Skip to content

Diweddariad E. coli

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau am nodi’r sefyllfa gyfredol ynglyn ag achosion sy’n gydnaws ag E.coli0157 yn ardal Aberhonddu, y gwnes i Ddatganiad Ysgrifenedig yn ei chylch yr wythnos ddiwethaf.  Roedd yr achosion i gyd yn gysylltiedig â meithrinfa cyn-ysgol Puffins ac Ysgol Gynradd Sirol Llan-faes. Doedd dim achosion perthynol mewn ysgolion eraill.  Deuddeg yw cyfanswm yr achosion o hyd, ond gan fod yr achos yma yn dal yn fyw, fe allai’r nifer newid.  Mae’r feithrinfa a’r ysgol wedi’u hailagor ac mae’r plant yn dychwelyd i’r ddwy wrth iddyn nhw sicrhau datganiad negyddol.

Does dim achosion newydd wedi bod yn y De, lle mae cyfanswm yr achosion ar hyn o bryd yn 172, y mae 131 ohonyn nhw wedi’u cadarnhau fel achosion positif mewn profion meicrobiolegol. Does dim achosion yn dal i fod yn yr ysbyty. Mae’r Tîm Rheoli Achosion yn parhau i reoli’r sefyllfa yn ofalus.