Skip to content

Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf ym Maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Roedd cyllideb tair blynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2005/6 i 2007/8 yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu gwariant cyfalaf yn GIG Cymru o £120m yn 2005/6 i £309m yn 2007/8.

Mae'r datganiad hwn yn nodi at ba brif ddibenion y bydd yr arian yn cael ei wario.

Diagnosteg: mae datblygiadau ym maes technoleg feddygol yn golygu bod cyfarpar diagnosteg newydd a phwerus yn gynyddol angenrheidiol ar gyfer profiad y claf.  Bydd mwy na £30m yn cael ei ddarparu yn ystod y tair blynedd nesaf i brynu sganwyr, offer patholegol a seilwaith diagnosteg arall.  Mae'r swm hwn yn ychwanegol i'r £6 miliwn a gyhoeddwyd eisoes yn ystod Tachwedd 2004, fel rhan o'r hwb gwerth £30 miliwn i gynlluniau cyfalaf Cymru.

Teleiechyd: Amlygodd Adolygiad Wanless y rôl y mae telefeddygaeth yn ei chwarae yng Nghymru ar hyn o bryd a'r potensial sylweddol sydd i deleiechyd ei chwarae wrth ddatblygu system gynaliadwy yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.    Bydd £2.7 miliwn pellach yn cael ei fuddsoddi yn y maes hwn, yn ogystal â'r cymorth a ddarperir i'r maes hwn eisoes gan Lywodraeth y Cynulliad.

Iechyd Meddwl: mae'r broses o foderneiddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn dibynnu ar gael safleoedd newydd yn lle rhai o'r hen rai ac ailgyflunio cyfleusterau eraill.  Rhaid darparu gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol nad ydynt yn difrïo, mewn sefyllfaoedd sy'n hybu urddas a pharch.  Bydd £75m yn cael ei fuddsoddi at y dibenion hyn dros y tair blynedd nesaf – sef lefel ddigyffelyb o adnoddau o welliannau cyfalaf yn y maes hwn.  

Cyfluniad Wanless: mae cynlluniau gweithredu Wanless lleol yn cael eu cydgrynhoi yn dair dogfen gydgrynhoi rhanbarthol, a fydd yn cael eu cyhoeddi'n olynol yn ystod gweddill 2005.  Mae ailgyflunio gwasanaethau yn hanfodol wrth ddod â chydbwysedd newydd rhwng y galw am a'r ddarpariaeth o ofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru.  Bydd rhaglen gyfalaf y tair blynedd nesaf yn ychwanegu mwy na £125m pellach i'r £12 miliwn sydd eisoes wedi'i gyhoeddi at y dibenion hyn yn ystod mis Tachwedd y llynedd. Rhaid adeiladu ysbytai newydd ac ailgyflunio gwasanaethau yn ystod y tymor canolig a'r tymor byr.  Mae'r buddsoddiad sydd wedi'i nodi ar gyfer 2005/6 i 2007/8 yn nodi dechreuad y broses hon yn hytrach na'r diwedd.

Adnewyddu Adeiladau: etifeddodd y Cynulliad Cenedlaethol lwyth sylweddol iawn o waith atgyweirio ac adfywio sydd angen ei wneud mewn adeiladau cyfredol ar draws rhannau mawr o ystad y GIG.  Mae symiau sylweddol o gyfalaf dewisol ac a ddyrannwyd gan y Cynulliad eisoes wedi'u hymrwymo i fynd i'r afael â'r gofynion adfywio a moderneiddio mwyaf brys. Dros y tair blynedd nesaf, bydd y buddsoddiad hwn yn cynyddu o £34m pellach.

Mynediad:  mae £32m o refeniw ychwanegol eisoes wedi'i gyhoeddi ar gyfer 2005/6 er mwyn cefnogi'r gwaith o leihau targedau amseroedd aros o fewn GIG Cymru.  Fodd bynnag, mae mynediad i wasanaethau, ac amseroedd aros byrrach yn dibynnu ar i ba raddau y mae'r seilwaith ar lawr gwlad yn cefnogi amcanion polisi o'r fath.  Bydd yr holl wariant cyfalaf a amlinellir yn y datganiad hwn yn helpu i wella profiadau cleifion o faes gofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru.  Bydd swm penodol o dros £30m yn ychwanegol ar gael yn ystod y tair blynedd nesaf er mwyn cefnogi nifer o brosiectau buddsoddi cyfalaf penodol i ymdrin ag amseroedd aros.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gellir defnyddio'r refeniw ychwanegol a ddarperir i wella mynediad ac amseroedd aros yn y modd mwyaf effeithiol posibl.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i adnewyddu a moderneiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ym mhob ffordd bosibl.  Bydd y lefelau digyffelyb o fuddsoddi cyfalaf ychwanegol a amlinellir yn y datganiad hwn, yn hwb sylweddol i'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaethau hyn a bydd yn effeithio'n uniongyrchol ar gleifion wrth i welliannau i adeiladau, a mynediad i'r cyfleusterau diweddaraf ddod yn amlwg ymhob cwr o Gymru.