Skip to content

Gwmni Pacio Caws Dyffryn Aeron

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Gyda gofid y mae’n rhaid imi hysbysu’r Cynulliad Cenedlaethol am gyhoeddiad Dairygold ei bod yn bosibl y bydd yn cau ei waith pecynnu, Caws Dyffryn Aeron, yn y Felin-fach. Deallaf i uwch-reolwyr y cwmni yn Iwerddon wneud y penderfyniad i ddechrau ymgynghoriad 90 diwrnod gyda’r staff fel rhan o’r adolygiad strategol o’r gweithrediadau.

Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu’r gorgapasiti ym maes pacio caws ar draws y Deyrnas Unedig, sydd wedi arwain at bacio llai a llai o gaws ar y safle. Mae’r cwmni’n gobeithio dod o hyd i ateb a fydd yn cynnal gwaith hyfyw yn y ffatri. Ar hyn o bryd, mae sawl posibilrwydd yn cael ei ystyried, a all, ysywaeth, gynnwys cau’r ffatri. Dylai’r cyfnod ymgynghori ganiatáu trafodaethau gydag unrhyw bartïon a allai fod â diddordeb mewn prynu’r safle, ond mae’n rhy gynnar i broffwydo’r canlyniad terfynol.

Blaenoriaeth gyntaf Llywodraeth y Cynulliad yw gweithio gyda chyrff sy’n bartneriaid i helpu i ganfod darpar brynwyr, ac i sicrhau y bydd gan y gwaith ddyfodol cynaliadwy. Wrth gwrs, ystyriwn unrhyw gais am gymorth, gan gynnwys cymorth ariannol, naill ai gan y cwmni neu gan unrhyw ddarpar brynwyr neu fuddsoddwyr yn y ffatri. Bwriadaf gwrdd ag uwch reolwyr Dairygold yn ddiweddarach yr wythnos hon i ymchwilio i ddewisiadau a chyfleoedd posibl i’r Cynulliad roi cymorth.