Skip to content

Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog Cyllid
Mae’n bleser gennyf wneud datganiad heddiw ar Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Ebrill.

Mae creu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru yn elfen bwysig yn ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i godi safonau wrth ddarparu gwasanaethau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth ombwdsmon yn werthfawr wrth helpu sicrhau'r ymrwymiad hwnnw. Mae gennym dri ombwdsmon yng Nghymru ar hyn o bryd, sef y comisiynydd lleol, a elwir fel rheol yn Ombwdsmon Llywodraeth Leol, Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru, ac Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru. Mae pob ombwdsmon wedi gwasanaethu dinasyddion Cymru yn dda. Fodd bynnag, er mwyn i unrhyw ombwdsmon barhau i roi gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i’n dinasyddion, rhaid i'r gwasanaeth adlewyrchu’r ffordd y mae darpariaeth y sector cyhoeddus yn newid yng Nghymru, a gallu datblygu yn unol â hynny.

Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 wedi ei datblygu’n ofalus dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i sicrhau hyn, er mwyn rhoi system gwyno gydgysylltiedig i Gymru ar gyfer llywodraeth gydgysylltiedig—hynny yw, siop bopeth. Amlinellwyd y syniad am newid mewn dogfen ymgynghori yn 2002, ‘Gwasanaethau Ombwdsmon yng Nghymru: Amser am Newid?’. Cafwyd cefnogaeth unfrydol i ddatblygu gwasanaeth unedig. Felly, yn 2003, buom yn ymgynghori am bwerau ac awdurdodaeth fanwl y swydd newydd. Yr oedd yr ymgynghoriadau hyn yn sylfaen inni ar gyfer y Ddeddf hon.

Gyda’r sylfaen honno, yr oedd cyfle, pan ddaeth pob swydd yn wag ar yr un pryd, i benodi un person i lenwi'r tair swydd. Mae hyn wedi bod yn gam dros dro defnyddiol tuag at gyflawni’r amcan yn y pen draw o greu swydd unedig. O ganlyniad, mae Adam Peat yn dal pob un o'r tair swydd ombwdsmon sector cyhoeddus Cymru yng Nghymru, ac mae wedi gallu cynllunio a pharatoi ar gyfer y newidiadau a ddaw o reidrwydd yn sgîl y Ddeddf hon. Mae eisoes wedi symud ei swyddfeydd o Gaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr i un adeilad newydd ym Mhen-coed, sydd yn ardal Amcan 1.

Mae’r Ddeddf hon yn caniatáu’n ffurfiol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru gael ei greu. Mae’r Ddeddf yn diddymu swydd y Comisiynydd Gweinyddiaeth Leol yng Nghymru, Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru, Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru, ac yn ogystal, yn ddiweddarach eleni, Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru. Yn bwysicach na dim i’r cyhoedd, bydd yn darparu gwasanaeth modern, hyblyg a hygyrch.

Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi nifer o bwerau pwysig a newydd i’r ombwdsmon. Mae’n rhoi pwerau pwysig i’r ombwdsmon gynnal ymchwiliadau yn rhinwedd ei swydd. Ac mae hefyd yn caniatáu iddo geisio datrys anghydfodau rhwng achwynwyr a’r cyrff cyhoeddus perthnasol heb fod angen ymchwiliad ffurfiol.

Mae'n rhoi i’r ombwdsmon y pwer i roi canllawiau i'r holl gyrff sydd o fewn ei awdurdodaeth ar ofynion arferion gweinyddol da, sef pwer a oedd gan yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol yn unig o’r blaen. Mae hefyd yn caniatáu i’r ombwdsmon weithio ar y cyd ag ombwdsmyn eraill, gan gynnwys yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, o ran ymchwilio i gwynion ar draws awdurdodaethau neu ar draws ffiniau.

Yn olaf, mae’r Ddeddf yn darparu'n benodol i sicrhau y gall yr ombwdsmon, yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ystyried yn gyfolwg gwynion am ganlyniadau penderfyniadau a wneir gan weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol sy’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol clinigol. Byddwn yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth yn ddiweddarach eleni er mwyn dod â darpariaethau’r Ddeddf i rym, fel y gellir rhoi’r trefniadau newydd, a ddylai fod yn weithredol erbyn Ebrill 2006 fan bellaf, ar waith.

Hoffwn ddiolch i Weinidogion Swyddfa Cymru am eu cefnogaeth a’u cymorth wrth dywys y darn hwn o ddeddfwriaeth drwy’r Senedd yn llwyddiannus, yn ystod yr hyn a oedd yn sesiwn seneddol fer yn y pen draw. Yr oedd yn un o’r darnau olaf o ddeddfwriaeth i fynd drwy’r Senedd, ac yr wyf yn ddiolchgar i bawb dan sylw, gan gynnwys fy ngweision sifil i, am weithio’n galed i sicrhau hyn. Mae wedi rhoi inni enghraifft dda o ddatganoli ar waith. Fel y dywedodd Dr Tony Wright AS, cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus, yn Nhy’r Cyffredin, mae hwn yn Fesur ardderchog i Gymru, i’r graddau ei fod yn dangos manteision datganoli. Ac un o fanteision hynny yw ei fod yn ein galluogi i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac yn ysgogi diwygiadau yn y gwasanaeth ombwdsmon ar draws y DU gyfan.

Yr wyf yn ddiolchgar hefyd i Aelodau’r Cynulliad a gefnogodd yn llwyr ein cynnig ar gyfer y Ddeddf hynod fuddiol hon. Bydd yn rhoi i Gymru wasanaeth ombwdsmon o’r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.