Skip to content

Uno’r Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad â’r Llywodraeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan , y Prif Weinidog
Pleser imi yw cael nodi ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni cam 1 o gwtogi ar dalaith y cwangos erbyn Ebrill 2006. Diolchaf o galon i fyrddau’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, eu staff hwythau a’n staff ninnau, eu hundebau llafur, fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet a phwyllgorau’r Cynulliad am eu holl waith caled.

Croesawaf ddatganiad yr Ysgrifennydd Parhaol ddoe am benodiad dau gyfarwyddwr: Gareth Hall, i’r Adran newydd dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, a Steve Marshall, o dde Awstralia i’r adran newydd dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. Yr wyf yn ffyddiog eu bod yn meddu ar y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i feithrin y diwylliant o newid sydd ei angen arnom i wireddu ein gweledigaeth o wasanaeth cyhoeddus o’r radd flaenaf yng Nghymru.

Bydd y ddwy adran newydd wedi’u huno yn canolbwyntio’n gryf ar weithio’n uniongyrchol gyda’n cleientiaid a’n cwsmeriaid, gan sicrhau bod darpariaeth ar y rheng flaen wrth wraidd diwylliant Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gan y byddant yn adrannau mawr, bydd eu staff yn gallu arbenigo mewn datblygu economaidd neu mewn addysg, wedi’u tanio eto gan secondiadau i’r sector preifat neu sefydliadau addysgol. Mae’r arbenigo mwy hwnnw yn awgrymu mwy o adnoddau i weithio ar ddeddfwriaeth. Mae’n awgrymu cael digon o arbenigedd i fod yn ffyddiog yn eich barn eich hun, i fentro, ac i gael eich dyrchafu am fentro ac am fod yn iawn, yn hytrach nag am osgoi risgiau. Yn gyffredinol, mae’n golygu cefnu ar y diwylliant o weinyddu statig lle mae pawb yn aros yn ei unfan a newid i ddiwylliant o reoli deinamig. Dyna’r weledigaeth.

Cyhoeddwyd y strwythurau manwl ar gyfer yr Adran dros Ddatblygu Economaidd a’r Adran dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yr wythnos diwethaf. Caiff strwythurau ar gyfer meysydd eraill eu cyhoeddi ganol mis Tachwedd. Mae’r uwch dimau yn yr adrannau yr effeithir arnynt gan y broses uno bellach yn cael eu ffurfio. Er bod mwy na 40 o uwch reolwyr o CCNCau a gwasanaeth sifil Llywodraeth y Cynulliad wedi’u penodi i swyddi yn yr adrannau a unwyd, hysbysebwyd 15 o swyddi yr effeithir arnynt gan y broses uno yn allanol yn ddiweddar a chaiff ychydig mwy eu hysbysebu maes o law. Yr wyf yn ffyddiog y bydd yr uwch dimau rheoli wedi’u penodi erbyn y Nadolig.

Tanlinellodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad pa mor bwysig yw cyngor a darpariaeth ranbarthol, ac mae Gweinidogion a minnau wrthi’n ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu yn y rhanbarthau, o fewn adrannau ac ar eu traws.

Mae’r ffordd yr ydym yn hybu Cymru a brand ‘Cymru’ yn bwysicach na strwythurau yn y pen draw. Mae Bwrdd Croeso Cymru wedi arwain ar y mater hwn a’r gwerthoedd brand yr ydym oll yn eu dymuno yw bod y rhai sy’n ymwneud â marchnata Cymru yn cyfleu’r neges bod Cymru yn wlad fach, glyfar. Mae’r egwyddor honno yn gymwys i ddenu mewnfuddsoddi, twristiaid, myfyrwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, neu’r rhai sy’n prynu ein bwydydd a’n diodydd ac allforion eraill.

Y fantais fawr o ddwyn CCNCau a gweision sifil adrannol y Cynulliad ynghyd yw mai dim ond un corff sy’n llunio pecyn o gymhellion wedi’i baratoi’n arbennig yn hytrach na dau neu fwy—pecyn polisi a chyllidebol unedig. Ni allwch geisio cael y manteision hynny ac yna gymryd arnoch fod yr hen system yn dal i fodoli. Bydd Awdurdod Datblygu Cymru a Bwrdd Croeso Cymru yn peidio â bodoli fel endidau cyfreithiol o Ebrill 2006, a bydd angen i’r enwau brand, y logos a’r labeli ar gyfer y sefydliad newydd ei uno adlewyrchu’r sefyllfa newydd sydd ohoni yn hytrach na chyflawniadau’r gorffennol.

