Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Blwyddyn wedi cyhoeddi Adroddiad Ymchwiliad Clywch y Comisiynydd Plant, rwy'n nodi'r 16 Argymhelliad sydd wedi'u cyfeirio'n benodol at Lywodraeth y Cynulliad gan nodi beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf o ran eu rhoi ar waith. Mae'r nodyn hefyd yn rhoi arwydd o hynt 6 argymhelliad arall sydd wedi'u cyfeirio at eraill ond lle rydym wedi ymwneud yn sylweddol â hwy naill ai wrth ddarparu canllawiau perthnasol neu wrth gynnig nawdd.
Ar y cyfan, bydd yn ymddangos ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at eu gweithredu, gyda'r camau mwyaf angenrheidiol yn cael eu cwblhau naill ai'n ddiweddarach eleni neu'n gynnar y flwyddyn nesaf. Nid ar chwarae bach y gwnaed hyn, gan gofio ein bod wedi gorfod ymgynghori'n helaeth yn y rhan fwyaf o achosion er mwyn datblygu cynigion newydd neu adolygu rhai cyfredol. Yn ogystal, roedd rhoi ystyriaeth lawn i'r ymatebion a ddaeth i law yn waith pwysig. Ni fydd llawer o'r gwaith hanfodol hwn wedi bod yn amlwg i'r rheini nad ydynt wedi bod yn rhan o'r broses.
Rwy'n ymwybodol hefyd, diolch i drafodaethau yr wyf i neu rai o'm swyddogion wedi'u cael â'r sefydliadau eraill sy'n ymwneud â'r argymhellion sy'n weddill, bod cynnydd graddol wedi'i wneud a bod eu gweithredu'n llawn yn parhau'n amcan clir iawn a hynny o fewn amserlenni derbyniol.
Yn ystod y flwyddyn sydd dan sylw, rydym wedi cynnal cysylltiadau agos iawn â'r Comisiynydd Plant a'i Swyddfa a hoffwn ddiolch iddo ac i'w gydweithwyr am y modd hynod gadarnhaol ac adeiladol y maent wedi mynd ati i gynorthwyo yn ystod y cyfnod gweithredu hollbwysig hwn. Mae wedi dangos yn glir ei fod ef hefyd yn gyffredinol fodlon â'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn ond bydd yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos. Mae'r Comisiynydd hefyd wedi bod o gymorth mawr ac yn dra ymarferol wrth nodi pan fo gan argymhellion amserlen benodol, cyn belled ei fod yn fodlon bod cynnydd gwirioneddol a chyffyrddadwy yn cael ei wneud tuag at ganlyniad derbyniol, ni fydd yn ymyrryd i geisio eu rhoi ar waith mewn modd mwy llym.
Fodd bynnag, deallaf ei fod hefyd wedi ysgrifennu at bartïon â diddordeb yn ystod yr ychydig ddyddiadau diwethaf yn amlinellu'r hyn a gred ef yw'r sefyllfa ddiweddaraf o ran datblygiad argymhellion unigol ac rwy'n croesawu hyn yn wresog.
Byddaf yn cyflwyno Datganiad Ysgrifenedig y Cabinet arall tua diwedd y flwyddyn gan roi adroddiad pellach ar hynt y prosiect.
JANE DAVIDSON
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
RHAN 1: Argymhellion a gyfeiriwyd yn benodol at Lywodraeth Cynulliad Cymru
21.3 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a’r DfES gymryd camau i sicrhau bod athrawon yn derbyn gwybodaeth arbenigol yn eu rhaglen hyfforddi cymhwyso proffesiynol ynglyn â’r modd y mae’r rheini sy’n cam-drin yn gweithredu a bod canfyddiadau’r adroddiad hwn yn ffurfio rhan o’r hyfforddiant hwnnw, ac y dylid gweithredu’r argymhelliad hwn o fewn 2 flynedd i gyhoeddi’r adroddiad hwn.
Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau ac at Ysgrifennydd Gwladol Cymru i dynnu sylw gweinyddiaethau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd â chyfrifoldebau tebyg dros hyfforddiant cychwynnol athrawon, at oblygiadau'r argymhelliad hwn. Ers hynny, mae swyddogion wedi cynnal trafodaethau am y materion hyn â'u cymheiriaid yn y gwledydd hyn - cynhaliwyd cyfarfod â'r Asiantaeth Hyfforddi Athrawon (ar ran y DfES) a Gweithrediaeth yr Alban ar 3 Mawrth; caiff papurau'r cyfarfodydd eu dosbarthu hefyd i'r Adran Addysg (Gogledd Iwerddon). Mae pob un o'r pedair gwlad yn cynnal systemau hyfforddi athrawon cychwynnol ar wahân ac maent yn trafod materion o'r fath o fewn cyd-destun eu systemau eu hunain. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â'n cydweithwyr yn y gwledydd eraill wrth i'n gwaith ar ddiwygio Cylchlythyr 13/98 fynd rhagddo.
Mae cyfnod ymgynghori'n digwydd ar hyn o bryd ar ddiwygio Cylchlythyr 13/98 a bydd yn dod i ben ar 22 Gorffennaf. Mae'r diwygio yn cynnwys dau ddarn newydd o ddeddfwriaeth (h.y. safonau Statws Athro Cymwysedig newydd a'r trefniadau achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon newydd, gan gynnwys gofynion ar gyfer cyrsiau HCA). Bydd y rhain yn cael eu cefnogi gan Ddogfen Wybodaeth yn cynnwys y safonau SAC a'r gofynion ar gyfer cyrsiau HCA yn ogystal â Llawlyfr o Ganllawiau anstatudol. Mae'r gofynion drafft ar gyfer cyrsiau HCA yn benodol yn cynnwys adran sy'n bodloni argymhelliad y Comisiynydd. Mae'r llawlyfr drafft hefyd yn trafod y mater hwn ac yn darparu gwybodaeth ar gyfer darparwyr HCA ar feysydd penodol sy'n peri pryder yn adroddiad y Comisiynydd.
21.5 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi canllawiau o fewn 6 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn er mwyn ei gwneud yn ofynnol bod gan lywodraethwyr pob ysgol, boed yn ysgol gymuned, yn cael ei rhedeg â chymorth gwirfoddol, wedi’i rheoli’n wirfoddol, yn ysgol sylfaen neu’n ysgol annibynnol a cholegau addysg bellach, bolisi datgelu cyfrinachau ar waith ac y rhoddir gwybod i’r holl athrawon a staff nad ydynt yn addysgu ynglyn â’r modd y’i gweithredir.
Mae gan sefydliadau AB eisoes ganllawiau sy'n ymwneud â gweithdrefnau datgelu gwybodaeth. Darparodd Cymdeithas y Colegau ganllawiau ar y we i'w aelodau yn ystod mis Tachwedd 2002. Roedd hyn yn cynnwys cyfeiriad at yr angen i hyfforddi staff pan ddaw hi i weithdrefnau o'r fath.
Mae gwaith i gynhyrchu canllawiau tebyg ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion wedi dechrau ac fe geir dyddiad targed i'r ymgynghori ddechrau yn ystod mis Medi 2005. Bwriedir i'r canllawiau hyn fod yn berthnasol i'r sector annibynnol hefyd.
21.7 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi canllawiau ar sut y dylid ymchwilio i honiadau o gam-drin plant a wneir yn erbyn staff sy’n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn. Dylai’r canllawiau ystyried:
(i) Cyd-ganllawiau NEOST/Undebau Athrawon, sef Education Staff and Child Protection: Staff Facing an Allegation of Abuse
(ii) Practice Guide to Investigating Allegations of Abuse against a Professional or Carer in Relation to Looked After Children
(iii) Gweithdrefnau Amddiffyn Plant PAAP Cymru gyfan.
(iv) Canllawiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant'.
