Skip to content

Weithredu Adroddiad Bichard

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ar 11 Ionawr, gosododd yr Ysgrifennydd Cartref, Charles Clarke, gopïau o adroddiad cynnydd y Llywodraeth ar weithredu argymhellion Ymchwiliad Syr Michael Bichard yn Llyfrgelloedd Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi. Dyma'r Ymchwiliad i'r materion oedd yn deillio o lofruddiadau Soham.  Mae mwyafrif helaeth yr argymhellion yn ymwneud â swyddogaethau nad ydynt wedi'u datganoli, sy'n berthnasol i Gymru ac i Loegr fel ei gilydd.  Derbyniodd y Llywodraeth bob un o'r 31 argymhelliad yn adroddiad yr Ymchwiliad pan y'i cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2004, ac mae'r Llywodraeth a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i llwyr ymrwymedig i gyflawni'r holl raglen o newid angenrheidiol.  Ym mis Mehefin, dywedodd Syr Michael ei fod yn bwriadu ailgynnull ei Ymchwiliad chwe mis ar ôl cyhoeddi ei ganfyddiadau, ac ym mis Tachwedd y llynedd, gwnaeth gais ffurfiol am adroddiad i'w gynorthwyo â'r gwaith hwn.  Anfonwyd yr adroddiad hwn at Syr Michael ar 22 Rhagfyr.

Lluniwyd yr adroddiad cynnydd ar ran y Llywodraeth a'r amryw o randdeiliaid eraill (gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad) a gyfrannodd at y broses o roi'r argymhellion ar waith.  Mae'n nodi'r cynnydd sylweddol a gafwyd yn y broses honno. Gellir crynhoi'r argymhellion i bedwar prif faes.  Y rhain yw datblygu seilwaith TG genedlaethol ar gyfer helpu'r heddlu i ddelio â chudd-wybodaeth a gwybodaeth arall; cyflwyno Cod Ymarfer statudol i'r heddlu ar reoli gwybodaeth; gwella mesurau amddiffyn plant ac oedolion sy'n agored i niwed, gan gynnwys cynllun cofrestru ar gyfer y rheini sy'n dymuno gweithio gyda'r grwpiau hyn; a nifer o welliannau i'r prosesau presennol ar gyfer gwirio pobl.

Mae'r adroddiad yn nodi beth sydd wedi'i gyflawni ym mhob un o'r meysydd hyn, ac y mae'n cynnwys cynlluniau a cherrig milltir ar gyfer camau yn y dyfodol.  Dyma rai o'r blaenoriaethau:

  • Mae system TG genedlaethol wedi ei sefydlu fel y gall yr heddlu rannu gwybodaeth, er mwyn darparu system i rannu gwybodaeth yn genedlaethol ac i foderneiddio'r gwasanaethau gwybodaeth canolog sydd ar gael drwy Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Mae'r system hon yn cael ei chyflwyno trwy gyfrwng y rhaglen IMPACT (y rhaglen Rheoli, Blaenoriaethu, Dadansoddi, Cydgysylltu a Defnyddio Gwybodaeth).  O ddechrau 2005 ymlaen, bydd ffyrdd newydd o rannu gwybodaeth ar gael i heddluoedd lleol a'r Swyddfa Cofnodion Troseddol trwy gyfrwng system Croes-wirio Lleol yr Heddlu (y system PLX), a bydd y system yn cael ei gwella gam wrth gam nes y bydd y rhaglen IMPACT yn dod i ben yn 2007;
  • Bydd Cod Ymarfer statudol yn cael ei llunio i'r heddlu ar reoli gwybodaeth.  Mae Cod drafft eisoes wedi ei lunio ac wedi'i gyhoeddi yn destun ymgynghoriad. Mae wedi ei atodi at yr adroddiad cynnydd, a'r bwriad yw y daw i rym erbyn mis Mai 2005. Caiff ei ategu gan ganllawiau gweithredol manwl i'r heddluoedd lleol a bydd yn helpu i sicrhau bod y penderfyniadau ynghylch adolygu, cadw, dileu a rhannu gwybodaeth yn cael eu gwneud mewn modd cyson;
  • Mae cynllun cofrestru yn cael ei ddatblygu ar gyfer y rheini yr ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.  Mae'r cynllun hwn ar waith, a bydd yn adeiladu ar y rhestrau presennol o'r rheini sydd wedi'u gwahardd, er mwyn creu system gynhwysfawr, ganolog ac integredig i atal pobl anaddas rhag dod i gysylltiad â grwpiau o bobl sy'n agored i niwed trwy waith cyflogedig neu waith gwirfoddol.  Bydd y penderfyniadau terfynol ar fanylion y cynllun yn cael eu gwneud ar sail canlyniad astudiaeth ddichonoldeb, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn gynnar yn 2005
  • Bydd y gweithdrefnau recriwtio staff ym myd addysg yn cael eu gwella, er mwyn adlewyrchu'r arferion gorau o ran amddiffyn plant;
  • Mae cyngor eisoes wedi'i gyhoeddi i bob awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, yn pwysleisio'r  pwysigrwydd o rannu gwybodaeth yn effeithiol gyda'r heddlu mewn perthynas â throsedddau gwirioneddol neu honedig yn erbyn plant. Yn ogystal, bydd canllawiau newydd cynhwysfawr yn cael eu datblygu erbyn mis Rhagfyr 2005 fel rhan o'r canllawiau mwy cyffredinol ar gyfer y Byrddau Lleol Diogelu Plant; a
  • Bydd y gweithdrefnau presennol ar gyfer gwirio pobl yn cael eu datblygu a'u gwella. Mae Fframwaith Sicrhau Ansawdd i gynorthwyo heddluoedd lleol i gyflawni'r swyddogaethau yn y broses wirio eisoes wedi'i dreialu'n effeithiol, a bydd yn cael ei gyflwyno i bob heddlu lleol erbyn mis Hydref 2005.

Mae'n hanfodol rhoi'r un lefel o ddiogelwch i bob plentyn a pherson arall sy'n agored i niwed, lle bynnag y maent ym Mhrydain. Felly, mae Llywodraeth y Cynulliad a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill wedi bod yn cymryd rhan allweddol yn y rhaglen hon. Yn achos rhai o'r argymhellion, bydd y llwybr tuag at eu gweithredu yn amrywio rhwng y gwahanol awdurdodaethau, ond mae'r amcan o sicrhau systemau effeithiol, integredig yn parhau yr un. Mae'r trefniadau rhwng y gwahanol awdurdodaethau wedi'u nodi yn fanylach yn yr adroddiad. Gosodwyd copïau o'r adroddiad hwn yn Llyfrgell y Cynulliad.

Mae'r Llywodraeth a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau yn llwyr ymrwymedig i weithredu argymhellion Syr Michael Bichard yn llawn, ac i sicrhau bod yr adnoddau anrheidiol ar gael er mwyn gwireddu hynny.