Andrew Davies, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Diben: Cyflwyno ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, "Anweithgarwch Economaidd yng Nghymru" (Ebrill 20005)
Mae'r ymatebion i'r argymhellion yn yr Adroddiad wedi'u nodi isod.
Argymhelliad 1 (paragraff 4.2)
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dadansoddi ac yn cyflwyno'r wybodaeth sydd eisoes ar gael am anweithgarwch economaidd mewn ffyrdd sy'n dangos dealltwriaeth well am y materion dan sylw a’r atebion posibl.
DERBYN. Mae helpu pobl i gael swyddi, ac yn sgil hynny cynyddu lefelau gweithgarwch economaidd, yn un o bedwar prif nod Cymru: Gwlad Well. Gyda chefnogaeth yr Is-adran Cyngor Economaidd, y Gyfarwyddiaeth Ystadegol, y Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd, a gwaith y Grw^p Gorchwyl a Gorffen ar Weithgarwch Economaidd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynnal dadansoddiad trylwyr o'r achosion sy'n sail i anweithgarwch economaidd yng Nghymru. Mae'r adroddiad, Codi Cyfraddau Gweithgarwch Economaidd, a gyhoeddwyd ym Medi 2004, yn archwilio'n ddwfn i'r ffactorau sy'n cyfrannu ar hyn o bryd at lefel yr anweithgarwch economaidd yng Nghymru, ac yn cynnig camau i'w cymryd ar draws amrediad o feysydd polisi. Mae cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru - Y Cynllun Gofodol; Cynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth Cymru 2005; a'r cynllun arfaethedig Cymru'n Ennill, yn gosod y fframwaith a'r manylion ar gyfer ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 2 (paragraff 4.13)
Mae’r Pwyllgor o’r farn bod yna dystiolaeth sylweddol o blaid dull 'seiliedig ar bobl' o fynd i’r afael â phroblemau anweithgarwch economaidd, ac mae’n ei gymeradwyo’n gryf fel sylfaen i helpu pobl i gael gwaith. Mae'n argymell y dylai rhaglenni ganolbwyntio ar oresgyn y rhwystrau mewnol y mae unigolion yn eu hwynebu.
DERBYN. Mae'r adroddiad Codi Cyfraddau Gweithgarwch Economaidd yn nodi amrediad o argymhellion a chamau gweithredu trawsbynciol, gyda'r nod o fynd i'r afael â rhwystrau unigol cymhleth y mae nifer o bobl sy'n economaidd anweithgar ar hyn o bryd yn eu hwynebu. Mae'n nodi'r camau yn y meysydd polisi addysg a hyfforddiant; iechyd; trafnidiaeth; a gofal plant, sy'n amrywio o raglenni tymor byr i raglenni tymor hir. Mewn termau ymarferol, dylanwadodd yr argymhellion hyn ar Adolygiad o Wariant 2004 Llywodraeth Cynulliad Cymru, a sonnir yn fanylach am waith sydd eisoes yn cael ei wneud mewn meysydd polisi unigol nes ymlaen yn y Datganiad Ysgrifenedig hwn.
Mae'r gwaith a wnaed gyda'r Ganolfan Byd Gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf i ddatblygu'r fenter aml-asiantaeth Yn Awyddus i Weithio yn deillio'n uniongyrchol o'r argymhellion yn adroddiad Codi Cyfraddau Gweithgarwch Economaidd. Mae'r fenter yn cael ei hariannu'n rhannol drwy £11 miliwn o gymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), a'i nod yw darparu cymorth dwys i helpu pobl sydd wedi bod ar fudd-daliadau am dymor hir ac sydd am weithio i ddod o hyd i swydd ac i aros yn y swydd. Mae wedi bod yn weithredol ar lefel ward leol yn ardal y tri awdurdod lleol, Caerdydd, Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot ers Chwefror eleni. Er mwyn ymestyn y gwasanaethau Canolfan Byd Gwaith sydd ar gael i'r unigolion, bydd y cymorth fydd ar gael yn cynnwys cyngor a chanllawiau ar faterion iechyd a phecyn hyfforddi penodol yn y gwaith, a fydd yn cael ei ddarparu gan ELWa. Y nod yw cysylltu ag o leiaf 4,000 o bobl a helpu dros 1,000 i gael gwaith cynaliadwy, drwy gyfnod y fenter o ddwy i dair blynedd. Mae Yn Awyddus i Weithio yn cael ei lansio ar y cyd, gyda Chanolfan Byd Gwaith Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau, ym Merthyr ar 18 Mai.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 3 (paragraff 4.14)
Roedd y Pwyllgor yn pryderu hefyd am yr anawsterau y mae pobl economaidd anweithgar yn eu hwynebu yn sgil rhwystrau allanol, yn enwedig y problemau sy'n deillio o'u diffyg profiad a’r anhawster wrth geisio cael gafael ar y cymorth sydd ar gael. Mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yn fwy rhagweithiol wrth sicrhau bod y cymorth sydd ar gael yn cael ei dargedu at y bobl hyn. Mae hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn nodi ac yn marchnata rhaglenni sy'n adlewyrchu amgylchiadau arbennig pobl ddi-waith, a bod staff sydd â’r sgiliau a’r profiad priodol a’r brwdfrydedd ar gael i gyflawni’r rhaglenni.
