Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasaenthaethau Cymdeithasol
Yn gyntaf, rwyf am gydymdeimlo â'r unigolion hynny a'u teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan yr haint hwn, yn enwedig yr unigolion hynny oedd angen gofal yn yr ysbyty. Mae'r nifer fawr o blant sydd wedi bod yn destun ymchwiliad yn parhau i beri pryder inni i gyd. Er bod llai o achosion newydd erbyn hyn, rwy'n parhau i annog rhieni sy'n bryderus am eu plant i geisio cymorth meddygol. Bu nifer o achosion o E.coli O157 yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Pen-y-bont a Chaerffili. Ers y cychwyn, mae dros 115 o achosion wedi dod i'r amlwg, gyda chwarter ohonynt yn cael eu hanfon i'r ysbyty. Rydym yn dibynu ar y Tîm Rheoli Achosion i roi’r niferoedd diweddaraf inni.
Gyda'r mesurau rheoli'n profi'n effeithiol mewn ysgolion, mae disgwyl y bydd y rhan fwyaf o achosion newydd wedi cael yr haint y tu allan i’r ysgolion. Mae'n parhau'n debygol y bydd nifer yr achosion yn cynyddu ymhellach. Nid oherwydd bod ffynhonell yr haint yn parhau i fodoli, ond oherwydd ei fod yn cymeryd amser i'r germ fagu - weithiau dros wythnos - ac mae achosion newydd yn parhau i godi gan iddynt gael y germau cyn i'r mesurau rheoli ddod i rym ar ddechrau'r wythnos ddiwethaf. Erbyn hyn, mae achosion wedi dod i’r amlwg o 32 o ysgolion lle y mae'n ymddangos bod dod i gysylltiad â'r ffynhonnell wedi arwain at heintio.
E. coli O157 yw un o'r cannoedd o fathau o'r bacteriwm Escherichia coli. Er bod y rhan fwyaf o'r mathau o’r bacteriwm yn ddiniwed, ac yn byw yng ngholuddion pobl ac anifeiliaid iach, mae'r math hwn yn cynhyrchu gwenwyn pwerus, a gall achosi salwch difrifol. Gallai bwyta cig sydd heb ei goginio ddigon i ladd E. coli O157 achosi’r haint. Yn aml, mae haint E.coli O157 yn achosi dolur rhydd gwaedlyd difrifol, a phoenau yn y stumog; weithiau mae'r haint yn achosi dolur rhydd heb waed, neu dim symptomau o gwbl. Fel arfer, ychydig o dymheredd sydd, neu dim tymheredd o gwbl, ac mae'r salwch yn gwella mewn 5 i 10 diwrnod. Mewn rhai pobl, yn enwedig plant dan 5 oed a phobl oedrannus, gall yr haint hefyd achosi cymhlethdod o'r enw syndrom wremig hemolytig, pan gaiff y celloedd gwaed coch eu difa, ac mae'r arennau'n peidio â gweithio. Mae canran fach o achosion yn arwain at y cymhlethdod hwn.
Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn cyfweld pob achos, a phobl sydd â chysylltiad agos, fel rhan o ymchwiliad manwl ehangach i nodi'r ffynhonnell bosibl. Mae Tîm Rheoli Achos, sy'n cynnwys swyddogion Awdurdodau Lleol, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, y Bwrdd Iechyd Lleol, Ysbytai a'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn goruchwylio'r ymchwiliadau i sicrhau ein bod yn darganfod ffynhonnell yr haint, a bod y camau priodol yn cael eu cymryd cyn gynted â phosibl. Hoffwn ddiolch i'r Tîm Rheoli Achosion am eu gwaith hyd yma. Mae eu cyngor awdurdodol wedi rhoi hyder i'r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio, ac maent wedi rhoi cyngor sydd wedi helpu pobl i gyfyngu ar ymlediad yr haint.
