Skip to content

Yr Amgylchedd Hanesyddol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh , Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Bydd yr Aelodau’n cofio fy mod wedi gwneud datganiad ar yr adolygiad o’r amgylchedd hanesyddol y llynedd. Bryd hynny, amlinellais gamau cenedlaethol a lleol er mwyn sicrhau bod y dreftadaeth fendigedig sydd gennym yng Nghymru yn dal i gael ei gwarchod, ynghyd â ffyrdd o sicrhau bod cymunedau’n ymwneud mwy â’r gwaith. Yn dilyn hyn, yr ydym wedi sefydlu nifer o gamau allweddol.

Er mwyn sicrhau cyswllt priodol rhwng y prif sefydliadau, sefydlwyd grwp amgylchedd hanesyddol, dan gadeiryddiaeth swyddogion Cadw. Yn ei gyfarfodydd cynnar, un o’i dasgau cyntaf oedd edrych ar ganllawiau a oedd yn cael eu paratoi gan y Cynulliad ar gyfer awdurdodau lleol a’u partneriaid er mwyn datblygu strategaethau cymunedol ac, yn fwyaf arbennig, ar gyfraniad yr amgylchedd hanesyddol i les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardaloedd. Yr oeddwn yn falch o gael cyfle yr wythnos diwethaf yn Llanfair-ym-Muallt i ystyried y canllawiau hyn ymhellach, mewn cyfarfod gyda Sue Essex a phrif swyddogion yr awdurdodau lleol.

Mae’r grwp amgylchedd hanesyddol hefyd yn ystyried y posibilrwydd o gael y prif sefydliadau i weithio gyda’i gilydd er mwyn rhoi mwy o sylw i’r amgylchedd hanesyddol fel cyfrwng addysgol, mewn ysgolion i ddechrau. Mae llawer o waith da wedi ei wneud yn barod. Er enghraifft, mae Cadw yn cynnig ymweliadau di-dâl i blant ysgol, ac mae sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru hefyd yn gweithio’n galed yn y maes hwn. Fodd bynnag, mae’r grwp wedi nodi bod angen dull gweithredu mwy strategol. I ddechrau, bydd yn nodi anghenion a blaenoriaethau penodol gyda’r bwriad o ddatblygu deunyddiau ar y we a chysylltiadau gydag adnoddau fel y grid cenedlaethol ar gyfer dysgu. Trafodir hyn yng nghyfarfodydd y grwp yn y dyfodol. Bydd annog plant ysgol i ymddiddori mewn hanes lleol a chenedlaethol yn help i ddatblygu gwerthfawrogiad deallus o bwysigrwydd yr henebion, yr adeiladau a’r tirweddau hanesyddol hyn sy’n rhan o’n bywydau. Bydd plant ysgol, gobeithio, yn dal i gofio hyn wedi iddynt dyfu i fod yn oedolion.

Mae rheolaeth ofalus Llafur dros yr economi, yng Nghymru a thrwy’r DU, wedi sicrhau lefelau cyflogaeth uchel, yn wahanol iawn i’r diweithdra mawr a gafwyd dan y Torïaid. Fodd bynnag, un o sgîl-gynhyrchion cyflogaeth bron yn llawn yw prinder sgiliau. Y dasg a osodwyd i’r grwp felly oedd sicrhau gweithlu medrus a chymwys i gefnogi’n hagenda. Yn fwyaf arbennig, yr wyf yn awyddus i sicrhau bod gennym bobl sy’n meddu ar sgiliau crefft arbenigol.

Mae’n bwysig nad yw perchnogaeth, yn ei ystyr ehangaf, o’r amgylchedd hanesyddol yn cael ei adael i gyrff statudol yn unig. Yn fy natganiad y llynedd, canolbwyntiais ar fentrau cymunedol. Mae Cadw’n datblygu ei gynllun grantiau dinesig ac mae’n bleser gennyf heddiw, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru, gyhoeddi gwobr ddylunio newydd. Nod cynllun gwobrau dylunio’r ymddiriedolaeth yw gwobrwyo rhagoriaeth mewn dylunio, mewn adeiladau newydd ac adeiladau hanesyddol sy’n cael eu gwarchod. Cyflwynir gwobr newydd yn awr gan Lywodraeth y Cynulliad i gydnabod gwaith dylunio da sy’n caniatáu i bobl anabl fynd i adeiladau hanesyddol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi canllawiau ar fynediad yn ‘Goresgyn y Rhwystrau’, a bydd y wobr newydd yn rhoi sylw i flaenoriaethau’r canllawiau hyn ac yn dathlu rhagoriaeth yn y maes. Yr wyf yn falch bod y Cynulliad yn gallu cymryd rhan fel hyn, a hyderaf y bydd cymdeithasau dinesig a grwpiau mynediad lleol yn dod at ei gilydd er mwyn sicrhau nifer dda o geisiadau.