DERBYN. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n rhannu'r un amcanion economaidd a chymdeithasol o helpu pobl i gael gwaith â Llywodraeth y DU. Y Ganolfan Byd Gwaith sy'n darparu'r mesurau yng Nghymru i helpu pobl economaidd anweithgar yn ôl i waith, o dan yr agenda O Fudd-dal i Waith a rhaglenni'r Fargen Newydd. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio'n agos hefyd â chyflogwyr i helpu'u cleientiaid sydd fwyaf dan anfantais i gael swyddi. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n gweithio mewn partneriaeth â'r Ganolfan Byd Gwaith i gefnogi'r gwaith hwn, a nifer o fesurau sydd eisoes wedi'u sefydlu i helpu pobl economaidd anweithgar. Bydd y fenter Yn Awyddus i Weithio a Rhaglen Addasu Cymunedau'n Gyntaf Merthyr Tudful yn darparu gwybodaeth werthfawr ynghylch sut y mae angen i sectorau gwahanol (iechyd; addysg a hyfforddiant; cymunedol a gwirfoddol) gydweithio i gysylltu'n effeithiol â’r grw^p cleient economaidd anweithgar, ac i hyrwyddo'r amrediad o gymorth sydd yn cael ei gynnig i'w helpu i gael gwaith cynaliadwy. Hefyd, mae Awdurdod Datblygu Cymru, drwy'r rhaglen ymchwil Cyfenter a Potentia, yn ceisio helpu’r grw^p cleient hwn i gael gwaith drwy ddarparu ffyrdd iddynt, drwy fentrau a chymorth cymdeithasol, i fanteisio ar gyfleoedd i fod yn hunangyflogedig.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 4 (paragraff 4.19)
Roedd y dadleuon o blaid y credyd gwaith gwerth £40 i roi cymorth ariannol a chymhelliant i’r rhai sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur, wedi creu argraff ar y Pwyllgor. Mae'n argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn amodol ar ganfyddiadau'r cynllun peilot, yn pwyso ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyflwyno cynllun o'r fath.
DERBYN. Mae'r rhai sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur eisoes yn derbyn taliad o £40 yr wythnos ar gyfer y flwyddyn gyntaf mewn gwaith, yn ardal Canolfan Byd Gwaith Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf ers Hydref 2003, fel rhan o gynllun peilot Llwybrau at Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ymhlith cynigion yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer cyflwyno Llwybrau at Waith yng Nghymru y mae ymestyn y peilot o ardaloedd Canolfan Byd Gwaith ar draws De Cymru, o Ebrill 2006 ymlaen. Ymhlith cymhellion ariannol eraill y mae Premiwm Paratoi at Waith o £20 yr wythnos. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwerthuso'r rhaglen Llwybrau at Waith a bydd hynny'n llywio'r modd y bydd mesurau O Fudd-dâl i Waith yn datblygu yn y dyfodol. Mae dehongliad o'r rhesymeg y tu ôl i gyflwyno'r taliad i bobl mewn gwaith a'r premiwm paratoi at waith wedi arwain at gyflwyno cymhellion tebyg fel rhan o'r fenter Yn Awyddus i Weithio, sy'n cael ei datblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 5 (paragraff 4.20)
Roedd y Pwyllgor yn fodlon hefyd â'r cynllun peilot a oedd yn darparu rhwyd ddiogelwch er mwyn annog pobl, yn arbennig pobl sydd wedi bod ar fudd-daliadau ers amser hir, i gymryd y risg allan o roi cynnig ar newid. Mae'n argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn pwyso ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyflwyno'r 'pasbort' yn ôl i fudd-daliadau i fwy o bobl, yng ngoleuni canfyddiadau'r cynllun peilot.
DERBYN. Un o'r rhwystrau mwyaf sy'n bodoli i'r rhai sy'n mynd o sicrwydd budd-daliadau i waith yw'r pryder a'r ansicrwydd ynghylch y broses o fynd yn ôl i waith yn llwyddiannus. Mae rhai'n ofni pe na bai pethau'n mynd yn dda gyda'r swydd a bod yn rhaid iddynt ddychwelyd i fudd-daliadau y byddai'n rhaid iddynt aros am gyfnod hir cyn cael eu budd-daliadau cychwynnol; na fyddent yn gallu hawlio'r un budd-daliadau â chynt; ac y byddent yn wynebu cosbau oherwydd nad oeddent wedi llwyddo i aros yn y swydd. Roedd y cyhoeddiad ynghylch yr agenda O Fudd-dâl i Waith yng Nghyllideb Mawrth 2005 yn amlinellu cynigion i symleiddio a gwella'r rheolau ar gyfer y rhai oedd yn hawlio Budd-daliadau Analluogrwydd, i roi mwy o sicrwydd iddynt pan fyddent yn ystyried symud o anweithgarwch i waith. Bydd y newidiadau, i'w cyflwyno o Hydref 2006, yn caniatáu i'r rhai sydd wedi hawlio budd-daliadau yn y gorffennol i gael yr un faint o fudd-daliadau am hyd at ddwy flynedd ar ôl cael swydd. Bydd y gwaith o werthuso'r fenter Yn Awyddus i Weithio yn rhoi mwy o wybodaeth i ni ynghylch faint o sicrwydd y mae'r cymhellion ariannol yn ei roi, ac effaith y mesurau hyn ar annog pobl i mewn i waith.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 6 (paragraff 4.30)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, trwy ELWa os yw’n briodol, yn cynnal rhaglen i annog cyflogwyr yn y sectorau gofal, twristiaeth ac adeiladu i ddarparu a chefnogi hyfforddiant sgiliau ar gyfer eu gweithwyr trwy gyfrwng rhaglenni dysgu yn y gweithle.
