Jane Davidson AC, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Roeddwn yn falch o ymgymryd â'r cyfrifoldeb dros ofal plant fel rhan o'm portffolio ym mis Ionawr. Byddaf yn chwilio am gyfleoedd i gryfhau'r cysylltiadau rhwng holl elfennau fy nghylch gwaith. Rwyf wedi cael y cyfrifoldeb hwn ar adeg cyffrous pan allwn, bellach, gyhoeddi adroddiad terfynol y Gweithgor Gofal Plant.
Rwyf wrth fy modd yn amgáu Adroddiad Terfynol y Gweithgor Gofal Plant, sef "Y Cychwyn Gorau - Gofal Plant ar gyfer plant, rhieni a chymunedau." Mae gwaith gwerthfawr y Grwp hwn, o dan gadeiryddiaeth Dr Brian Gibbons AC, yn adeiladu ar y Cynllun Gweithredu Gofal Plant a gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad yn 2002. Rydym wedi gweithredu'r cynllun hwnnw. Buom yn gweithio gyda'r Gronfa Cyfleoedd Newydd, sef y Gronfa Loteri Fawr bellach, i greu mwy na 24,000 o lefydd gofal plant newydd y tu allan i'r ysgol. Rydym bellach yn gweithio gyda'r Gronfa a phartneriaid lleol i sefydlu o leiaf un ganolfan blant integredig ym mhob ardal awdurdod lleol. Cyflwynwyd cynllun grant Cymorth gennym, er mwyn cefnogi gofal plant o fewn rhaglen arloesol sy'n edrych ar anghenion plant yn gyffredinol, yn enwedig yn ein hardaloedd difreintiedig. Rydym wedi gweld Gwasanaethau Gwybodaeth Plant newydd yn cael eu creu ym mhob awdurdod lleol.
Rydym yn datblygu dau fuddsoddiad mawr newydd ym maes gofal plant. Yn gyntaf, rydym wedi gwneud cynnig llwyddiannus am £12.5 miliwn dros dair blynedd o dan Amcanion 1 a 3 i'r diben o gynyddu cyfraniad Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i ddarpariaeth gofal plant ledled Cymru. Bydd y prosiect hwn, Genesis Cymru, yn helpu i ddarparu cyngor, arweiniad, cefnogaeth a gofal plant i bobl sy'n dymuno cael cyfleoedd gwaith, hyfforddiant neu ddysgu. Prif amcan y prosiect yw'r chwalu'r hyn sy'n rhwystro pobl rhag dod o hyd i waith a thrwy hynny gynyddu gweithgarwch economaidd pobl yng Nghymru. Yn ail, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cytuno ar egwyddorion menter newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, ac wedi rhyddhau £50 miliwn dros y ddwy flynedd 2006-07 a 2007-08.
Lansiwyd hefyd brosiect arloesol yn ardal Tor-faen ym mis Medi 2004. Bydd Peilot Gofal Plant mewn Ysgolion Bro yn rhoi prawf ar yr honiad bod diffyg gofal plant fforddiadwy, hygyrch yn rhwystr sylweddol i waith drwy ddarparu'r gofal plant y mae ei angen ar unig rieni i gael gwaith. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhyddhau tua £529,000 i Gymru ar gyfer y prosiect 18 mis hwn. Rydym yn gweld gofal plant o ansawdd da fel ffactor allweddol wrth helpu i leihau diweithdra, mynd i'r afael â thlodi a hyrwyddo twf a chyfle.
Ym mis Rhagfyr 2003, penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad adolygu'r cynnydd a chefnogi rhoi'r Cynllun Gweithredu Gofal Plant ar waith i raddau mwy drwy greu'r Gweithgor Gofal Plant. Rydym yn ddiolchgar i Brian Gibbons a'r Grwp am drafod amrywiaeth eang o faterion, yn gymdeithasol ac yn economaidd, sy'n berthnasol i ofal plant. Mae ehangder yr adroddiad hwn yn drawiadol.
