Skip to content

Ysgrifenedig - Cynnig i ariannu depo trenau yn Wrecsam

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau
Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnig i ariannu Network Rail i adeiladu depo rheilffyrdd newydd yn Wrecsam.

Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn y seilwaith rheilffyrdd yn arwain at greu 55 o gyfleoedd cyflogaeth newydd a pharhaus, a bydd yn agored i bob Cwmni Trên, gan gynnwys Rheilffordd Wrecsam, yr Amwythig a Marylebone (WSMR) a Threnau Arriva Cymru.

Yn amodol ar gymeradwyaeth Swyddfa’r Rheoleiddiwr Rheilffyrdd, bydd y buddsoddiad hwn yn paratoi’r ffordd i Lywodraeth Cynulliad Cymru a Network Rail gysylltu ag WSMR i ystyried y posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth trên masnachol rheolaidd rhwng Wrecsam a Llundain.

Mae Network Rail wedi cynnal arolwg safle yng Ngorsaf Drenau Wrecsam, a dylai’r gwaith ar y depo newydd ddod i ben erbyn canol 2007.

Yn ogystal â chreu mwy na 50 o swyddi llawn amser, bydd adeiladu’r depo newydd yn Wrecsam yn paratoi’r ffordd ar gyfer gwasanaeth trên masnachol rheolaidd yn ôl ac ymlaen i Wrecsam.

Mae’r cyhoeddiad yn adeiladu ar y buddsoddiad mwyaf erioed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ein rhwydwaith rheilffyrdd, sydd wedi arwain at agor gorsafoedd a llinellau newydd, mwy o gapasiti mewn gwasanaethau presennol a chamau sylweddol i wella diogelwch pawb sy’n defnyddio trenau ledled Cymru, a gwneud y gwasanaeth yn fwy cyfforddus.

Byddai gwasanaeth trên rheolaidd ac uniongyrchol o orsaf Marylebone yn Llundain i Wrecsam drwy’r Amwythig yn esgor ar lawer o fanteision i Gymru.  Byddai’n gwella’r cysylltiadau busnes a hamdden rhwng Gogledd-ddwyrain Cymru a Llundain, a fyddai’n rhoi hwb ychwanegol i’r economi yn ardal Wrecsam.

Gallai hefyd fod o fantais i deithwyr yng nghanolbarth Cymru sy’n defnyddio llinell Cambrian, sydd ar hyn o bryd yn gorfod teithio i Lundain drwy gyfniwedfeydd prysur yn Birmingham ac yn Wolverhampton.