Ar ôl ymgynghori'n helaeth â phartïon â diddordeb, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, yn ystod mis Tachwedd 2004, cyhoeddwyd Cylchlythyr 45/2004 o'r enw “Gweithdrefnau Disgyblu Staff Mewn Ysgolion”. Roedd yn tynnu ar y canllawiau a nodwyd yn argymhelliad y Comisiynydd o ran sut y dylid ymdrin â honiadau o gam-drin plant a wneir yn erbyn aelod o staff ysgol.
Mae'r Cylchlythyr yn darparu canllawiau anstatudol. Fodd bynnag, bydd adran 35 (8) a 36 (8) Deddf Addysg 2002, y disgwylir iddynt ddod i rym yn ystod mis Mawrth 2006 yng Nghymru, yn rhoi pwerau i'r Cynulliad gyhoeddi canllawiau statudol ar faterion sy'n ymwneud â staffio ysgolion. Bydd y cyfnod ymgynghori er mwyn adolygu'r cylchlythyr i ystyried ymchwiliadau Clywch a Bichard a phrofiad o ddefnyddio'r Cylchlythyr, yn dechrau yn ystod yr hydref gyda'r nod o'u hailgyhoeddi fel canllawiau statudol yn ystod gwanwyn 2006. Bydd gofyn iddo hefyd ystyried y canllawiau drafft 'Diogelu Plant: Cydweithio er Mwyn Sicrhau Canlyniadau Cadarnhaol' a fydd yn cael eu cynhyrchu am ddyletswydd ysgolion i ddiogelu ac i hybu lles plant fel sy'n ofynnol yn ôl adran 175 Deddf Addysg 2002.
21.8 Argymhellaf:
(i) y dylai’r cyfrifoldeb dros benderfynu p’un a ddylid cyflwyno cyhuddiadau a chynnal ymchwiliad a gwrandawiad gael ei drosglwyddo i’r awdurdod addysg lleol, oherwydd ei berthynas gydag athrawon, aelodau o’r staff nad ydynt yn addysgu a’i aelodaeth o’r Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant yng Nghymru.
(ii) os cychwynnir ymchwiliad, dylai un o swyddogion personél arbenigol yr awdurdod lleol ei gynnal a dylai’r swyddog hwnnw hefyd gyflwyno’r achos oni chyfarwyddir cyfreithiwr neu gwnsler.
(iii) y dylid sefydlu pedwar tribiwnlys annibynnol newydd, yn cwmpasu pedair rhan o Gymru, wedi eu cadeirio gan berson â chymwysterau cyfreithiol gyda dau aelod arall arnynt, un yn gynrychiolydd undeb llafur athrawon a enwebwyd a’r llall yn llywodraethwr enwebedig i glywed y dystiolaeth ac i lunio canfyddiadau ffeithiol ar sail pwysau tebygolrwydd. Dylai’r rhai sy’n cadeirio tribiwnlysoedd o’r fath gael eu penodi drwy broses sy’n cynnwys undebau llafur athrawon a’r awdurdodau addysg lleol.
21.9 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu grwp gorchwyl o fewn chwe mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn, gyda chynrychiolwyr o bob parti â diddordeb yn gyfrifol am gyflwyno cyfres o gynigion i weithredu’r argymhelliad yr wyf wedi ei wneud o ran tribiwnlysoedd disgyblu ysgolion. Dylai’r partïon â diddordeb gynnwys:
(i) holl undebau llafur athrawon
(ii) cynrychiolwyr o blith y llywodraethwyr
(iii) swyddogion yr awdurdod addysg lleol
(iv) arbenigwyr amddiffyn plant ac arbenigwyr cyfreithiol
(v) plant a phobl ifanc
(vi) cynrychiolwyr o’r Cyngor Addysgu Cyffredinol
(vii) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
(viii) yr heddlu.
Ymhlith y materion y dylai’r grwp gorchwyl eu hystyried mae’r trothwy ar gyfer cyfeiriadau, apeliadau, rheolau tribiwnlys, y cydberthnasau ag ymchwiliadau’r heddlu a chofnodi ymchwiliadau ar ffeiliau athrawon ac aelodau o’r staff nad ydynt yn addysgu.