DERBYN. Mae'r sectorau hyn ymhlith y rheini a nodwyd yn Nghynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth 2005 fel rhai o bwys i economi Cymru. Mae cyfle yma i nodi blaenoriaethau o ran sgiliau a datblygiad economaidd ac i ddatblygu dull cydlynol a strategol o fynd i'r afael â'r materion hyn. Gan weithio'n agos â'r Cynghorau Sgiliau Sector a chyrff perthnasol eraill, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno ar ddulliau i ddiwallu anghenion o ran datblygu sgiliau yn y sectorau hyn, gan gynnwys dulliau'r cyflogwyr o ddatblygu'r gweithlu, a thrwy raglenni ELWa, a fydd yn cael eu hariannu o gyllidebau cyfredol.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 7 (paragraff 4.31)
Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid cynnal dadansoddiad trylwyr i gyfiawnhau unrhyw raglenni penodol er mwyn sicrhau nad yw ffactorau daearyddol yn lleihau'r cyfleoedd sydd ar gael i hyfforddi.
DERBYN. Mae ELWa yn adolygu ei raglenni dysgu, er mwy eu teilwra i anghenion cleientiaid ar draws Cymru. Mae adolygiadau sydd newydd eu cwblhau wedi canolbwyntio ar ddarpariaeth Addysg Bellach ar y tir; Gwasanaethau Busnes; Cymraeg i Oedolion; a Dysgu Seiliedig ar Waith, ac mae arolwg o Ddysgu Cymunedol i Oedolion ar y gweill. Mae'r System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol (NPFS) yn cynnwys pwysoliad teneurwydd poblogaeth, i ystyried costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â darparu hyfforddiant mewn rhai ardaloedd. Bydd darpariaeth nad yw'n ddarpariaeth Addysg Uwch ôl 16 yn cael ei ariannu mwy a mwy drwy NPFS. Mae gan TGCh ac e-ddysgu rôl bwysig i'w chwarae yn y gwaith o leihau'r effaith o ran pa gyrsiau sydd ar gael a'u hyfywedd mewn ardaloedd lle mae teithio i ddysgu yn ffactor sylweddol. Yn fwy cyffredinol, mae ELWa yn ystyried y galw wrth ystyried yr hyfforddiant sydd ar gael mewn ardaloedd penodol. Wrth ddatblygu ei Gynllun Gweithredol, mae ELWa yn ystyried ei Ddatganiadau Rhanbarthol o Anghenion a Blaenoriaethau, gan ymgynghori â CCETau a'i Bwyllgorau Rhanbarthol. Fel rhan o'r cymorth i agenda Llwybrau Dysgu 14-19 Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae ELWa yn llunio cyfres o brosiectau Braenaru Daearyddol. Nod y Cynlluniau Braenaru yw i adolygu'r ddarpariaeth ddysgu o fewn ardal sydd wedi'i diffinio, er mwyn nodi'r rhagolygon ar gyfer creu cyfleoedd sy'n ymateb yn well ac yn gost-effeithiol. Bydd y cynlluniau braenaru'n dechrau yn 2005 yn gyntaf yn y chwe ardal ganlynol - Glannau Menai Gwynedd/Ynys Môn; Cwm Dyfi; Sir Benfro; Rhondda Cynon Taf; Merthyr Tudful; a Blaenau Gwent. Mae ELWa newydd lansio ei Gronfa Fuddsoddi Gyffredinol (CIF) i annog darparwyr i gydweithio, a bydd CCETau'n chwarae rôl allweddol yn y gwaith o benderfynu ar faterion a blaenoriaethau lleol. Bydd CIF ar gael i fod yn sylfaen i'r mentrau braenaru ac i gefnogi mentrau lleol yn fwy cyffredinol, er lles dysgwyr.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 8 (paragraff 4.32)
Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod ffactorau fel amddifadedd cymdeithasol ac economaidd yn cael eu hystyried wrth bennu’r system ariannu ar gyfer addysg bellach fel y bo cyrsiau ar gael yn yr ardaloedd hyn.
DERBYN. Mae model prisio System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol (NPFS) ELWa yn cynnwys pwysoliadau prisio'n gysylltiedig â nodweddion dysgwyr, gan gynnwys a ydynt yn byw mewn ardal ddifreintiedig, fel y'u diffiniwyd gan Fynegai Amlamddifadedd 2000 Cymru. Diben pwysoli yw sicrhau bod darparwyr yn derbyn arian sy'n cydnabod costau ychwanegol amddifadedd addysgiadol. Bydd yr NPFS yn gymwys ar draws darpariaethau ôl -16 nad ydynt yn rhai addysg uwch.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 9 (paragraff 4.51)
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod yn llawn rôl allweddol y sector gwirfoddol i’w gwneud yn haws i bobl symud o fod yn anweithgar i fod mewn gwaith, a bod mwy o gefnogaeth yn cael ei rhoi i’r sector gwirfoddol ar gyfer y gwaith y mae'r sector yn ei wneud wrth gynnig cam cynnar i mewn i’r farchnad lafur.
