Skip to content

Ysgrifenedig - Gofal a Thrwsio Conwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Hoffwn eich hysbysu am benderfyniad yr wyf wedi ei wneud yn ddiweddar mewn perthynas â’r asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Nghonwy. Yr wyf wedi penderfynu nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cynnig arian pellach i’r asiantaeth ar ôl 31 Mawrth 2007.  Wrth ddod i’r penderfyniad hwn yr wyf wedi ystyried y mater yn fanwl. Mae gwreiddiau’r mater yn mynd yn ôl i 2004-05 pan oedd gwerthusiad a wnaethpwyd o’r asiantaeth gan Gofal a Thrwsio Cymru yn gorfod gosod amod wrth berfformiad asiantaeth Conwy oherwydd yr angen i wella ei reolaeth weithredol. Ym mis Tachwedd 2005 mynegodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd bryderon ynglŷn ag agweddau ar wasanaeth yr asiantaeth, yn arbennig yr oedi mewn prosesu Grantiau Cyfleusterau Anabl i gleientiaid. Yr wyf hefyd wedi cymryd i ystyriaeth adroddiad dyddiedig Awst 2006 gan Gofal a Thrwsio Cymru yn dilyn arolwg o lwyth achosion yr asiantaeth. Un o rolau allweddol Gofal a Thrwsio Cymru yw rhoi cyngor i Lywodraeth y Cynulliad ynglŷn â monitro, gwerthuso a pherfformiad asiantaethau.

Wrth ystyried yr adroddiad a gynhyrchwyd gan Gofal a Thrwsio Cymru, yr wyf wedi gorfod rhoi ystyriaeth i ddiffygion difrifol a nodwyd o safbwynt gweithredu a rheolaeth. Yr wyf hefyd wedi ystyried yr ymateb a gafwyd gan Tŷ Glas Housing Society Ltd (sy’n gyfrifol am reoli staff yr asiantaeth) i’r arolwg ac sydd wedi derbyn nifer o’r casgliadau allweddol.

Mae’r casgliadau wedi tanlinellu diffygion difrifol mewn gwasanaeth sydd yn anad dim i fod i ddiogelu buddiannau pobl hŷn, sy’n agored i niwed ac sy’n ymgymryd â gwaith adeiladu yn eu cartrefi. Oherwydd y diffygion hynny yr wyf wedi dod i’r casgliad na fydd yr asiantaeth bresennol yn cael ei chefnogi’n ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad ar ôl 31 Mawrth 2007.

Am un flwyddyn ariannol ar y tro y mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi cyllid i bob asiantaeth Gofal a Thrwsio. Mae pob asiantaeth yn gwybod am y polisi hwn ac am amod 3 o delerau ac amodau grantiau Llywodraeth y Cynulliad, sy’n dweud na fydd cymhorthdal a gynigir mewn blwyddyn ariannol yn awgrymu y rhoddir gwarant y bydd y grant yn cael ei ddyfarnu y flwyddyn nesaf hefyd.

Ein pryder mwyaf wrth gwrs yw’r help a’r cymorth a roddir i bobl hŷn yn ardal Conwy. Bydd fy swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda Gofal a Thrwsio Cymru er mwyn sefydlu pecyn achub ar gyfer cleientiaid presennol a allai fod eisiau manteisio ar y cynnig hwn. Yn y man, byddwn yn hoffi, ac yn wir yn disgwyl, gweld asiantaeth Gofal a Thrwsio annibynnol yn codi yn y sir mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol, awdurdod yr oedd ei benderfyniad i derfynu ei berthynas â Gofal a Thrwsio Cymru ym mis Awst 2006, hefyd yn ffactor a gymerais i ystyriaeth.