Bydd adrannau 35, 36 a 37 Deddf Addysg 2002, pan ddônt yn berthnasol i Gymru ddechrau 2006, yn disodli'r darpariaethau staffio ysgol cyfredol sydd yn adran 54 i 57 ac Atodlenni 16 ac 17 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'r darpariaethau yn caniatáu i Lywodraeth y Cynulliad wneud Rheoliadau i drafod materion staffio ymhob ysgol a gynhelir yn lle'r darpariaethau cyfredol. Bydd y Rheoliadau drafft yn cael eu rhyddhau ar gyfer cyfnod ymgynghori y mis nesaf a byddant yn cynnwys 2 ddarpariaeth newydd i fynd i'r afael â'r argymhellion sy'n ymwneud ag ymchwilio i achosion neu gynnal gwrandawiadau i achosion sy'n ymwneud â honiadau o gam-drin plant yn erbyn aelodau o staff – sef achosion lle y mae gweithredu yn dod yn gyfrifoldeb y Corff Llywodraethu oherwydd penderfyniad nad yw’r honiadau yn gwarantu erlyniad troseddol neu os bydd yr erlyniad yn methu.
Byddai'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu
drefnu ymchwiliad annibynnol i achosion o'r fath
penodi aelod annibynnol â hawliau pleidleisio nad yw'n llywodraethwr i bob un o'r pwyllgorau disgyblu staff a'r pwyllgorau apelau disgyblu i ystyried achosion sy'n ymwneud â honiadau o gam-drin plant.
Ni dderbyniwyd yr argymhelliad y dylai awdurdodau lleol gynnal yr ymchwiliad gan fod profiad wedi dangos nad yw'r awdurdodau lleol bob amser yn y sefyllfa orau i wneud hynny. Bydd y gofyniad i gynnal ymchwiliad annibynnol yn cael ei gefnogi gan rwydwaith o ymchwilwyr annibynnol a ariennir gan Lywodraeth y Cynulliad. Bydd yr ymgynghoriad ar y rheoliadau yn gwahodd sylwadau ar sut y dylid mynd ati i drefnu hyn.
Gwrthodwyd yr argymhelliad y dylai tribiwnlysoedd annibynnol wrando ar achosion o'r fath o ganlyniad i'r canlynol:
• Corff llywodraethu sy'n gyfrifol am weithdrefnau disgyblu staff ysgol a byddai cael gwared ar y cyfrifoldeb hwnnw a chreu tribiwnlysoedd yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol;
• Byddai unrhyw newid o'r math hwn yn torri ar draws cyfrifoldebau cyflogwyr i gymryd camau disgyblu yn unol â chyfraith cyflogaeth; a
• Nid oedd y cynnig yn mynnu cymorth gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol, undebau'r athrawon a'r staff a Llywodraethwyr Cymru.
Mae'r Comisiynydd Plant wedi datgan ei gefnogaeth i'r ymchwiliadau annibynnol ac i gynigion yr aelodau annibynnol. Ond mae wedi egluro gan fod yr ail yn ddewis amgen i'w argymhelliad ar gyfer 4 tribiwnlys annibynnol, dim ond os bydd gan aelodau unigol hawl i bleidleisio a bod y cynigion amgen yn arwain at broses deg lle y mae gan aelodau ac ymchwilwyr annibynnol yr arbenigedd sy'n ennyn ymddiriedaeth pob parti, lle y mae hyfforddiant yn orfodol ac amserlenni'n eglur, y bydd yn cynnig ei gefnogaeth.
Rhagwelir y bydd y trefniadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn ystod 2006-07.
21.12 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn partneriaeth â’r DfES, ACCAC a’r awdurdodau cwricwlwm ac asesu cymwys cyfatebol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ystyried rôl cyrff arholi ledled y DU o ran trefniadau amddiffyn plant o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.
Mae Grwp Llywio wedi'i sefydlu gyda chynrychiolwyr o'r Adrannau Addysg a'r Awdurdodau Rheoleiddio yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cyfres o gyfarfodydd wedi'u cymeradwyo. Caiff sefydliadau eraill - gan gynnwys cyrff dyfarnu - eu cyfethol i'r Grwp Llywio os a phan fo hynny'n briodol.