Yr wyf yn awyddus i weld adeiladau o bwysigrwydd lleol sy’n wag neu sydd mewn perygl yn cael eu defnyddio unwaith eto gan y gymuned, yn enwedig er mwyn annog ffyrdd iachach o fyw. Drwy ein partneriaid—Cyngor Chwaraeon Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri—yr ydym wedi bod yn gweithio mewn cysylltiad agos â chymunedau lleol a chyrff statudol er mwyn canfod adeiladau posibl. Gobeithiaf gyhoeddi rhai cynlluniau peilot cyn bo hir.

Mae mudiadau gwirfoddol fel ymddiriedolaethau cadw adeiladau lleol, wedi llwyddo i drawsnewid adeiladau hanesyddol pwysig o fod yn sgerbydau gweigion i fod yn adeiladau defnyddiol a fydd yn hyfyw am flynyddoedd eto. Wrth annerch cynhadledd genedlaethol Cymdeithas yr Ymddiriedolaethau Cadw tua blwyddyn yn ôl, dysgais lawer am werth y mudiad. Yr wyf yn falch, o ganlyniad i benodi gweithiwr dynodedig ar gyfer Cymru, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan y Cynulliad, bod nifer yr ymddiriedolaethau sydd yng Nghymru ar gynnydd.

Mae gwir angen cynyddu ymwybyddiaeth o’n hamgylchedd hanesyddol ynghyd â’i bwysigrwydd a’i werth cymdeithasol ac economaidd. Mae’r Cynulliad yn gwneud llawer, ac yn bwriadu gwneud mwy, drwy roi fframwaith cryfach i drefniadaeth ein treftadaeth adeiledig. Mae Cadw wedi bod yn rhan annatod o Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy’r adeg, gan adrodd yn uniongyrchol i mi, ond mae ei statws fel asiantaeth weithredol wedi creu rhywfaint o ddryswch yn y cyswllt hwn. Felly, cyhoeddaf y bydd ei statws yn newid, o 1 Gorffennaf ymlaen, ac y bydd yn dod yn gyfarwyddiaeth, fel Cymal a’r gyfarwyddiaeth ddiwylliant, sydd hefyd yn rhan o’m portffolio. Y flwyddyn nesaf, bydd yn dod yn rhan o’r adran ddiwylliant newydd, integredig a fydd yn cael ei sefydlu.

Mae tri chorff arall sy’n cael eu hariannu ag arian cyhoeddus yn gweithio yn y maes hwn—y Cyngor Adeiladau Hanesyddol, y Bwrdd Henebion, a’r Comisiwn Brenhinol Henebion. Er y bydd Cadw yn cadw ei enw i ddibenion masnachu a gweithredu, bwriadwn uno cyhoeddiadau a gwaith cyflwyno’r pedwar corff dan y teitl Historic Wales/Cymru Hanesyddol, fel y ceir gwell dealltwriaeth o themâu ac amcanion cyffredin. Wrth gwrs, nid yw’r rhan fwyaf o’r asedau hanesyddol yng Nghymru yn eiddo i’r cyhoedd. Er bod y Cynulliad a’n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol yn berchen ar nifer sylweddol o’r asedau hyn, mae mwy ohonynt ym meddiant ymddiriedolaethau, grwpiau crefyddol ac unigolion preifat. Gallwn ddarparu amddiffyniad statudol ar gyfer y rhannau pwysicaf ohonynt, a chyngor ariannol a thechnegol ar gyfer eu cadw er mwynhad cenedlaethau’r dyfodol, ond rhaid i’r gwaith o reoli ein hamgylchedd hanesyddol fod yn gydymdrech sydd yn cynnwys holl bobl Cymru. Er mwyn meithrin mwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth ymysg y cyhoedd y dechreuasom