Cysylltwyd ag ysgolion a chawsant gyngor i:
• sicrhau bod gan ddisgyblion hylendid personol da;
• atal, dros dro, y gweithgareddau a allai ei wneud yn haws i'r germau ymledu - chwarae â thywod/dŵr, chwarae â chlai, a choginio;
• sicrhau bod glanhau trylwyr yn dilyn achosion o ddolur rhydd neu daflu i fyny yn eu hysgol;
• cynnig prydau poeth yn unig amser cinio.
Cysylltwyd â rhieni disgyblion i roi cyngor iddynt i sicrhau bod eu plant yn defnyddio hylendid personol da.
Sefydlodd y Tîm Rheoli Achosion gysylltiad rhwng cig oedd wedi’i goginio a ddarparwyd gan gwmni John Tudor a’i Fab o Ben-y-bont, â'r achosion o salwch. Mae'n bwysig pwysleisio nad yw hyn yn golygu mai'r cynnyrch hwn, o angenrheidrwydd, a achosodd yr haint. Cafwyd samplau i wneud profion microbiolegol arnynt, ac rydym yn aros am ganlyniadau'r profion hynny. Bu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont yn ymweld â safle'r cwmni o Ben-y-bont ddydd Llun 19 a dydd Mawrth 20 Mawrth. Cymerwyd camau gwahardd ganddynt yn seiliedig ar yr amodau a gafwyd ar y safle, ac yn dilyn hyn, penderfynwyd y dylid peidio â defnyddio cig wedi’i goginio o safle John Tudor a’i Fab o Ben-y-bont.
Cafodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd restr o gwsmeriaid John Tudor a’i Fab o Ben-y-bont ddydd Mercher 21 Medi. Roedd y rhestr hon yn cynnwys cwmnïau arlwyo sefydliadol megis ysgolion, canolfannau dydd, meithrinfeydd a chanolfannau hamdden. Penderfynodd yr Asiantaeth ryddhau "Rhybudd Bwyd i'w Weithredu" i bob awdurdod lleol yng Nghymru, yn gofyn iddynt gysylltu â sefydliadau arlwyo a manwerthu, gan gyfeirio at y rhestr.
Cyhoeddodd yr Asiantaeth ddatganiad hefyd, yn cyhoeddi enw'r cwmni i'r cyhoedd, ac yn gofyn i unrhyw fusnesau bwyd sy'n derbyn cyflenwadau o gig wedi'i goginio gan y cwmni hwnnw, i'w tynnu oddi ar y farchnad, ac i hysbysu eu hawdurdod lleol.
Roedd yr Asiantaeth yn cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont i geisio llunio rhestr lawn o safleoedd, oedd o bosib wedi derbyn cyflenwadau o gig wedi'i goginio gan y cwmni o Ben-y-bont. Wrth i sefydliadau eraill gael eu nodi, cyhoeddodd yr Asiantaeth fwy o wybodaeth i ddilyn y rhybudd, gan ofyn i awdurdodau lleol ehangu cwmpas eu cysylltiad â sefydliadau yn eu hardaloedd.
Mae hwn yn achos difrifol iawn, mae'n amlwg. Yr wythnos ddiwethaf, rhoddais ymateb positif i alwadau am ymchwiliad. Bydd pa fath o ymchwiliad yn union a gynhelir yn dibynu ar ganlyniad adolygiadau uniongyrchol fydd yn cael eu cynnal, ac unrhyw gyngor cyfreithiol. Fodd bynnag, rwyf yn benderfynol o sicrhau y bydd yr hyn sydd angen ei wneud yn cael ei wneud.
Bydd unrhyw ymchwiliad yn agored, yn dryloyw ac yn drylwyr, fel y bydd y gwersi sydd angen eu dysgu yn cael eu dysgu, i sicrhau na fydd y digwyddiadau hyn yn codi fyth eto.
Mae'r Tîm Rheoli Achosion yn gofalu am linell gymorth sydd yn parhau ar 029 2040 2520 rhwng 9am - 5pm.
Rwyf hefyd wedi datgan fy mod yn fodlon trafod y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn yfory.