Skip to content

Fframwaith Datblygu Cynaliadwy Rhyngwladol Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan,Y Brif Weinidog
Mae'n dda gennyf gyhoeddi fy mod heddiw'n lansio ymgynghoriad ar ddrafft Fframwaith Datblygu Cynaliadwy Rhyngwladol Cymru.

Bydd y Fframwaith yn cynyddu gallu Cymru i gyfrannu at wireddu Nodau Datblygu'r Mileniwm y CU ac yn sicrhau y gall Llywodraeth y Cynulliad wella'r cydgysylltu ar ymateb Cymru i drychinebau ac argyfyngau rhyngwladol.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cael pwerau ychwanegol ym maes Datblygu Rhyngwladol ym mis Ebrill 2006, gan ddod yn gorff Atodlen 1 o dan Ddeddf Datblygu Rhyngwladol 2002.  

Mae dogfen ymgynghori'r Fframwaith yn cynnwys y pwyntiau gweithredu canlynol:

• annog a helpu i gydgysylltu gwirfoddoli gan bobl sydd â chymwysterau addas i helpu i liniaru trychinebau
• rhoi cyngor ar yr arferion gorau wrth gasglu ar gyfer trychinebau ac argyfyngau
• ystyried rhoi cyllid tuag at weinyddu a hyrwyddo ymgyrchoedd apêl Cymreig ar gyfer trychinebau ac argyfyngau rhyngwladol
• cynorthwyo ac annog secondiadau i wledydd sy'n datblygu ac ohonynt
• cynorthwyo ac annog cysylltiadau rhwng y sector cyhoeddus yng Nghymru a chyrff cyfatebol mewn gwledydd sy'n datblygu
• ystyried ffyrdd o feithrin gallu'r sector Datblygu Rhyngwladol yng Nghymru
• hyrwyddo Masnach Deg ac ymgyrch Masnach Deg Cymru
• ymchwilio i faterion pellach yn ymwneud â recriwtio nyrsys o wledydd sy'n datblygu
• sicrhau bod dewisiadau prynu moesegol yn cael eu hystyried ym maes caffael yn y sector cyhoeddus.

Bydd gan grwpiau ac unigolion sy'n ymwneud â datblygu rhyngwladol a gwaith lliniaru dyngarol yng Nghymru, ynghyd â chynrychiolwyr cymunedau ar wasgar, ddiddordeb arbennig yn y Fframwaith.