Skip to content

Datganiad ar Sony

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Yr wyf yn siwr y bydd pob Aelod, fel minnau, yn hynod siomedig i glywed y cyhoeddiad bod Sony yn rhoi’r gorau i gynhyrchu setiau teledu â thiwb pelydryn cathod ar ei safleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phencoed. Yr ydym yn cydymdeimlo â’r rhai yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad hwn. Ynghyd â’n partneriaid yn Nhîm Cymru, yr ydym yn arwain tîm ymateb cyflym i roi cymorth i’r rhai yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad heddiw, sy’n deillio o ostyngiad sydyn a diwrthdro yn y galw yn Ewrop am dechnolegau sy’n seiliedig ar CRT. Ni chaiff y swyddi hyn eu symud i unrhyw le arall, yn syml iawn mae’r cwnni yn rhoi’r gorau i gynhyrchu’r cynnyrch hwn.

Bydd cau’r cyfleuster ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn arwain at golli 400 o swyddi, a 250 o swyddi cysylltiedig yn y gwaith ym Mhencoed. Bydd 300 o weithwyr yn cadw eu swyddi ar safle Pencoed, a fydd yn canolbwyntio’n bennaf ar gynhyrchu systemau camera uwchdechnoleg.

Yn ogystal, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r cwmni ar y lefel uchaf i nodi a datblygu cyfleoedd eraill i safle Pencoed. Gallai’r rhain gynnwys gwaith ychwanegol ym meysydd gwasanaeth, logisteg a chyfleusterau cymorth i gwsmeriaid. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn gweithio gyda’r uwch reolwyr i ystyried cyfleoedd i gynhyrchu cynnyrch soffistigedig, a fydd yn adeiladu ar enw gwych Pencoed o fewn grwp Sony. Byddwn hefyd yn ymdrechu o’r newydd i nodi cyfleoedd masnachol sy’n codi o gysylltiad y cwmni â’r technium digidol ym Mhrifysgol Cymru Abertawe.

Yr ydym hefyd yn ystyried unrhyw effaith ar gadwyn gyflenwi Sony a, lle y bo’n briodol, byddwn yn cynnig cymorth i gwmnïau yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad heddiw i arallgyfeirio. Mae’r cwmni wedi canmol yn gyhoeddus berfformiad ardderchog y cyfleuster gweithgynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac wedi pwysleisio bod hwn yn benderfyniad anodd iawn nad yw’n adlewyrchu o gwbl ar berfformiad y gweithwyr yn y ffatrïoedd yn y De. Ategaf y sylwadau hynny, a thalaf deyrnged i safon gweithlu Sony.

Yr wyf hefyd yn ymwybodol y bydd y swyddi a gollwyd yn cael effaith ar yr economi leol. Byddwn, unwaith eto gyda’n partneriaid yn Nhîm Cymru, yn ystyried yr hyn y gellid ei wneud i leihau ar yr effaith hon. Gallaf gadarnhau heddiw y bydd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn dechrau ar unwaith ar y gwaith o werthuso’r cynnig i ddatblygu canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, a gyflwynwyd yn wreiddiol ar gyfer arian Amcan 1. Pen-y-bont ar Ogwr oedd y prosiect nesaf ar y rhestr wrth gefn ar gyfer ailddatblygu canol trefi, ac mae’r Swyddfa wedi cadarnhau bod digon o arian ar gael bellach i’w roi ar waith yn gynt.

I gloi, mae ein swyddogion eisoes mewn trafodaethau gyda chyfarwyddwr gweithrediadau Ewrop Sony, a byddaf yn siarad â Syr Howard Stringer, prif swyddog gweithredol Sony, i bwysleisio y byddwn yn gwneud ein gorau glas i adeiladu ar ddatblygiad y cwmni ym Mhencoed.