DERBYN. Rydym yn cydnabod bod gan y sector gwirfoddol rôl bwysig i'w chwarae yn y maes hwn. Mae llawer iawn o arian eisoes yn cael ei roi i'r sector. Mae cynlluniau 'cymorth fel y bo'r angen' o dan y Grant Refeniw Cefnogi Pobl yn helpu i oresgyn y rhwystr 'dim cartref, dim swydd' (roedd cyfanswm yr arian a roddwyd i gynlluniau o'r fath dros £30 miliwn yn 2005-06). Mae'r rhaglen Gwirfoddoli yng Nghymru (£912,000 yn 2005-06) yn hyrwyddo gwaith gwirfoddol, gan ennyn ymrwymiad pobl ddi-waith yn arbennig. Mae'r rhaglenni Cymru:Y Gymdeithas Fyw a Chymorth i Wasanaethau Gwirfoddol Canolradd yn cefnogi prosiectau i ariannu gwaith gyda phobl sy'n cael eu heithrio'n gymdeithasol a phobl ddi-waith, i wella'u rhagolygon swyddi. Mae'r rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm (£307,000 yn 2005-06) yn annog pobl ifanc 18-24 i feithrin sgiliau a gwybodaeth newydd, i wella eu rhagolygon o gael swyddi, yn ogystal â datblygu'n bersonol.
Hefyd, fel rhan o'r ychwanegiadau i raglen y Fargen Newydd 50 Oed a Throsodd (sydd wedi'i llunio i wella rhagolygon ar gyfer pobl 50 oed a throsodd o symud i waith, ac aros yn y swydd) mae gwaith yn cael ei wneud â mudiadau yn y sector gwirfoddol, i wella'r gwasanaethau sy'n darparu gwybodaeth am y cymorth yn ôl i swyddi sydd ar gael i bobl o fewn y grw^p cleient hwn.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 10 (paragraff 4.52)
Mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo'r syniad o roi cyfle i unigolion gael profiad o weithio heb golli budd-daliadau. Mae'n argymell bod y syniad hwn yn cael ei ddatblygu ar gyfer rhaglenni yn y gymuned, yn enwedig prosiectau gwirfoddol, er mwyn annog a hwyluso'r amrywiaeth ehangaf bosibl o brofiad gwaith ar gyfer pobl sydd y tu allan i'r farchnad lafur.
DERBYN. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod y bydd nifer o’r grw^p cleient hwn wedi bod allan o waith am beth amser, ac na fyddai rhai ohonynt erioed wedi gweithio. Bydd yr angen i ddatblygu amrediad o sgiliau meddal yn allweddol i gefnogi'r gwaith o drosglwyddo'n llwyddiannus i mewn i waith. O dan y trefniadau presennol ar gyfer mwyafrif y budd-daliadau 'anweithgar', mae gan y rhai sy'n hawlio budd-daliadau hawl i weithio, neu wneud rhyw fath o hyfforddiant, am hyd at 16 awr yr wythnos, heb effeithio o gwbl ar eu hawl i fudd-daliadau. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith eisoes yn ymwneud ag amrediad o sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i ddarparu amrediad eang o brofiad gwaith ar gyfer ei gleientiaid. Drwy weithredu'r fenter Yn Awyddus i Weithio bydd modd gweithio'n agosach â phartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf a sefydliadau lleol eraill, a bydd yn rhoi mwy o wybodaeth i ni ynghylch pa gysylltiadau â mudiadau a phrosiectau gwirfoddol sydd fwyaf effeithiol.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 11 (paragraff 4.53)
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu mecanweithiau i sicrhau mwy o gydweithio rhwng awdurdodau i ddatblygu partneriaethau Marchnadoedd Llafur Trosiannol, yn enwedig yng nghymoedd y De.
DERBYN (MEWN EGWYDDOR) Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cydnabod y gall Marchnadoedd Llafur Trosiannol chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu pobl i gael gwaith, ond er mwyn cael y budd gorau posibl mae angen ystyried amodau'r farchnad lafur leol a'u targedu'n ofalus. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae angen i farchnadoedd llafur trosiannol allu cefnogi'r cleientiaid hynny sydd fwyaf anodd i'w helpu, sydd beth pellter o'r farchnad lafur, yn hytrach na'r rheini sydd agosaf at y farchnad lafur, lle mae'r ddarpariaeth eisoes yn cael ei chynnig drwy'r Ganolfan Byd Gwaith. Ar gyfer ardal De Cymru, mae'r bartneriaeth, sydd wedi'i sefydlu â'r awdurdod lleol drwy dîm y rhaglen ar gyfer strategaeth Blaenau'r Cymoedd, yn cynnig fforwm ar gyfer cydweithio angenrheidiol i sicrhau twf economaidd a chymdeithasol ar draws y rhanbarth.
Goblygiadau ariannol: Does dim modd asesu'r goblygiadau ar hyn o bryd.
Argymhelliad 12 (paragraff 4.54)
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried y posibilrwydd o gael Marchnadoedd Llafur Trosiannol i lenwi'r bwlch sy’n bodoli o ran y ddarpariaeth trafnidiaeth a gofal plant mewn cymunedau penodol. Wrth wneud hynny, mae’n pwysleisio y dylai’r gofal plant fod o’r un ansawdd uchel y sonnir amdano yn yr adroddiad hwn a chynnwys pobl sydd wedi cael eu hyfforddi i’w ddarparu.
