Skip to content

Datganiad ar Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth ar Anweithgarwch Economaidd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth (Andrew Davies)
Yr wyf yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, ‘Anweithgarwch Economaidd yng Nghymru’. Mae cynnydd mawr wedi’i wneud yn y blynyddoedd diwethaf gyda gweddnewid economi Cymru. Cyrhaeddodd cyflogaeth ei lefel uchaf erioed ym misoedd cyntaf y flwyddyn hon, sef 1,339.000. Mae diweithdra bellach ar ei lefel isaf ers Ionawr 1975, dros 30 o flynyddoedd yn ôl. Mae cyfradd diweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol o 4.3 y cant yng Nghymru yn is na’r cyfartalog ar gyfer y DU, sef 4.8 y cant. Er gwaetha’r llwyddiant hwn, fodd bynnag, mae cydnabyddiaeth lwyr o’r ffaith bod anweithgarwch economaidd yn gymharol uchel yng Nghymru o’i gymharu â gweddill y DU. Mae cydnabyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru o ba mor bwysig yw’r mater hwn yn cael ei phrofi’n llawn gan y ffaith bod ei hymateb i adroddiad y pwyllgor yn dilyn ymlaen o ddadansoddiad diweddar arall o’r sefyllfa, yn yr adroddiad ar ‘Codi Cyfraddau Gweithgarwch Economaidd’ a gynhyrchwyd gan y grwp gorchwyl a gorffen ar weithgarwch economaidd. Fel gyda’r adroddiad pwyllgor, mae ‘Codi Cyfraddau Gweithgarwch Economaidd’ yn gwneud cyfres o argymhellion. Mae’r rhain yn cynnig gweithredu ar sail pobl ym mhob un o’r meysydd polisi perthnasol, dros y tymor byr a hir, a gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ar feysydd polisi heb eu datganoli yn ogystal â thrwy fesurau a chynigion ategol i gryfhau mynediad at swyddi mewn marchnadoedd llafur lleol.

Mae’n glir o bob un o’r dadansoddiadau a wnaed bod llawer o bobl yng Nghymru sy’n economaidd anweithgar yn wynebu cymysgedd dyrys o rwystrau, sy’n eu pellhau oddi wrth y farchnad lafur. Mae’r rhwystrau hyn yn amrywio o effaith sgiliau isel at broblemau cyflyrau iechyd sy’n eu hatal rhag gweithio, trafnidiaeth, gofal plant, argaeledd swyddi, yn ogystal â rhwystrau a grëir gan y system fudd-daliadau bresennol.

Un o’r prif ddatblygiadau yn y tymor byr i geisio ateb y sefyllfa hon yw’r gyd-fenter Yn Awyddus i Weithio, sydd wedi’i datblygu gan Lywodraeth y Cynulliad gyda’r Ganolfan Byd Gwaith yn y flwyddyn ddiwethaf, ac sydd bellach ar waith mewn tair ardal awdurdod lleol, Caerdydd; Merthyr Tydfil a Chastell Nedd Port Talbot. Mae’r prosiect yn treialu mesurau i ysgogi a chefnogi pobl sy’n awyddus i weithio i ddod o hyd i waith ac i symud yn eu blaenau. Yn y tymor hwy, canolbwyntir ar amrediad o fesurau ymyrryd-yn-fuan i geisio gwella lefelau sgiliau ac i roi i bob person ifanc yr arfau angenrheidiol i oresgyn unrhyw anfantais gynhenid yn eu cymunedau. Mae corff sylweddol o dystiolaeth ddiymwad yn dangos bod angen polisi i roi sylw i’r blynyddoedd cynnar ym mywydau plant ac y dylid cynnal yr ymrwymiad hwnnw er mwyn parhau i frwydro yn erbyn cyrhaeddiad isel yn y blynyddoedd dilynol.

Mae fy nghyd-aelodau yn y Cabinet a minnau yn rhannu gweledigaeth lle bo gan bawb yng Nghymru y sgiliau, y cymhelliad a’r cyfle i ddod o hyd i waith a swyddi o ansawdd da fel eu bod yn gwireddu eu dyheadau ac yn cyflawni yn ôl eu gallu.

