Skip to content

Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Adroddiad y Comisiynydd Plant

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson , Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Croesawaf drydydd adroddiad blynyddol Peter Clarke, sy’n nodi’r cam hanner ffordd drwy ei dymor saith mlynedd fel Comisiynydd Plant Cymru, ac sy’n dangos unwaith eto yr effaith fawr a gaiff ar ran plant a phobl ifanc yng Nghymru. Daw’r adroddiad ar adeg bwysig i wasanaethau plant, wrth basio Deddf Plant 2004, a’r camau i sefydlu comisiynydd plant yn Lloegr.

Nododd y comisiynydd bum maes allweddol a berodd bryder arbennig iddo yn ystod 2003-04. Y cyntaf yw bwlio, cwynion ac eiriolaeth. Rhoddwyd cyngor i ysgolion yn ‘Parchu Eraill: Canllawiau Gwrth-fwlio’, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2003. Rhan ganolog o’r canllawiau oedd yr angen i bob ysgol feddu ar bolisi bwlio a’r angen iddynt lunio’r polisi hwn drwy ymgynghori’n llawn â staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr. Yr wyf wedi gofyn i bob ysgol gyflwyno copi o’i pholisi, er mwyn inni allu asesu pa mor dda y maent yn cyd-fynd â’r canllawiau. Bu inni ymgynghori ar 22 Chwefror ar y canllawiau i gyrff llywodraethu ysgolion o ran ymdrin â chwynion yn ymwneud â disgyblion, ac, yn ddiweddarach eleni, byddwn yn dosbarthu gwybodaeth yn nodi sut y gall plant a phobl ifanc ymdrin â bwlio.

Mewn perthynas ag eiriolaeth, yn dilyn cyhoeddi ‘Datgan Pryderon’, bu inni addo sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth ar gael i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. O fis Mehefin eleni, bydd gan blant mewn angen, plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal hawl statudol i gael eiriolwr wrth gwyno. Mae gan bob awdurdod lleol gontract gyda darparwr gwasanaethau eiriolaeth plant. Mae’r Cynulliad yn ariannu ChildLine Cymru/Wales i redeg llinell gymorth genedlaethol. Bydd y gwaith hwn yn seiliedig ar ganlyniadau astudiaeth fawr a gomisiynwyd gennym y llynedd gan Brifysgol Caerdydd. Ein nod yw datblygu systemau cwyno ac eiriolaeth sy’n ennyn hyder plant a phobl ifanc, ac sy’n hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio.

Mae cynyddu nifer y staff o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn her, ond yr ydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ymdrin â’r her honno. Mae Cyngor Gofal Cymru wedi cyflwyno mesurau i roi statws proffesiynol priodol i waith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, gan wella’r ffordd y caiff pobl ddiamddiffyn eu diogelu a chan godi statws y gwaith a wneir. Mae gwaith i gynyddu’r niferoedd sy’n dilyn hyfforddiant gwaith cymdeithasol mewn addysg uwch yng Nghymru yn cynnwys cyflwyno hyfforddiant lefel gradd newydd ym mis Medi 2004, a bwrsarïau i fyfyrwyr na chânt gymorth cyflogwr. Cefnogwn gyflogwyr i weithredu cynlluniau penodol, ac i godi proffil gwaith cymdeithasol, gan gynnwys cyhoeddi’r pecyn gyrfaoedd a recriwtio, ‘Wynebau Gofal’. Mae niferoedd cyffredinol gweithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol a staff gofal cartref yn parhau i gynyddu.