DERBYN (MEWN EGWYDDOR). Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cydnabod y gall Marchnadoedd Llafur Trosiannol chwarae rhan yn y gwaith o helpu pobl yn ôl i waith, ond yn credu y byddai cynlluniau o'r fath yn debygol o fod fwyaf defnyddiol pe baent yn cael eu targedu'n ofalus at y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur. Gallai’r grw^p cleient hwn wynebu nifer o rwystrau wrth geisio cael gwaith. Byddai felly'n anodd cydgysylltu'r gwaith o dargedu Marchnadoedd Llafur Trosiannol ag ymrwymiad cryf Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
Mae hyn yn arbennig o wir ym maes gofal plant, lle mae'n rhaid gweithio tuag at sicrhau bod 80% o staff gofal dydd llawn, a 50% o staff ym maes gofal dydd sesiynol, yn ennill cymwysterau Lefel 2 yn y blynyddoedd cynnar. Mae tystiolaeth hefyd dangos bod y berthynas â staff yn bwysig i blant, sy'n golygu ei bod hi'n angenrheidiol sicrhau bod y trosiant staff yn isel. Fodd bynnag, mae'r gofynion hyn yn parhau i roi cyfle i staff sydd heb gymhwyso i ymuno â'r proffesiwn gofal plant. Gall prosiect ESF Genesis Cymru a Chanolfan Byd Gwaith helpu unigolion i fanteisio ar gyfleoedd o'r fath, yn arbennig mewn meysydd lle nad oes digon o weithwyr ym maes gofal plant. Gall Llywodraeth Cynulliad Cymru felly ystyried ymhellach p'un a yw Marchnadoedd Llafur Trosiannol yn gallu gwneud cyfraniad, tra'n sicrhau nad yw ansawdd y ddarpariaeth yn dioddef.
Mae'r safonau'n gynyddol uchel yn y sector trafnidiaeth gymunedol. Mae trafnidiaeth gymunedol yn cynnig cyfle i bobl dderbyn hyfforddiant da, o safon uchel mewn meysydd fel gyrru; gofal cwsmeriaid; iechyd a diogelwch; ac ymwybyddiaeth o anabledd, sy'n arwain yn aml at reoli prosiect a rheoli arian. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried yn fanwl â'r diwydiant trafnidiaeth pa fanteision a pha rwystrau sy'n deillio o gyflwyno Marchnadoedd Llafur Trosiannol. Fe fydd hi'n hanfodol felly bod yr holl bartneriaid yn y sector trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rhan lawn mewn unrhyw broses ar gyfer defnyddio Marchnadoedd Llafur Trosiannol.
Goblygiadau ariannol: Ddim yn gwybod ar hyn o bryd.
Argymhelliad 13 (paragraff 4.55)
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio â’r sector gwirfoddol er mwyn ei ddatblygu i’w alluogi i gyflawni’n llawn ei botensial i leihau anweithgarwch economaidd gan roi sylw arbennig i ariannu a gwella delwedd y sector gwirfoddol.
DERBYN. Bydd Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol yn archwilio'r mater, ac yn paratoi'r Cynllun Gweithredu Strategol newydd ar gyfer y Cynllun Sector Gwirfoddol. Bydd hyn yn pennu sut y dylai'r sector gwirfoddol ddatblygu dros y pum mlynedd nesaf, ac egluro sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cefnogi hyn (y targed ar gyfer cwblhau'r Cynllun yw Tachwedd 2005).
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes yn ariannu'r prif elfennau yn rhwydwaith y sector gwirfoddol, hynny yw, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol; a 34 Canolfan Wirfoddoli. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n gweithio gyda'r asiantaethau hyn i drawsnewid y cymorth hwn i 'gyllid craidd' tymor hir, yn gysylltiedig â chytundeb lefel gwasanaeth.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n helpu i gyfleu delwedd gadarnhaol o'r sector gwirfoddol mewn amryw o ffyrdd, yn arbennig drwy annog mwy o wirfoddoli ac ymrwymiad yn y gymdeithas. Er enghraifft, mae ymgyrch fawr, "2005: Blwyddyn Gwirfoddolwyr", wedi'i lansio i hyrwyddo gwirfoddoli ledled Cymru. Y nod yw herio a newid y ddelwedd draddodiadol o wirfoddoli. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector gwirfoddol i ddatblygu darpariaeth hyfforddi gynhwysfawr genedlaethol ar gyfer gwirfoddolwyr, fel bod pobl sydd am wirfoddoli yn cael cymorth i wneud hynny.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 14 (paragraff 4.71)
Mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai'r buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar gael ei dargedu at blant mewn cymunedau difreintiedig, a dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddarparu cyllid i agor canolfan blant ym mhob cymuned ddifreintiedig ledled Cymru fel y cam cyntaf tuag at ddarpariaeth i bawb. Mae'r Pwyllgor hefyd yn ystyried y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatblygu’r fframwaith monitro a gwerthuso ar gyfer y dyfodol ymhellach, a meincnodi pa mor effeithiol yw’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar yng Nghymru o’i chymharu â chynlluniau mewn gwledydd eraill.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn mynd ati i hybu cynnydd sylweddol yn y lleoliadau gofal plant sydd ar gael, ac yn arbennig, ei fod yn cael ei dargedu at yr ardaloedd hynny lle mae’r angen fwyaf.