Drwy ein strategaeth ‘Cymru’n Ennill’, yr ail gynllun gweithredu sgiliau a chyflogaeth—a lansiwyd gan Jane Davidson a minnau rai misoedd yn ôl—a’r strategaeth sgiliau sylfaenol, cyflwynwn ein nodau a’n hamcanion i gryfhau ein gallu i ateb y diffyg sgiliau, i greu economi amrywiol ac i sicrhau bod gan bobl y cyfle i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy.

Er hynny, yr ydym yn cydnabod bod yn rhaid cymhwyso mesurau i geisio codi cyfraddau gweithgarwch ar draws sawl maes portffolio. Gan fod ystod o faterion eisoes wedi eu codi yn yr adroddiad ‘Codi Cyfraddau Gweithgarwch Economaidd’, mae cryn dipyn o waith eisoes ar y gweill, neu yn yr arfaeth i’w gyflwyno’n fuan, ym mhob un o’r meysydd polisi y cyfeirir atynt yn yr argymhellion a wneir yn adroddiad y pwyllgor.

Fel a nodir yn glir yn fy natganiad ysgrifenedig, derbyniwn yr holl argymhellion yn yr adroddiad, ar wahân i un—argymhelliad 16. O’r 25 argymhelliad sy’n weddill, derbynnir y rhain i gyd yn llawn, ar wahân i ddau, sef argymhellion 11 a 12, a dderbynnir mewn egwyddor.

Mae argymhellion 11, 12 a 16 i gyd yn cyfeirio at ddefnyddio marchnadoedd llafur trosiannol i helpu pobl sy’n economaidd anweithgar i ddod o hyd i waith. Cyfyd nifer o faterion ynghylch manteision ac anfanteision posibl marchnadoedd llafur trosiannol. Fel y dywed adroddiad y pwyllgor ei hun, mae gan y model marchnad lafur drosiannol ei wendidau, tra’n cydnabod nad oes gan amryw o gyfranogwyr posibl y nodweddion angenrheidiol i fynd ar y rhaglen a symud yn eu blaenau. Wedi dweud hynny, derbyniwn y farn bod gan farchnadoedd llafur trosiannol rôl gyda helpu pobl i ddod o hyd i waith. Fodd bynnag, i geisio datrys diweithdra yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, byddai angen targedu y rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, a’r rhai sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf cymhleth. Rhaid inni hefyd fod yn ddi-ildio yn ein hymrwymiad i sicrhau darpariaeth o safon uchel; yn enwedig felly yng nghyswllt darparu gofal plant, lle gall darpariaeth o ansawdd is wneud mwy o ddrwg nag o dda.

Ar y sail hon y derbyniwn, mewn egwyddor, argymhelliad 11 sy’n cyfeirio at foddion i sicrhau mwy o gydgysylltu wrth ddatblygu partneriaethau marchnadoedd llafur trosiannol, ac argymhelliad 12, yng nghyswllt y cynnig i ystyried pa sgôp sydd i ddefnyddio marchnadoedd llafur trosiannol i lenwi’r bylchau yn narpariaeth trafnidiaeth a gofal plant. Er hynny, ac ystyried ein hymrwymiad i ddarparu gofal plant o safon yng Nghymru, ni allwn dderbyn argymhelliad 16, sef i hyrwyddo ac annog gofal plant drwy ddefnyddio marchnadoedd llafur trosiannol.

I gloi, prif nod y pwyllgor wrth baratoi’r adroddiad ar anweithgarwch economaidd oedd cyflawni adolygiad a fyddai’n arwain at weithredu cadarnhaol. Credaf fod yr adroddiad a’i argymhellion yn llwyfan ardderchog y gall Llywodraeth y Cynulliad ei ddefnyddio i lansio ystod o fesurau i geisio datrys y broblem fwyaf, efallai, sy’n wynebu’r economi yng Nghymru: sef datrys cyfraddau gweithgarwch isel.

Diolchaf i’r Cadeirydd ac i’r pwyllgor am yr adroddiad, ac am ei gyfraniad pwysig i’r drafodaeth holl bwysig hon. Edrychaf ymlaen at weld cynnydd yn cael ei wneud ar y gweithredu arfaethedig, wrth inni barhau i ganolbwyntio ar ddau o’r amcanion allweddol yn y ddogfen ‘Cymru: Gwlad Well’: sef, helpu mwy o bobl i ddod o hyd i waith, a chreu gwell swyddi a sgiliau.