Skip to content

Codi Safonau a Mynd i'r Afael â Llwyth Gwaith - Datganiad y Gweinidog ar Weithredu yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson,Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Bu digon o gyfle i ni ddathlu llwyddiant y system addysg yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda'n system addysg yn cyflawni gwell safonau y gallwn fod yn wirioneddol falch ohonynt.

Mae gwaith ein hysgolion yn ganolog i’r llwyddiant - yr athrawon, y penaethiaid, a staff cymorth sy'n gweithio gyda'n plant wrth iddynt ddysgu.  

Dim ond os oes gan y staff amser i ganolbwyntio ar addysgu a dysgu y gall ysgolion ddarparu'r addysg orau ar gyfer y disgyblion.  Mae angen amser ar benaethiaid i arwain eu hysgolion.  Mae angen amser ar athrawon i gynllunio ac i ystyried cynnydd eu disgyblion, ac i gael cymorth digonol ar gyfer eu gwaith yn y dosbarth.  Mae angen i staff cymorth mewn ysgolion gael eu hyfforddi a'u datblygu'n briodol, fel bod modd iddynt gyflawni eu swyddogaethau, a chyflog sy'n cydnabod eu swyddogaeth a'u gwerth yn ein hysgolion.  Mae angen i dîm yr ysgol gyfan gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Y Cytundeb: Roedd Codi Safonau a Mynd i'r Afael â Llwyth Gwaith, a lofnodwyd ym mis Ionawr 2003, yn pennu cynllun gweithredu ar gyfer y materion hyn.  Rwyf wedi llofnodi'r Cytundeb ac rwyf wedi ymrwymo i'w weithredu'n llawn ac yn llwyddiannus trwy Gymru gyfan. Mae'r manteision sy'n cael eu cynnig gan y Cytundeb wedi eu cydnabod a'u croesawu gan bob pennaeth, staff cymorth ac undebau'r athrawon.  

Mae'r gofyniad i gyflawni'r newidiadau i gontractau sy'n sail i'r Cytundeb
yn cael ei gynnwys erbyn hyn yn y ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â chyflogau ac amodau gwaith athrawon, sy'n parhau'n gyfrifoldeb Llywodraeth y DU.  O fis Medi 2003, cafodd athrawon eu rhyddhau o amryw o dasgau gweinyddol a chlercol.  O fis Medi 2004, cyfyngwyd ar yr amser yr oedd athrawon yn cael ei dreulio yn gweithio yn lle cydweithwyr sy'n absennol.  Yn dechrau'r mis hwn, Medi 2005, mae gan bob athro hawl i dreulio 10% o'r amser addysgu sydd ar yr amserlen yn cynllunio, paratoi ac asesu’r gwaith o ddysgu eu disgyblion.  

Yng Nghymru, rydym wedi bod yn cydweithio mewn partneriaeth â phawb sydd wedi llofnodi'r Cytundeb, i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu ym mhob ysgol. Cafwyd cynnydd da o ran ymrwymiad pob ysgol i baratoi cynlluniau i weithredu'r newidiadau i'r contractau erbyn y dyddiad statudol.  Mae hyn yn adlewyrchu’r ymdrechion sylweddol iawn gan ysgolion a Chydlynwyr Newid yr AALl a fu'n eu cynorthwyo'n uniongyrchol drwy hyfforddiant, cyngor a chymorth ymarferol.  Rwyf am adeiladu ar y bartneriaeth hon yn y flwyddyn a ddaw i helpu ysgolion i fireinio a gwella eu cynlluniau ymhellach yn y tymor hwy.

Rydym yn ymwybodol o nifer o enghreifftiau cadarnhaol iawn lle mae ysgolion wedi croesawu'r cyfle y mae'r Cytundeb yn ei roi i edrych eto ar sut y maent yn gweithio ac i lunio atebion arloesol i gyflawni’r newidiadau i'r contractau, a chyfoethogi profiad eu disgyblion.  Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo wedi cydweithio i lunio cynllun arloesol.  Bydd disgyblion blwyddyn chwech yn mynychu'r ysgol uwchradd ar brynhawniau Gwener i gymryd rhan mewn amryw o brofiadau addysgol megis Ffrangeg, dawns, drama ac Addysg Gorfforol, sy'n cael eu darparu gan staff arbenigol, gan ddefnyddio cyfleusterau arbenigol.  Bydd hyn yn galluogi athrawon blwyddyn chwech yr ysgol gynradd i gymryd eu hamser CPA mewn un cyfnod penodol bob wythnos, yn hwyluso’r cyfnod pontio i’r ysgol uwchradd ar gyfer y disgyblion, ac yn ehangu eu profiad addysgol.

Dylai unrhyw ysgol sy'n cael anhawster i weithredu'r newidiadau i'r contractau gysylltu â’u Cydgysylltydd Newid yn yr AALl ar unwaith i gael cymorth a chyngor.  Bydd swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cadw cysylltiad agos ag AALl i ddilyn hynt y rhaglen.

Hoffwn bwysleisio nad yw gweithredu'r newidiadau i'r contractau yn ddewisol.  Nid oes unrhyw ddull cyfreithiol i unrhyw bennaeth na chorff llywodraeth gyrraedd “cytundeb” neu drefniant lleol a fyddai naill ai'n golygu ei bod yn bosibl oedi cyn gweithredu'r gofynion i newid y contractau, neu'n golygu bod modd eu hosgoi. Nid yw'n gyfreithiol i weithredu'r amser cynllunio, paratoi ac asesu drwy anfon disgyblion adref. Mae methu â gweithredu gofynion y CPA yn golygu eich bod yn torri rhwymedigaethau cyfreithiol y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon.


Mae'r rhai sydd wedi llofnodi'r Cytundeb, sy’n cydweithio fel Grwp Monitro Cytundeb y Gweithlu (WAMG), wedi datgan y byddant yn monitro'r broses o weithredu'r newidiadau i'r cytundebau mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr.  Bydd yr ysgolion sydd heb gydymffurfio â'r newidiadau i'r contractau yn cael eu cyfeirio at yr AALl a'r Cydgysylltydd Newid perthnasol am gymorth ychwanegol.  Os nad oes cynllun yn cael ei baratoi wedi hyn, mae aelodau WAMG wedi nodi’n glir y byddant yn ystyried defnyddio'r ystod lawn o opsiynau cyfreithiol, ac opsiynau eraill lle y bo angen, i sicrhau bod y newid pwysig hwn yn cael ei weithredu ymhobman.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gydweithio â phob un o'r partneriaid i helpu i gyflawni’r newidiadau ar gyfer gweithlu ysgolion a fydd o fudd i ddisgyblion ac athrawon ledled Cymru.