DERBYN. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n buddsoddi'n fawr yn y blynyddoedd cynnar, o fewn y cyfnod o dair blynedd ar gyfer y gyllideb. Mae ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i sut yn union y dylid targedu'r buddsoddiad, ond derbynnir y dylid canolbwyntio ar blant o gymunedau difreintiedig. Bydd yr arian yn caniatáu creu canolfannau llawer mwy integredig, ac mewn mannau eraill, gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar, integredig sydd wedi'u gwerthuso'n dda.
O ran datblygu'r fframwaith monitro a gwerthuso, mae'r Cyfnod Sylfaen, sy'n destun cynllun peilot yng Nghymru ar hyn o bryd, yn cael ei werthuso'n llawn i sicrhau bod cwricwlwm effeithiol ar gyfer y blynyddoedd cynnar i blant rhwng 3 a 7. Wrth i'r Cyfnod Sylfaen gael ei sefydlu, bydd astudiaeth hydredol yn cael ei wneud, a fydd yn gwerthuso'r effaith ar berfformiad a chanlyniadau ar ddiwedd y Cyfnod ac i mewn i Gyfnod Allweddol 2.
Y mater o annog mwy o wasanaethau gofal plant fydd testun blaen-strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gofal plant, a fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi. Bydd y rhan fwyaf o'r adnoddau'n dod o Cymorth, gan gynnwys y gyllideb gofal plant, a fydd yn cael ei hategu gan ESF, drwy Genesis Cymru.
Goblygiadau ariannol: Nid oes modd asesu'r goblygiadau ar hyn o bryd.
Argymhelliad 15 (paragraff 4.75)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn mynd ati i archwilio a oes modd lleihau’r baich biwrocrataidd sy’n wynebu pobl sydd am gychwyn fel darparwyr gofal plant a chynnal y mesurau diogelwch sy’n ofynnol gan rieni.
DERBYN. Byddwn yn edrych eto ar y mater hwn o fewn Strategaeth Gofal Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ni fydd y trothwy o ran ansawdd yn gostwng, ond bydd Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru yn adolygu ei dull o gofrestru ac arolygu, er mwyn lleihau pwysau biwrocratiaeth.
Goblygiadau ariannol: Ni wyddwn ar hyn o bryd, ond disgwylir y bydd cynnydd o ran effeithlonrwydd o fewn yr Arolygiaeth, a llai o bwysau ar ddarparwyr newydd.
Argymhelliad 16 (paragraff 4.76)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hybu ac yn annog Marchnadoedd Llafur Trosiannol i ddarparu gofal plant lle nodwyd bod galw am ddarpariaeth gofal plant a lle na all y farchnad gynnal darpariaeth breifat.
GWRTHOD.Gweler yr ymateb i Argymhelliad 12. Lle na all y farchnad gefnogi darpariaeth breifat, mae Partneriaethau Plant lleol yn gallu arfer eu disgresiwn i ddarparu cymorth strategol o arian Cymorth.
Goblygiadau ariannol: Ni wyddwn ar hyn o bryd.
Argymhelliad 17 (paragraff 4.78)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried yr ystod lawn o ofal plant a ddarperir, gan gynnwys darpariaeth ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol ar gyfer plant hyˆn, ac ystyried sut y gellir ei wella er mwyn diwallu anghenion y rhieni’n well.
DERBYN. Eir i'r afael â'r mater hwn o fewn blaen-strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gofal plant, a fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi.
Goblygiadau ariannol: Nid yw'n bosibl asesu'r goblygiadau ar hyn o bryd.
Argymhelliad 18 (paragraff 4.79)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Awdurdod Datblygu Cymru, neu bwy bynnag sy’n cymryd ei le’n y dyfodol, yn cydweithio â chwmnïau i godi eu hymwybyddiaeth am fanteision y cyfleusterau hyn [hy cyfleusterau gofal plant], a chynnig cymhellion er mwyn eu hannog i fuddsoddi ynddynt.
Mae hefyd yn argymell bod Awdurdod Datblygu Cymru yn chwilio am ffyrdd o ddod â chwmnïau a darparwyr gofal plant sector preifat at ei gilydd i ddatblygu ac ehangu’r math hwn o gyfleuster mewn ardaloedd diwydiannol.
DERBYN. Ar hyn o bryd, mae Awdurdod Datblygu Cymru, fel prif bartner y Bartneriaeth Datblygu CWLWM (Childcare Wales Learning and Working Mutually), yn llunio cais am arian ESF EQUAL i greu prosiect i edrych ar ffyrdd arloesol o gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r ddarpariaeth gofal plant. Bydd y prosiect yn datblygu arfau ar gyfer busnesau gofal plant; ymchwilio i'r mecanweithiau ariannu (sy'n cysylltu'r sectorau preifat a'r sectorau nad ydynt yn bodoli i wneud elw); helpu cyflogwyr i ariannu'r ddarpariaeth gofal plant; datblygu mecanweithiau cymorth ar gyfer y sector preifat; ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg; datblygu'r gwaith gyda phartneriaethau Cymunedau'n Gyntaf.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 19 (paragraff 4.90)
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn chwilio am ffyrdd i feithrin cysylltiadau rhwng cynlluniau trafnidiaeth gymunedol a'r sector preifat er mwyn darparu gwasanaeth sy'n diwallu anghenion y cwsmeriaid yn well - yn enwedig anghenion pobl sy'n dychwelyd i'r gwaith.
