Skip to content

Colli Swyddi yn Walkers Foods, Fforest-Fach, Abertwae

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Cyhoeddwyd y bore yma y bydd ffatri Walkers Foods yn Fforest-fach, Abertawe yn cau.

Rwyf yn gwybod y bydd Aelodau’r Cynulliad yn ymuno â mi i fynegi eu siom o glywed y newyddion hwn a’r effaith a gaiff ar y 250 o weithwyr a’u teuluoedd. Byddaf yn sicrhau y bydd fy swyddogion i yn ogystal â swyddogion yr asiantaethau eraill yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu’r rheini y mae’r newyddion hwn yn effeithio arnynt.

Galwodd y cwmni ei weithwyr i gyfarfod fore heddiw. Cyhoeddodd y bydd y ffatri yn cau erbyn mis Mawrth 2006. Bydd hanner y gweithwyr yn cael eu diswyddo erbyn mis Ionawr. Dywed y cwmni y bydd y gwaith o gynhyrchu ei fwydydd yn symud i’w safleoedd eraill ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Swydd Gaerhirfryn a County Durham. Dywed y cwmni y bydd hyn yn golygu y gall leihau costau drwy arbed arian ar gostau dosbarthu.

Bydd gweithwyr Abertawe yn cael cyfle i symud i safleoedd eraill Walkers. Rwyf eisoes wedi cysylltu ag USDAW, ac rwyf yn ffyddiog y bydd yr undeb ar y safle yn cefnogi ei aelodau yn gadarn yn ystod y cyfnod hwn.

Mae hyn yn newyddion siomedig iawn ac yn ddiwrnod trist i weithwyr Walkers a’u teuluoedd. Mae’r safle yn Fforest-fach, gyda’i dŵr cloc amlwg, yn adnabyddus i bawb yn Abertawe. Mae wedi cyflogi nifer o deuluoedd yr ardal ers degawdau, fel Smiths Crisps yn wreiddiol, ac yna fel Walkers yn ddiweddarach.

Rwyf wedi trafod y cyhoeddiad hwn gyda’r cwmni. Mae swyddogion o f’adran i, o Awdurdod Datblygu Cymru ac o Gyngor Abertawe yn cyfarfod y cwmni brynhawn heddiw i drafod y sefyllfa. Gallaf sicrhau’r Cynulliad y bydd pob cymorth yn cael ei gynnig. Byddaf mewn gwell sefyllfa i roi rhagor o fanylion i’m cydweithwyr yng nghyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth yr wythnos nesaf.

Mae hwn yn gyhoeddiad trist. Mae pob un ohonom yn Abertawe yn tristáu bod brand mor adnabyddus â Walkers yn dewis gadael yr ardal, a hynny ar ôl bod yma cyhyd.

Er na fydd hyn yn cynnig fawr o gysur i’r rheini y mae’r cyhoeddiad hwn yn effeithio arnynt, mae’r farchnad lafur yn Abertawe yn gadarn ac mae’r galw am lafur yn parhau’n uchel. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r gweithwyr y mae’r cyhoeddiad hwn yn effeithio arnynt i ddod o hyd i swyddi gwahanol a byddwn yn darparu hyfforddiant i feithrin sgiliau newydd os bydd angen. Er gwaethaf newyddion heddiw, mae’r diwydiant prosesu bwyd wedi bod yn eithaf llwyddiannus yn ardal Abertawe a’r cylch. Mae cyflogwyr mawr lleol megis Ethnic Cuisine yn Abertawe a Dawn Pac yn Crosshands yn dangos bod yr ardal yn parhau i fod yn gartref ymarferol i fusnesau yn y sector hwn.