Mae'r Grwp wedi casglu ac adolygu dogfennaeth a chanllawiau cyfredol sy’n berthnasol o bob cwr o’r DU. Mae’r canlyniadau wedi’u defnyddio i gynorthwyo yn y gwaith o ystyried rôl y cyrff dyfarnu mewn cysylltiad ag amddiffyn plant a gofyniad canllawiau cyrff rheoleiddio.
Yn ystod ei gyfarfod ym mis Mehefin, cymeradwyodd y Grwp ddogfen ddrafft “Child Protection: Responsibilities and Exemplification for Awarding Bodies” a fydd yn cael ei rhyddhau ar gyfer cyfnod ymgynghori cychwynnol gan ACCAC gydag AGCC (sydd eisoes wedi cyfrannu at y gwaith drafftio), Estyn, CBAC, Y Cyd-Gyngor Cymwysterau a Phwyllgor Gweithredol Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu. Bydd ACCAC hefyd yn ymgynghori'n ffurfiol â'i gyd-reoleiddwyr. Bydd copi hefyd yn cael ei anfon at y Comisiynydd Plant.
Yn amodol ar ganlyniad y broses hon, bydd cyfnod ymgynghori ffurfiol yn cael ei lansio yn ystod ddechrau’r hydref ar gyfer partïon eraill â diddordeb gan gynnwys yr 114 o gyrff dyfarnu, cymdeithasau athrawon, ysgolion a cholegau. Mae'r Adrannau Addysg a'r Awdurdodau Rheoleiddio eraill wrthi'n ystyried sut y dylid dosbarthu'r canllawiau yn eu gwledydd eu hunain.
Yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad hwn, rhagwelir y bydd y canllawiau terfynol yn cael eu rhyddhau i bob corff dyfarnu ddechrau 2006.
21.13 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn partneriaeth â’r DfES, ACCAC a’r awdurdodau cwricwlwm ac asesu cymwys cyfatebol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ystyried y ffordd yr addysgir ac yr arholir drama mewn ysgolion a cholegau addysg bellach, gyda’r nod o gynhyrchu canllawiau arfer o fewn 2 flynedd i gyhoeddi’r adroddiad hwn a fydd yn cynnwys rhoi ystyriaeth i’r materion canlynol:
(i) dethol testunau drama priodol mewn addysg ac arholiadau;
(ii) cyfranogiad oedolion mewn dramâu ysgol ac arholiadau drama ymarferol;
(iii) addysgu drama yn ddiogel, yn arbennig rôl yr athro mewn sesiynau byrfyfyr ac actio method;
(iv) lleoliadau ac amseroedd ar gyfer arholiadau ac ymarferion drama;
(v) recordio plant a phobl ifanc mewn ymarferion drama ac arholiadau ymarferol ar fideo a’r angen i gael caniatâd y rhieni;
(vi) yr arfer o gynnwys plant iau o fewn sesiynau drama ymarferol disgyblion hy^n;
(vii) monitro sgriptiau a gosod cosbau am sgriptiau a gaiff eu cyflwyno yn hwyr i fyrddau arholi ar gyfer arholiadau ymarferol;
(viii) canllawiau pendant ynghylch cynnwys ac iaith rywiol, cyswllt corfforol agos a noethni mewn arholiadau a gwersi drama ymarferol;
(ix) dyletswyddau rheolwyr ysgolion a cholegau wrth fonitro’r ffordd y cedwir at y canllawiau a’r ffordd y cânt eu rhoi ar waith.
Mae'r Grwp Llywio, a gafodd ei sefydlu mewn cysylltiad â'r Argymhelliad blaenorol, hefyd yn goruchwylio'r gwaith o weithredu'r prosiect i baratoi canllawiau ar y broses o addysgu ac arholi drama.
I gyd-fynd â'r gwaith hwn, cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru seminar o arbenigwyr ym maes drama er mwyn cael mewnbwn ymarferwyr arbenigol cychwynnol i'r canllawiau ar gyfer addysgu drama (a'r celfyddydau mynegol) mewn ysgolion a cholegau.