DERBYN.O ran yr anogaeth a'r arian oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae nifer o awdurdodau lleol eisoes wedi creu swyddi sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn lleol, ac wedi helpu i sefydlu ffora trafnidiaeth gymunedol lleol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi annog awdurdodau i gyfuno'u swyddogaethau trafnidiaeth, fel bod cyfrifoldebau fel bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn cael eu rheoli o fewn un uned. Y bwriad yw i godi ymwybyddiaeth awdurdodau lleol a chael mwy o gydgysylltiad â nhw. Wrth iddynt ystyried cais am arian ar gyfer prosiectau trafnidiaeth gymunedol, mae disgwyl i awdurdodau lleol ystyried patrwm cyfredol gwasanaethau bysiau yn lleol, neu'r patrwm sydd ar y gweill, i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cydgysylltu mor effeithiol â phosibl.
Mae awdurdodau lleol yn cydnabod fwy a mwy y gallai trafnidiaeth gymunedol ddarparu, i bob pwrpas, gwasanaethau sy'n bwydo'r rhwydwaith, gan gysylltu â gwasanaethau bws ar y prif lwybrau. Mae hyn yn osgoi'r angen i redeg bysiau gyda nifer cymharol fach o deithwyr arnynt, er enghraifft, yn yr ardaloedd mwyaf gwledig. Yn hytrach, byddai modd targedu gwasanaethau ar y prif lwybrau, gan gynnig dewis mwy cost-effeithiol na char.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn ariannu PTI Cymru Cyf i ddarparu gwasanaeth wybodaeth gynhwysfawr am drafnidiaeth gyhoeddus, o dan y brand traveline. Mae mwy a mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gymunedol ar gael i bobl drwy'r system hon, fel bod modd ystyried teithio ar fysiau law yn llaw â defnyddio trafnidiaeth gymunedol. Mae PTI Cymru hefyd yn gweithredu'r system cynllunio teithiau personol Modus, sy'n cynnig cynlluniau o ddrws i ddrws ar gyfer teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r cwmni wedi bod yn hyrwyddo'r system i nifer o gyflogwyr, yn y sector preifat a chyhoeddus. Un o fanteision anuniongyrchol y cynllun hwn, sydd i'w groesawu, yw bod dadansoddiadau Modus wedi nodi patrymau teithio unigolion a grwpiau o bobl nad ydynt yn cael eu diwallu ar hyn o bryd. Mae'r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i awdurdodau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, gyda'r nod o gyflwyno gwasanaethau newydd.
Goblygiadau ariannol: Nid yw'n bosibl asesu'r goblygiadau ar hyn o bryd.
Argymhelliad 20 (paragraff 4.91)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried sut i roi cymorth mwy gweithredol ar gyfer trafnidiaeth gymunedol er mwyn cyflawni arbedion anuniongyrchol, er enghraifft, drwy sicrhau bod llai o bobl yn colli apwyntiadau fel allgleifion gyda’r GIG yn ogystal â chyfrannu’n uniongyrchol at yr economi.
DERBYN.Mae'r Is-adran Trafnidiaeth yn cael ei chynrychioli ar grw^p Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n adolygu gwasanaethau trafnidiaeth i gleifion nad ydynt yn gleifion brys, yn ogystal ag Is-adrannau perthnasol eraill; y sector gwirfoddol; a'r sector trafnidiaeth gymunedol.
Mae’r grw^p wedi gwahodd ymgynghorwyr i fynegi diddordeb, gyda'r nod o gomisiynu adolygiad o wasanaethau trafnidiaeth i gleifion nad ydynt yn gleifion brys. Mae'r Is-adran Polisi Trafnidiaeth, ynghyd â'r sectorau cymunedol a gwirfoddol, eisoes yn cyfrannu at y gwaith hwn. Penderfynir sut i weithredu argymhellion y Pwyllgor EDT yng ngoleuni'r adolygiad hwn.
Goblygiadau ariannol: Nid yw'n bosibl asesu'r goblygiadau ar hyn o bryd.
Argymhelliad 21 (paragraff 4.92)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal adolygiad manwl o’r opsiynau ariannu sydd ar gael ar gyfer mudiadau trafnidiaeth gymunedol.
DERBYN. Cyhoeddwyd adolygiad trylwyr o drafnidiaeth gymunedol yng Nghymru yng Ngorffennaf 2002 (TAS Consultants luniodd yr adolygiad, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru). Cafodd yr adolygiad ei lansio'n ffurfiol gan y Gweinidog Amgylchedd ar y pryd, ac fe ddosbarthwyd yr argymhellion yn eang. Ers hynny, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi parhau i roi cyhoeddusrwydd i'r adroddiad ac wedi annog bod yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith (sydd wedi'u rhannu yn ôl eu perthnasedd i'r sectorau).