Rydym yn ddiolchgar i'r Ymddiriedolaeth Gofal Dydd, a gontractiwyd i ddrafftio adroddiadau'r Grwp a rhoi gwybod inni yn rheolaidd am arferion da sy'n dod i'r amlwg. Mae'r adroddiad terfynol sy'n deillio o hynny yn nodi deg mater allweddol sy'n effeithio ar ofal plant yng Nghymru fel y'u nodwyd gan yr aelodau, ac mae'n cynnig cyfanswm o 77 o argymhellion sy'n deillio o'r meysydd allweddol hynny.
Mae'r Grwp yn cydnabod bod yn rhaid inni sicrhau mai plant sy'n ganolbwynt wrth lunio polisi gofal plant, gyda phob cam a gymerir yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Mae'n bleser gennyf dynnu sylw at y cysylltiadau pwysig a nodir yn yr adroddiad rhwng ein rhaglenni addysg a gofal plant.Ar hyn o bryd, rydym yn treialu'r Cyfnod Sylfaen newydd, ac, yn amodol ar werthusiad llawn, rydym yn bwriadu ei gyflwyno i bob ysgol o 2008. Drwy ddiffinio Cyfnod Sylfaen, gallwn godi ei statws, rhoi ei hunaniaeth ei hun iddo a rhoi'r gydnabyddiaeth a'r cwricwlwm haeddiannol i'r cyfnod hanfodol hwn o ddatblygiad plentyn.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar yn natblygiad personol a chymdeithasol plentyn a'i agwedd at ddysgu yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae pob plentyn yn wahanol ac mae'n hollbwysig bod y cyfleoedd a gânt yn arwain at agwedd gadarnhaol at ddysgu. Rwyf o'r farn y bydd manteision y dull hwn o ddysgu mewn plant ifanc yn y dyfodol, yn siwr o gyfrannu i leihau dadrithiad yn ddiweddarach yng ngyrfa ysgol y plentyn hwnnw.
Mae ein hysgolion yn adnodd fendigedig ac mae'n rhaid inni wneud yn siwr y manteisir yn llawn ar y cyfle a ddarperir gan y Rhaglen Ysgolion Bro. Rydym am weld perthynas lawer agosach rhwng ysgolion a'r cymunedau a wasanaethant a gweld ysgolion yn gweithredu fel adnodd gymunedol - nid dim ond yn ystod oriau ysgol ond y tu allan i oriau a hefyd yn ystod gwyliau. Mae adroddiad y Grwp yn ein herio i ddatblygu'r Cyfnod Sylfaen a gofal plant ochr yn ochr, gyda'r un athroniaeth a ffocws ar chwarae. Mae ein Canolfannau Integredig eisoes yn cynnwys addysg Blynyddoedd Cynnar, gofal plant a chwarae gyda'i gilydd, a byddwn yn ystyried a oes modd cryfhau'r cysylltiadau.
Drwy'r gwanwyn, byddwn yn symud ymlaen drwy ystyried argymhellion y Gweithgor wrth inni ddatblygu cynllun llawn ar gyfer gofal plant. Bydd cyfle am drafodaeth yng nghyfarfod llawn y Cynulliad.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweld gwaith ardderchog y Grwp, a'r ymgynghoriad cyhoeddus ar yr adroddiad interim cynharach, fel cam pwysig ymlaen wrth ddatblygu strategaeth gofal plant. Dyma enghraifft o lunio polisi sy'n crynhoi amrywiaeth eang o bortffolios Gweinidogion, cyrff a noddir gan y Cynulliad, llywodraeth leol a phartneriaid y sector gwirfoddol. Roedd llawer o sefydliadau naill ai wedi'u cynrychioli o fewn y Grwp neu'n achub ar y cyfle, ynghyd ag unigolion, i roi eu barn. Bydd gweithio fel hyn yn helpu i sicrhau bod ein teuluoedd yn cael y gofal plant gorau posibl yn y dyfodol, a bod ein plant yn cael y cychwyn gorau y mae ganddynt yr hawl iddo.