Skip to content

Colli Swyddi yn SONY

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Mae’n flin iawn gennyf glywed bod cwmni Sony ar fin cyhoeddi eu bod yn ailstrwythuro’u cyfleusterau gweithgynhyrchu yng Nghymru. Bydd hyn yn golygu colli 84 swydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 210 swydd ym Mhencoed. Bwriedir cyflawni hyn drwy gynnig diswyddiadau gwirfoddol a phecynnau mwy manteisiol.

Mae Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda’r cwmni a byddant yn cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru ac Asiantaethau eraill er mwyn helpu’r rhai a gafodd eu diswyddo.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’r cwmni ar strategaeth er mwyn eu helpu i arallgyfeirio’u gwaith yng Nghymru. Yr wyf wedi sefydlu tîm prosiect i helpu’r cwmni ac maent eisoes wedi cyfarfod.

Er bod y cyhoeddiad yn newyddion drwg i’r cwmni, bydd Sony yn parhau i fod yn un o brif gyflogwyr ardal Pen-y-bont, gyda thros 1500 o staff. Penderfyniad masnachol ydyw ac yn sicr nid oedd yn un a wnaed ar chwarae bach. Yn bersonol yr wyf wedi ymrwymo i wneud pob dim o fewn fy ngallu i helpu’r cwmni, er mwyn iddynt barhau yn un o brif gyflogwyr Cymru.