Yr ydym yn ymrwymedig i sicrhau bod Cymru yn gwneud darpariaeth ar gyfer teuluoedd sy’n ceisio lloches. Am y pedair blynedd diwethaf, yr ydym wedi cynnal cynllun grant addysg i geiswyr lloches ar gyfer awdurdodau lleol, sy’n cynnal costau addysg ceiswyr lloches a gaiff eu hanfon i Gymru. Mae’r ddarpariaeth wedi cynyddu’n sylweddol. Dyrannwyd £2.1 miliwn i awdurdodau addysg lleol Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam yn 2003-04, a bydd £2.3 miliwn ar gael yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Yr ydym wedi comisiynu ymchwil i agweddau pobl Cymru tuag at geiswyr lloches, ac edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau a’r argymhellion.

Caiff ein cynigion ar rianta eu nodi mewn cynllun gweithredu rhianta tair blynedd, a byddaf yn lansio’r cynllun hwn a’r ymgynghoriad arno ar 15 Mawrth. Gobeithiaf y bydd Aelodau yn gallu ymuno â chynrychiolwyr y cyrff gwirfoddol a’r darparwyr gwasanaeth a’n cynghorodd o ran y cynllun yng Nghanolfan Celfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ar y dyddiad hwnnw, ac y byddant yn annog rhieni a gweithwyr proffesiynol yn eu hetholaethau i drafod ein cynigion a mynegi eu barn wrthym.

Ers cyhoeddi adroddiad y comisiynydd, mae’r Cynulliad wedi mabwysiadu cynllun gofodol Cymru yn ffurfiol. Cytunwn â barn y comisiynydd o ran pwysigrwydd y ddogfen hon i lywio dyfodol cynaliadwy i bobl ifanc heddiw, a’r effaith a gaiff ar genedlaethau’r dyfodol. Byddwn yn parhau i sicrhau y caiff plant a phobl ifanc y cyfle i gyfrannu at y broses o roi’r cynllun gofodol ar waith.

Mae Peter Clarke yn cyfeirio’n arbennig at yr argymhellion yn ei adroddiad ar ymchwiliad Clywch. Rhannaf ei bryder dealladwy i sicrhau cynnydd parhaol, ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd camau eisoes mewn ymateb i hynny. Bwriedir cynnal dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Ebrill, pan fydd Aelodau yn gallu monitro’r camau a gymerwyd. Nododd y comisiynydd faterion a amlygwyd yn ei adroddiadau blynyddol blaenorol hefyd. Ymhlith y rhain yr oedd tlodi plant, yr ydym yn ymdrin ag ef drwy’r strategaeth tlodi plant a lansiwyd gan y Prif Weinidog ym mis Chwefror, a chwarae, yr ydym yn cyhoeddi ein strategaeth arno yn y gwanwyn.

Yr ydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’n gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, gyda buddsoddiad ychwanegol o £1.2 miliwn yn y gwasanaethau yn 2004-05, gan gynnwys gweithredu ‘New Ways of Working in Mental Health’. Pwysleisir y gwasanaethau hyn yn y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru, a gaiff ei gyhoeddi ar ei ffurf derfynol yn ddiweddarach eleni. Yn anad dim, bydd y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol yn ceisio ymdrin ag anghydraddoldeb o ran defnyddio gwasanaethau ac o ran canlyniadau iechyd, sy’n peri pryder arbennig.

Yr ydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i’r egwyddor o barch ac i hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc. Bydd yr uned gyfranogi newydd, a sefydlwyd gydag arian Llywodraeth y Cynulliad, yn hyrwyddo arferion da o ran cyfranogiad ledled Cymru, a byddwn hefyd yn cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod ein prosesau llunio polisïau mewnol yn galluogi pobl i gymryd rhan lawn ynddynt.

Mae Peter Clarke wedi rhoi heriau clir i Lywodraeth y Cynulliad, a byddwn yn parhau i ystyried ei sylwadau yn llawn wrth adolygu a datblygu ein polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae lle inni ymfalchïo yn y cyfraniad y mae ein comisiynydd yn ei wneud i wireddu hawliau plant yng Nghymru, a hefyd, yn ei benodiad fel llywydd Rhwydwaith Ombwdsmyn Plant Ewrop eleni, ar lwyfan ehangach.