Yn ystod cyfarfod Mehefin 2005 y Grwp Llywio, ystyriwyd drafft cychwynnol ond helaeth o'r canllawiau a baratowyd gan Estyn. Bydd drafft wedi'i ddiwygio yn cael ei ystyried yn ystod y cyfarfod nesaf fis Gorffennaf. Bydd y drafft terfynol yn cael ei ryddhau o fewn 12 mis.
21.14 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi canllawiau, o fewn 12 mis o gyhoeddi’r adroddiad hwn, ynglyn â gwybodaeth y gellid ei rhannu lle ceir honiadau o gam-drin plant p’un a wnaed canfyddiadau ai peidio. Dylai canllawiau o’r fath gynnwys pa wybodaeth y gellir ei rhannu gyda’r sector gwirfoddol ac unrhyw gorff arall lle mae gan yr unigolyn gysylltiad â phlant, neu lle y gallai gael cysylltiad â phlant.
Mae'r holl fater sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth wedi'i godi yn y ddogfen ymgynghori ar y canllawiau, a fwriedir ar gyfer y Byrddau Diogelu Plant Lleol. Mae'r cyfnod ymgynghori yn ymestyn i 31 Awst 2005. Yng ngoleuni'r ymatebion i'r ddogfen honno, bydd ystyriaeth benodol yn cael ei rhoi i'r argymhelliad penodol hwn. Rhagwelir y bydd y canllawiau terfynol yn cael eu rhyddhau tua diwedd y flwyddyn.
21.17 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968 a’r canllawiau iddynt er mwyn mynd i’r afael â’r gwendidau a amlinellir yn fy adroddiad yn y trefniadau presennol ar gyfer diogelu lles plant yng Nghymru wrth berfformio ar deledu neu gyfryngau eraill, o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.
Mae'r adolygiad arfaethedig wrthi'n mynd rhagddo a bydd ei gasgliadau'n cael eu cyhoeddi erbyn mis Ionawr 2006. Bydd hyn yn cynnig unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Rheoliadau a'r canllawiau cyfredol a hefyd amserlen ar gyfer cyflawni unrhyw newidiadau angenrheidiol.
21.18 Argymhellaf y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi canllawiau i awdurdodau addysg lleol ar arferion gorau er mwyn cyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau presennol o dan Reoliadau Plant (Perfformiadau) 1968, o fewn 6 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.
Mae canllawiau drafft wrthi'n cael eu cwblhau ar hyn o bryd a byddant yn cael eu rhyddhau ar gyfer cyfnod ymgynghori maes o law.
21.25 Argymhellaf y dylai 'Canllawiau ar Weithdrefnau ar gyfer Ymdrin â Chwynion i Gyrff Llywodraethu' Llywodraeth Cynulliad Cymru gael eu diwygio i gynnwys canllawiau eglur a phendant ar gyfrifoldebau’r partïon perthnasol os bydd cwyn yn codi pryderon yn ymwneud ag amddiffyn plant.
21.26 Argymhellaf y dylid diwygio 'Canllawiau ar Weithdrefnau ar gyfer Ymdrin â Chwynion i Gyrff Llywodraethu' Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn ei gwneud yn glir bod gan Gomisiynydd Plant Cymru bwerau, o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001, i adolygu’r gweithdrefnau cwyno mewn ysgolion ac adolygu achosion unigol.
21.27 Dengys 'Canllawiau ar Weithdrefnau ar gyfer Ymdrin â Chwynion i Gyrff Llywodraethu' Llywodraeth Cynulliad Cymru ymwybyddiaeth o’r anawsterau a wynebir o ran sicrhau annibyniaeth ddigonol ym mhob cam o’r broses o ymchwilio i gwyn, ac o ran dyfarnu mewn ysgolion, yn arbennig ysgolion bach. Rhannaf y pryder hwn ond nid wyf yn argyhoeddedig y bydd y camau unioni arfaethedig yn ymarferol ac yn effeithiol. Serch hynny, credaf y dylid rhoi’r cyfle i’r trefniadau arfaethedig, ar ôl eu diwygio fel yr awgrymwyd gennyf, gael eu profi ac felly y dylent, ynghyd â 'Cwynion yn Ymwneud â Phlant' gael eu cyhoeddi fel canllawiau statudol yn ddioed, a heb fod yn hwyrach na 1 Medi 2004. Bydd fy swyddfa yn adolygu’r trefniadau hyn wedi iddynt fod mewn grym am flwyddyn.
