'n hymdrechion i reoli clefydau.


Bywyd gwyllt

Menw ymateb i argymhellion Grŵp Gweithredu Cymru ar TB, mae'n dda gennyf ddweud bod rheolwr prosiect wedi'i benodi i helpu i gryfhau'r mesurau i atal TB mewn gwartheg ac i roi mwy o gyhoeddusrwydd iddynt.
Rwy'n cydnabod bod angen ystyried rôl moch daear yn epidemioleg TB mewn gwartheg. Mae'r Llywodraeth yn dal i dalu am lawer iawn o waith ymchwil i lywio polisi. Er nad oes cynlluniau gennym ar droed i ddechrau difa moch daear, mae'n rhywbeth y dylem ei ystyried ar ôl ymchwil bellach a chael cyngor pellach gan Grŵp Gweithredu Cymru ar TB. Mewn ymateb i waith y Grŵp Gweithredu ac fel cydnabyddiaeth o'n diffyg gwybodaeth am y clefyd mewn moch daear yng Nghymru, mae trefniadau ar y gweill i ddechrau arolwg o foch daear marw i weld a ydynt yn cario TB mewn gwartheg. Nid yw'r Llywodraeth wedi cynnal profion ar foch daear yng Nghymru am TB mewn gwartheg er 1998. Rwyf yn disgwyl i'r arolygon o foch daear marw gael eu cynnal ledled Cymru. Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn yr ardaloedd sydd â phroblem TB yn ogystal â'r ardaloedd glân, a byddwn yn ategu'r gwaith hwnnw trwy fapio a chynnal arolwg o boblogaethau moch daear Cymru.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio'n ddiflino i fonitro a gwerthuso er mwyn gwella'r mesurau rheoli presennol. Rwyf wrthi'n ystyried mesurau pellach fel ymateb i adroddiad ac argymhellion Grŵp Gweithredu Cymru ar TB, gan gynnwys ymchwil sydd wedi'i noddi gan y Llywodraeth i faes bioddiogelwch. Efallai, os wyf yn gweld bod angen hynny, y byddaf yn gofyn  am gynnal prosiectau ymchwil eraill ategol.  Yn y cyfamser, byddwn yn pwyso a mesur unrhyw fesurau ymarferol newydd sy'n cael eu cynnig gyda golwg ar eu defnyddio nhw yma yng Nghymru.