Caiff cwmnïau eu denu i Gymru oherwydd cryfder yr economi, ansawdd y gweithlu, y cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog a’r cymorth hyblyg, deinamig â gogwydd masnachol sydd ar gael gan y sector cyhoeddus, mewn un pecyn arbennig yn ddelfrydol, nid yn seiliedig ar enw ar ryw awdurdod datblygu economaidd. Yr oeddwn yn falch bod Macquarie, banc amlwladol o Awstralia, wedi dewis Casnewydd, nid Bryste, a chyda phencadlys newydd i’r de a’r gorllewin am gwmni seilwaith pibellau nwy newydd. Mae’r un peth yn wir am y cyhoeddiad ardderchog arall a wnaed heddiw, sef bod ATC Lasham yn dod â 300 o swyddi newydd yn RAF Sain Tathan.

Elfen allweddol o’r uno yw pwysigrwydd sicrhau bod Gweinidogion yn cael amrywiaeth o gyngor a her annibynnol arbenigol. Daeth yr ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth i ddiddymu’r WDA, WTB, ELWa ac ACCAC a throsglwyddo eu swyddogaethau i Lywodraeth Cynulliad Cymru i ben ym mis Gorffennaf. Ni chafwyd ymatebion, a chraffodd y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth a’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y ddeddfwriaeth fis diwethaf. Cyhoeddwyd y Gorchmynion ar fewnrwyd yr Aelodau ar 11 Hydref, a chânt eu trafod gan y Pwyllgor Busnes ar ddechrau mis Tachwedd. Caiff yr offerynnau statudol ar ddiddymu Bwrdd Henebion Cymru, Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru, a Phroffesiynau Iechyd Cymru eu cyflwyno gerbron y Cynulliad yn ystod tymor yr hydref.

Telir y rhan fwyaf o gostau’r uno o gyllidebau presennol Llywodraeth y Cynulliad a CCNCau. Yr ydym wedi gwneud darpariaeth o £4.7 miliwn ar gyfer eleni i dalu’r costau na ellir eu talu o’r adnoddau presennol. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, dyrannwyd cyllideb dros dro o £7.2 miliwn i dalu am gostau ychwanegol, gan gynnwys amcangyfrifon cynnar o gost ail gam y rhaglen uno, sy’n cwmpasu technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, hyfforddiant, a systemau gwariant. Fel yr amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori, bydd yr uno yn arwain at arbedion o £10 miliwn y flwyddyn o leiaf o 2009 ymlaen. Daw’r arbedion hyn o ganlyniad i uno swyddogaethau darparu gwasanaethau, diddymu byrddau CNCCau, ac integreiddio gwasanaethau a systemau cymorth corfforaethol rhanedig. Caiff yr arbedion eu hail-fuddsoddi mewn gwella gwasanaethau rheng flaen.

Fel y nodais, mae cam cyntaf yr uno yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, ac yr ydym wedi gwneud cynnydd da o ran yr elfennau eraill o uno CNCCau. Er enghraifft, dechreuodd ymgynghoriad ar yr offeryn statudol drafft i ddiddymu Proffesiynau Iechyd Cymru ym mis Medi, a daw i ben ar 24 Hydref. Parhau y mae’r gwaith o ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ei uned datblygu gweithlu, addysg a chomisiynu fel rhan o Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, a chaiff yr adroddiad ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae’r gwaith ar uno elfen Tir Gofal o Gyngor Cefn Gwlad Cymru ag Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Llywodraeth y Cynulliad yn mynd rhagddo’n dda. Caiff cyfrifoldeb cyfreithiol dros Tir Gofal ei drosglwyddo i Lywodraeth y Cynulliad ar 16 Hydref y flwyddyn nesaf, ac eir ati i sicrhau bod y ddeddfwriaeth ar waith i wneud hyn yn bosibl erbyn toriad yr haf.

Mae gan y Cynulliad a’i Lywodraeth weledigaeth glir, hirdymor i greu Cymru ddwyieithog. Wrth ddod â’r gwaith o ddatblygu a hyrwyddo’r Gymraeg i mewn i galon y Llywodraeth, gallwn sicrhau bod y swyddogaeth hon hefyd yn cael ei hystyried yn hanfod i’n gweinyddiaeth. Yn y cyfnod hyd at Ebrill 2007, ac ar ôl hynny, busnes fel arfer fydd hi o ran ein cefnogaeth i’r iaith Gymraeg. Ni fydd lleihad yn ein hymroddiad i’r iaith, a chaiff y swyddogaethau statudol ym Mesur yr iaith Gymraeg eu gweithredu yn ddi-dor. Yr ydym yn bwrw ymlaen â’r broses o integreiddio swyddogaethau strategaeth, polisi a chynllunio Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru gyda Chyfarwyddiaeth dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon y weinyddiaeth.

Bydd y broses uno yn creu craidd gwasanaeth cyhoeddus deinamig i Gymru, a fydd yn fwy atebol yn ddemocrataidd, yn arloesol, yn symlach ac yn gydgysylltiedig. Bydd yn rhoi gwell gwerth am arian o ran darparu gwasanaethau. Nid oes amheuaeth gennyf fod y broses uno yn gam bras ymlaen i greu Cymru newydd a mwy democrataidd i’n dinasyddion a’n cwsmeriaid.