21.28 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau y caiff pob cynnig o fewn ei dogfen ymgynghori 'Gweithdrefnau ar gyfer Cwynion yn Ymwneud â Disgyblion' ei wneud yn statudol.
Rhyddhawyd canllawiau drafft ar sut i ymdrin â chwynion sy'n ymwneud â disgyblion ar gyfer cyfnod ymgynghori yn ystod mis Chwefror 2005. Hefyd, ceisiodd yr ymgynghoriad sylwadau ar roi grym statudol i fwy o'r canllawiau sydd wedi'u cynnwys yng Nghylchlythyr 03/2004 mewn cysylltiad â gweithdrefnau cwynion ysgolion. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 28 Mai ac mae ymatebion wrthi'n cael eu hystyried.
Byddwn yn ystyried a ddylid cyhoeddi cylchlythyr ar wahân yn trafod ymdrin â chwynion sy’n cynnwys disgyblion; ynteu a ddylid cyhoeddi un cylchlythyr gyda model o bolisi ar gyfer cyrff llywodraethu a fyddai’n cymryd lle Cylchlythyr 03/2004 ac yn cynnwys canllawiau ar gwynion sy’n ymwneud â disgyblion. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud unwaith y bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u hystyried. Disgwylir i’r canllawiau terfynol gael eu rhyddhau tua diwedd y flwyddyn.
21.29 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru lunio strategaeth genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaeth cynghori annibynnol i blant a phobl ifanc mewn addysg gan gynnwys darparu cefnogaeth briodol i blant yn ystod prosesau disgyblu, amddiffyn plant, cwynion a gwahardd, o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn. Dylai’r strategaeth genedlaethol hon hefyd ystyried sgiliau, hyfforddiant a chefnogaeth gofal bugeiliol athrawon a’r priod rolau yng nghyd-destun gofal bugeiliol staff addysgu, cynghorwyr a staff lles addysg.
Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud ar ddarparu gwasanaethau eirioli ar gyfer plant a phobl ifanc ar draws maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Serch hynny, ceir cydnabyddiaeth eglur bod galw am strategaeth benodol ar wasanaethau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc. Yr wyf yn bwriadu trafod drafft o hyn â'r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes yn ystod yr hydref cyn ei ryddhau ar gyfer ymgynghoriad ehangach. Bydd y strategaeth yn cael ei datblygu gyda chyfranogiad nifer o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys yr NSPCC ac Eye to Eye, ac mae'n debygol o gael ei gweithredu fel peilot. Byddwn yn ystyried goblygiadau ariannol cysylltiedig ei weithredu fel rhan o'i ddatblygiad ac yng ngoleuni hyn a thrafodaethau Cylch Cynllunio'r Gyllideb yn y dyfodol.
21.30 Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru o fewn 3 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn ei gwneud yn ofynnol i bob corff llywodraethu ysgol sicrhau bod plant yn cael eu hysbysu yn eu hysgol o argaeledd a phwrpas gwasanaethau perthnasol, gan gynnwys ChildLine, Llinell Gymorth Amddiffyn Plant yr NSPCC, gwasanaethau cymdeithasol, swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a gwasanaethau eirioli.
Cyfrifoldeb yr ysgolion unigol yw penderfynu a ddylid gwneud gwybodaeth ar gael i ddisgyblion am sefydliadau neu wasanaethau penodol. Fodd bynnag, mae'r canllawiau drafft ar ymdrin â chwynion disgyblion (gweler ymateb i Argymhelliad 21.28) yn argymell y dylai ysgolion roi gwybod i ddisgyblion am wasanaethau eirioli ac amddiffyn plant.
