Skip to content

Ysgrifenedig - Ymateb i ystyriaeth Adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad o Ymgynghoriad Defra ar Fesur Morol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Nodir isod ymatebion Llywodraeth y Cynulliad i argymhellion yr Adroddiad:

Egwyddorion Cyffredinol

Argymhelliad:  Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud y cyfan o fewn ei gallu i sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl i ddatblygu polisi yng Nghymru gan ddefnyddio pwerau fframwaith.
Ymateb:  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn hyn.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio’n agos gyda Defra i sicrhau bod darpariaethau Papur Gwyn “Llywodraethu Gwell i Gymru” a Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael eu hystyried yn llawn yn natblygiad y Mesur Morol.  Mae cymysgedd gymhleth o bwerau datganoledig a phwerau sydd heb eu datganoli yn yr amgylchedd morol. Mewn rhai achosion, gall fod yn fwy priodol canfod y swyddogaethau a ddatganolwyd yn uniongyrchol i’r Gweinidogion Cymreig ar wyneb y Mesur.
Goblygiadau Ariannol:  dim – mae’r gwaith eisoes ar y gweill.  

Rheoli pysgodfeydd morol

Argymhelliad:  Bydd y Pwyllgor yn archwilio ac yn ceisio dylanwadu ar strategaeth pysgodfeydd Cymru gyfan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Ymateb:  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn nodi hyn.  Cyhoeddir strategaeth pysgodfeydd Cymru gyfan ar gyfer ymgynghoriad yn gynnar flwyddyn nesaf.   Derbyniodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ddiweddariad ar y Strategaeth yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd.
Goblygiadau ariannol: dim – mae’r gwaith hwn eisoes ar y gweill.


Argymhelliad: Mae’r Pwyllgor yn cytuno gyda safbwyntiau a cheisiadau’r tystion
y dylid cynnwys darpariaethau yn y Mesur i ddiwygio’r ddeddfwriaeth gyfredol sydd wedi dyddio [ar gyfer rheolaeth dros bysgodfeydd y glannau].
Ymateb:  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn y cais hwn.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda Defra ar foderneiddio a gwella rheolaeth dros bysgodfeydd y glannau. Mae hyn yn cynnwys ad-drefnu’r Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr.  Cyhoeddais ddatganiad ar y pwnc hwn ar 15 Medi.  Bydd ymgynghoriad 12 wythnos yn dechrau ym mis Rhagfyr.
Goblygiadau ariannol: dim – mae’r gwaith hwn eisoes ar y gweill.

Cynllunio yn y maes morol

Argymhelliad:  Mae’r Pwyllgor yn cefnogi [cyflwyniad system Gynllunio Morol Gofodol].
Ymateb:  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn nodi’r gefnogaeth hon.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio’n agos gyda Defra ar ddatblygiad system gynllunio morol gofodol a fydd yn cyflwyno system well ar gyfer rheoli’r defnydd a wneir o adnoddau morol a’r modd y’u diogelir, gan ystyried holl weithgareddau a defnyddiau.
Goblygiadau ariannol: dim ar hyn o bryd.

Trwyddedu gweithgareddau morol

Argymhelliad:  Mae’r Pwyllgor yn cefnogi datblygiad fesul cam y drefn [trwyddedu] integredig a gynigir yn Opsiwn 4.
Ymateb:  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn nodi’r gefnogaeth hon.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi unrhyw fesurau sy’n diweddaru’r system gyfredol ac a fyddai’n darparu system fwy tryloyw a syml i ddefnyddwyr a gweinyddwyr, tra’n galluogi Cymru i sicrhau bod y parthau arfordirol a morol yn cael eu datblygu mewn modd cynaliadwy.
Goblygiadau ariannol: dim ar hyn o bryd.

Gwella cadwraeth natur forol

Argymhelliad:  Mae’r Pwyllgor yn pwyso ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyhoeddi argymhellion ar gyfer dyfodol cadwraeth morol yn nyfroedd Cymru cyn gynted â phosibl yn dilyn cyhoeddiad y Mesur Morol.
Ymateb:  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn nodi’r argymhelliad hwn.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhannu gweledigaeth holl gynhwysfawr y DU o ‘gefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol’.  Rydym wedi adeiladu ar hyn i ddatblygu ein nod ein hunain i amgylchedd morol Cymru, fel rhan o’r Strategaeth Amgylcheddol ehangach. Rydym yn gweithio gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru i ddatblygu gwaith ar weithredu ecosystem ac ymagweddau potensial ar gyfer gwarchod ac adfer, gan gynnwys defnyddio Ardaloedd Morol Gwarchodedig i hybu ein nodau o wella cadwraeth ac adferiad ein hecosystemau a rhywogaethau morol.
Goblygiadau ariannol: dim – mae’r gwaith hwn eisoes ar y gweill.

Y potensial ar gyfer mudiad rheoli morol newydd

Argymhelliad:  Ni wnaeth y Pwyllgor unrhyw argymhellion ar yr agwedd hon ar yr ymgynghoriad.