Skip to content

Goblygiadau Cytundeb Cyllideb yr Undeb Ewropeaidd i Gronfeydd Strwythurol Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan,y Brif Weinidog
Yn dilyn trafodaethau dwys ddiwedd yr wythnos diwethaf, cafwyd cytundeb ar Berspectif Ariannol newydd yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cyfnod o saith mlynedd a fydd yn dechrau yn 2007. Fel rhan o’r cytundeb pellgyrhaeddol hwn bydd rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer arian Amcan Un (a ail-enwyd yn ‘Cydgyfeirio’ ar gyfer y Rhaglen newydd) ar gyfer y cyfnod 2007/2013. Mae’n bosib y bydd gweddill Cymru yn gymwys ar gyfer y ffrwd ariannu a elwir ‘Cystadleurwydd’, a bydd cyfleoedd yn parhau ar gyfer cynnal mentrau rhyngwladol, megis Interreg.

Bydd dal ein gafael ar arian Amcan Un yng Nghymru am saith mlynedd arall, ynghyd â derbyn Rhaglen drosiannol, yn ôl pob tebyg, ar gyfer y cyfnod 2014-2019, yn rhoi hwb sylweddol i ddatblygu economaidd yng Nghymru. Mae posibilrwydd cryf y byddwn yn derbyn tystiolaeth ystadegol gan Eurostat yn fuan y flwyddyn nesaf, a fydd yn cadarnhau bod ffyniant yn cynyddu yng Nghymru. Cyfuniad o ffyniant uwch a buddsoddiad parhaol mewn sgiliau a seilwaith sy’n darparu’r gynsail orau posib ar gyfer gwella economi Cymru ymhellach.

Mae’r cytundeb yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adolygu gwariant yr UE yn ei grynswth yn 2008/09. Mae’n gwbl synhwyrol i unrhyw sefydliad ailedrych ar ei flaenoriaethau gwariant yn gyson, ac am y rheswm hwnnw rwy’n croesawu’r cynllun. Rwyf hefyd yn arbennig o falch i weld y bydd y gyfran o arian a glustnodwyd ar gyfer ymchwil yn codi gydol y cyfnod gwariant nesaf. Bydd hyn yn galluogi ymchwilwyr, cwmnïau, prifysgolion a sefydliadau ymchwil y Llywodraeth yng Nghymru i gynyddu eu gallu i ymchwilio, ac o ganlyniad i gynorthwyo’r broses o greu mwy o gyfoeth trwy gyfrwng sector gwybodaeth yr economi.

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i addasu telerau’r lleihad yng nghyfraniad Prydain tuag at yr UE, er mwyn cyfrannu, gydag eraill, at gyrraedd y lefel angenrhediol o fuddsoddiad strwythurol yn y deg gwlad a ymunodd â’r UE y llynedd. Mae elfennau hanfodol yr ad-daliad ‘hanesyddol’ yn parhau yn eu lle, a bydd cyfanswm ad-daliad Prydain yn codi, yn hytrach na gostwng, yn ystod cyfnod y gyllideb nesaf.

Mae dod i gytundeb ar y Gyllideb yn rhoi hwb sylweddol i’r gwaith paratoi sydd eisoes ar y gweill ar gyfer y cylch newydd o Raglenni. Ar y cyd â’n partneriaid yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, mae gennym bellach 12 mis llawn i barhau i ddatblygu ein paratoadau, cyn i’r Rhaglenni ddechrau yn fuan yn 2007. Roedd y cyfnod paratoi blaenorol yn 1999 yn rhy fyr. Roedd y cytundeb hwyr ar Gyllideb yr UE yr adeg hwnnw yn golygu mai prin oedd yr amser i roi’r wedd derfynol ar y Rhaglenni, a arweiniodd at ohirio’r broses o gytuno’r Rhaglenni cyn y dyddiad dechrau swyddogol, sef 1 Ionawr 2000.

Yn achos y cylch newydd o Raglenni mae’n falch gennyf ddweud ein bod wedi symud ymlaen ers sicrhau’r fargen unigryw a alwyd Barnett Plus, ac a gytunwyd â Changhellor y Trysorlys er mwyn darparu arian ychwanegol i Gymru. Yn ei Adroddiad Rhag-gyllidebol diweddar dywedodd y Canghellor y bydd yn trin arian yr UE fel derbynneb uniongyrchol i gyllideb y Cynulliad, a gallwn felly edrych ymlaen at dderbyn arian sefydlog ar gyfer Rhaglenni 2007-13. Bydd hyn yn cysylltu ein gallu i wario yn uniongyrchol â’r adnoddau a ddaw i law oddi wrth yr UE, ac ni fydd angen bellach inni drafod cytundeb tebyg i Barnett Plus â Llywodraeth Prydain.

Er nad yw cynigion y Comisiwn ar gyfer y Canllawiau Cymorth Rhanbarthol, a fydd yn berthnasol yn 2007-2013, yn gysylltiedig o gwbl â Chyllideb yr UE, mae’r cytundeb ar y Gyllideb yn golygu y bydd busnesau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd yn medru parhau i elwa ar y lefel uchaf o gymorth buddsoddi sydd ar gael ym Mhrydain. Mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn un o ddwy ardal yn unig ym Mhrydain sydd wedi cadw statws Erthygl 87 3 (a); Cernyw ac Ynysoedd Scilly yw’r ardal arall. Bydd hefyd lefel is o gymorth grant ar gael mewn rhannau o ddwyrain Cymru, a fydd yn cael ei bennu yn y gwanwyn.

Yn ei rôl fel Llywydd yr UE, dywedodd y Prif Weinidog fod “argyfwng difrifol iawn wedi cael ei osgoi”. Dod i gyfaddawd yw man terfyn unrhyw drafodaeth ar gyllideb, ac mae’r fargen hon yn dod â misoedd o ansicrwydd i ben, ynghyd â’r posibilrwydd o fisoedd pellach o drafferthion. Rwyf i o’r farn bod y cytundeb a sicrhawyd gan Lywyddiaeth Prydain yn fanteisiol i Gymru, i Brydain ac i Ewrop gyfan.