Un o'r argymhellion oedd cynnal y Grant Gwasanaethau Cludiant Lleol fel y "prif beirianwaith ariannu ar gyfer cludiant cymunedol a chyhoeddus, gyda hyblygrwydd ar gyfer awdurdodau lleol wrth ei weithredu." Gwnaed hyn, ac mae'r grant yn 2005-06 dros £9.2miliwn (yn uwch na chwyddiant) i helpu awdurdodau lleol i roi hwb i nifer y gwahanol wasanaethau bysiau, yn ogystal â darparu cymorth ar gyfer prosiectau trafnidiaeth gymunedol. Yn wir, disgwylir i bob awdurdod lleol wario o leiaf 5% o'r arian sydd wedi'i ddyrannu iddo i gefnogi trafnidiaeth gymunedol. Fodd bynnag, mater i bob awdurdod unigol yw penderfynu sut i wario'r grant, gan ddefnyddio'i wybodaeth o amgylchiadau a blaenoriaethau lleol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell y dylai awdurdodau lleol sicrhau bod cymaint â phosibl o adnoddau trafnidiaeth gymunedol y sector gwirfoddol ar gael yn eu hardal, drwy hyrwyddo'r ffaith bod bysiau bach ar gael, a sicrhau bod yr holl gerbydau ar gyfer cludo pobl sydd yn eu meddiant ar gael i'w defnyddio cymaint â phosibl yn y gymuned.
Mae pob is-adran a sefydliad allanol wedi bod yn mynd i'r afael â'r argymhellion sy'n berthnasol iddynt, yn unol â'r modd y maent wedi'u blaenoriaethu, a'i asesiad ei hun o anghenion.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 22 (paragraff 4.93)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio â mudiadau trafnidiaeth gymunedol a’r awdurdodau lleol i ystyried sut y gellir defnyddio cerbydau awdurdodau lleol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau arferol.
DERBYN.Gweler yr ymateb i Argymhelliad 21.
Goblygiadau ariannol: Dim
Argymhelliad 23 (paragraff 4.102)
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio â llywodraeth y DU i ddatblygu ffyrdd mwy sensitif ac effeithiol o asesu ffitrwydd pobl i weithio.
DERBYN. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi meithrin cysylltiadau â'r Adran Gwaith a Phensiynau o ran ei 'Strategaeth Bum Mlynedd', sy'n cwmpasu amrediad o faterion yn ymwneud â iechyd a gwaith. Mae rhai ohonynt y tu hwnt i bwerau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd yr amserlen yn cyd-fynd â 'Strategaeth Bum Mlynedd' yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Goblygiadau ariannol: Ni ellir penderfynu ar y goblygiadau ariannol, os oes rhai, ar hyn o bryd.
Argymhelliad 24 (paragraff 4.106)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu a gwella’r gwasanaethau meddygol a gwasanaethau cynghori ar gyfer pobl sy’n dioddef gofid ac iselder o ganlyniad i ddiweithdra ac anweithgarwch economaidd hir dymor.
DERBYN.Mae'r profiad o weithredu'r peilot 'Llwybrau at Ddysgu' yr Adran Gwaith a Phensiynau ym Mhen-y-Bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf yn amlwg wedi dangos sut y gall defnyddio Tîm Rheoli Cyflyrau Iechyd helpu pobl â gwewyr meddwl, iselder a phroblemau eraill sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Mae hyn yn arbennig o berthnasol, o gofio'r cynigion i ymestyn Llwybrau at Ddysgu i rannau eraill o Gymru o 2006. Hefyd, bydd yr adolygiad o'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn edrych ar rôl gyffredinol cynghori, ym maes gofal sylfaenol ac yn y sector gwirfoddol.
Goblygiadau ariannol: Ni ellir penderfynu ar y goblygiadau ariannol, os oes rhai, ar hyn o bryd.
Argymhelliad 25 (paragraff 4.107)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu’r gwasanaethau iechyd galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru a’r gwaith a wneir i godi ymwybyddiaeth cyflogwyr amdanynt.
DERBYN. Mae'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch yn y gorffennol wedi mapio'r ddarpariaeth ar gyfer hyfforddiant iechyd galwedigaethol yng Nghymru, a bydd adolygiad, sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, yn diweddaru adroddiad y Weithrediaeth. Caiff yr ymarfer mapio cyfredol ei ymestyn, i gynnwys darparwyr gwasanaethau iechyd galwedigaethol. Gellir defnyddio'r Safon Iechyd Gorfforaethol i godi ymwybyddiaeth o hyfforddiant a darparwyr y gwasanaeth.
Goblygiadau ariannol: Ni ellir penderfynu ar y goblygiadau ariannol, os oes rhai, ar hyn o bryd.
Argymhelliad 26 (paragraff 4.108)
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod gwasanaethau iechyd galwedigaethol ar gael i fusnesau bach a chanolig.
DERBYN. Mae arian wedi'i neilltuo (o 2007-08) i gefnogi prosiect peilot i archwilio sut y gellir gwneud mwy o ddefnydd o'r gwasanaethau iechyd galwedigaethol. Ymdrinnir â goblygiadau ariannol darpariaeth o'r fath yn y broses o werthuso'r peilot.
Yn ddiweddar mae'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch i bobl fynegi diddordeb yn ei gynllun peilot Iechyd yn y Gweithle, i ddarparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol i fusnesau bach a chanolig. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio i geisio sicrhau un o'i gynlluniau peilot i Gymru. Mae'r Safon Iechyd Gorfforaethol yn cael ei ailddatbygu, i'w gwneud ar gael i fusnesau bach a chanolig, a'u helpu i wella iechyd yn y gweithle.
Goblygiadau ariannol: Ni ellir penderfynu ar y goblygiadau ariannol, os oes rhai, ar hyn o bryd.