Rhan 2: Argymhellion nad ydynt wedi'u cyfeirio'n bennaf at Lywodraeth Cynulliad Cymru ond lle y mae'n cyfranogiad ni'n fawr â chanllawiau cysylltiedig.
21.1 Mewn unrhyw ymchwiliad amddiffyn plant, argymhellaf y dylid canfod dymuniadau a barn y plentyn ar y modd y cynhelir y cyfweliad, gan gynnwys eu dymuniadau o ran natur y gefnogaeth a fyddai orau ganddynt, mewn modd sensitif a’u cofnodi, gan ffurfio rhan o’r broses o gynllunio’r cyfweliad ac y dylid diwygio Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan yn unol â hynny o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.
21.2 Argymhellaf y dylai’r heddlu ystyried hysbysu’r plentyn ei hun o ganlyniad ymchwiliad gan yr heddlu bob amser, gan ofalu eu bod yn esbonio’r hyn a ddigwyddodd ac y caiff Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan eu diwygio yn unol â hynny o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.
21.21 Argymhellaf i gadeiryddion PAAPau os ymgymerir ag adolygiad o achos difrifol y dylai awdur annibynnol yr adroddiad trosolwg gyfranogi yng nghyfarfodydd y grwp adolygu.
21.24. Argymhellaf y dylai cadeiryddion PAAPau sicrhau y caiff Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan eu diwygio o fewn 6 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn er mwyn rhoi canllawiau ar gadw a storio dogfennau a fyddai’n caniatáu i achosion gael eu hadolygu fel y bo’n briodol dros gyfnod maith.
Mae'r canllawiau a gynigir ar gyfer Byrddau Diogelu Plant Lleol naill ai'n cynnwys neu'n atgyfnerthu canllawiau cyfredol ar y materion penodol hyn. Mae'r canllawiau drafft allan ar gyfnod ymgynghori ar hyn o bryd nes 31 Awst 2005. Rhagwelir y bydd y fersiwn derfynol yn cael ei rhyddhau erbyn diwedd y flwyddyn galendr.
21.6 Argymhellaf y dylai pob athro ac aelod o staff nad ydynt yn addysgu, o gael ei benodi mewn unrhyw ysgol neu goleg addysg bellach yng Nghymru, dderbyn cyfarwyddyd ysgrifenedig ac ar lafar ar weithdrefnau datgelu cyfrinachau a’r modd i’w gweithredu. Dylid atgyfnerthu hyn yn rheolaidd wedi hynny.
Mae'r canllawiau y cyfeirir atynt yn Argymhelliad 21.5 uchod ac sydd wedi'u cynllunio i drafod yr holl faterion sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth wrthi'n cael eu cynhyrchu. Y dyddiad targed ar gyfer dechrau'r cyfnod ymgynghori yw mis Medi 2005.
21.31. Argymhellaf y dylai ACCAC, o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn adolygu ei Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol yng ngoleuni fy adroddiad a phenderfynu a oes angen gwneud newidiadau neu ychwanegiadau.
Er bod yr argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at ACCAC, fel rhan o'n rôl fel noddwyr, rydym wedi cytuno y dylem adolygu'r Fframwaith ABCh yng ngoleuni argymhelliad y Comisiynydd. Credwn y dylid gwneud hyn fel rhan ganolog o'u gwaith i adolygu'r cwricwlwm ysgol yng Nghymru. Yn wir, i'r perwyl hwn, rydym wedi cael rhagor o gyngor cyffredinol gan ACCAC am gwmpas a natur adolygiadau i'r cwricwlwm a'r amserlen ar gyfer eu cyflwyno. Mewn ymateb i'r cyngor hwn, rwyf wedi tynnu eu sylw at yr argymhelliad penodol hwn ac rwyf wedi ailadrodd fy marn y dylai adolygiad o'r fath gael ei gynnal law yn llaw â'r newidiadau ehangach yr ydym yn eu cynnig.
Rwyf wedi nodi'n glir y byddai'n briodol i ACCAC roi gwybod i'r Comisiynydd am unrhyw ddatblygiadau.