Carwyn Jones, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Amlinellir ymatebion Llywodraeth y Cynulliad i argymhellion yr Adroddiad isod.
Argymhelliad 1- paragraff 13 o’r Adroddiad: “Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu’r Cod Arferion Gorau ar Ddatblygu Rhwydwaith Ffonau Symudol yn unol â chasgliadau adolygiad Arup / Prifysgol Reading ac ar y cyd â diwygiadau dilynol i God Arferion Gorau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Hefyd ei fod yn ystyried gwneud y cod yn ddogfen statudol neu’n ymgorffori rhannau perthnasol yn Nodyn Cyngor Technegol 19”.
Ymateb: Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn yr argymhelliad hwn. Mae casgliadau Ymchwil Arup/Prifysgol Reading a gomisiynwyd ar y cyd gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn cael eu hystyried. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Gweithgor Cyfathrebu Electronig Rhyngadrannol ynghyd â chynrychiolwyr o lywodraeth ganolog a llywodraeth leol, diwydiant a grwpiau sydd â diddordeb. Mae cylch gwaith y Gweithgor yn cynnwys gwneud cynigion ar gyfer datblygu’r Cod a pholisi a gweithdrefnau cynllunio ymhellach. Ar hyn o bryd, mae’r Gweithgor yn adolygu canfyddiadau ymchwil Arup/Prifysgol Reading. Wrth i syniadau gael eu datblygu dros y misoedd nesaf byddwn yn ystyried, gyda’n rhanddeiliaid o Gymru, a oes angen diwygio ein Cod Arferion Gorau ar Ddatblygu Rhwydwaith Ffonau Symudol a’n polisi a’n gweithdrefnau cynllunio. Byddwn hefyd, fel rhan o’r broses o ddiwygio Nodyn Cyngor Technegol 19, yn ystyried ymgorffori rhannau priodol o’r Cod diwygiedig.
Goblygiadau Ariannol: dim gan fod y gwaith hwn eisoes wedi’i raglennu a byddwn yn cwrdd â’r gost drwy gyllidebau costau gweinyddol cyfredol ac arfaethedig.
Argymhelliad 2 paragraff 14 o’r Adroddiad: “Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu strategaeth gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth am y Cod Arferion Gorau ar Ddatblygu Rhwydwaith Ffonau Symudol”.
Ymateb: Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn yr argymhelliad hwn.
Cyhoeddir strategaeth gyfathrebu ar yr un pryd â’r Cod a’r polisi cynllunio telathrebu diwygiedig. Caiff ei ddatblygu ochr yn ochr â’r adolygiad o’r Cod a’r polisi cynllunio a gallai gynnwys gwell gwybodaeth ar wefan y Cynulliad a’r Porth Cynllunio ac, os oes angen, hyfforddiant ar gyfer aelodau a swyddogion yr awdurdodau lleol.
Goblygiadau ariannol: dim gan fod y gwaith hwn wedi’i raglennu eisoes a byddwn yn cwrdd â’r gost drwy gyllidebau costau gweinyddol cyfredol ac arfaethedig.
Argymhelliad 3 paragraff 17 o’r Adroddiad: “Diddymu hawliau datblygu a ganiateir a bod cyfarpar telathrebu symudol o hyd at 15 metr o uchder yn ddarostyngedig i’r broses gynllunio lawn. “
Ymateb: Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn yr argymhelliad hwn.
Er bod y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor gan y Mobile Operators Association a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddefnyddiol, dim ond darlun rhannol a ddarparwyd ganddynt. Nid yw hyn yn sail ddigonol ar gyfer diddymu hawliau datblygu a ganiateir. Mae angen ystyried yn llawnach yr effeithiau posibl ar amrywiaeth ehangach o randdeiliaid fel y gwasanaethau brys a’r diwydiant darlledu. O ganlyniad, rwy’n bwriadu sefydlu Gweithgor a bydd ei gylch gwaith yn cynnwys edrych ar effeithiau cyfreithiol, technegol ac economaidd, ynghyd â goblygiadau iechyd, newid y system hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer y math hwn o gyfarpar. Byddaf yn gofyn am gael gweld yr argymhellion erbyn yr haf nesaf.
Goblygiadau Ariannol – Dim gan y defnyddir y cyllidebau costau gweinyddol cyfredol ac arfaethedig i gyflawni gwaith y Grwˆ p.
Argymhelliad 4 paragraff 24 o’r Adroddiad “bod y Gweinidog yn egluro’r canllawiau yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru er mwyn sicrhau bod awdurdodau cynllunio lleol yn rhoi ystyriaeth i asesu’r effaith ar iechyd wrth benderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaeth ymlaen llaw”.
Ymateb:
Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn yr argymhelliad hwn. O bwyso a mesur, mae’r dystiolaeth yn dangos nad oes yna berygl cyffredinol i iechyd corfforol pobl sy’n byw ger gorsafoedd, gan y disgwylir i’r lefelau cysylltiad fod yn ffracsiwn bychan o’r hyn sydd yn y canllawiau. Dangosodd archwiliadau a gynhaliwyd mewn tua 500 o orsafoedd yn y DU hyd yma bod y lefelau cysylltiad yn is na’r lefelau sydd yn y canllawiau ym mhob achos, a’u bod filoedd o weithiau’n is gan fwyaf. O dan y ddeddfwriaeth gynllunio bresennol, rhaid cyflwyno tystysgrif gydymffurfio â’r ICNIRP gydag unrhyw gais ar gyfer gorsaf ffonau symudol.
Cyhoeddwyd yr Adolygiad diweddaraf ar Ffonau Symudol ac Iechyd ar 11 Ionawr 2005. Noda’r adroddiad nad yw’r twf sylweddol yn y ffonau symudol a ddefnyddir wedi arwain at gynnydd cysylltiedig a chlir mewn effeithiau niweidiol ar iechyd. Hefyd, o fewn y DU, mae yna ddiffyg gwybodaeth gadarn sy’n dangos bod y systemau ffonau symudol a ddefnyddir yn niweidiol i iechyd corfforol. Cyfeiria adroddiad yr adolygiad at yr angen parhaus am weithredu mewn ffordd ragofalus yn gyffredinol, fel yr argymhellir yn Adroddiad Stewart, ac mae’n ategu barn y Llywodraeth mai’r lefel genedlaethol yw’r lle gorau i ymdrin â’r pryderon sy’n gysylltiedig â Meysydd RF o orsafoedd.
Mae gwaith ymchwil yn cael ei wneud, yn bennaf gan y Rhaglen Ymchwil Telathrebu Symudol ac Iechyd (MTHR) a ariennir ar y cyd gan y sector cyhoeddus a’r cwmnïau ffonau symudol. Bwriada Pwyllgor Rheoli Rhaglen yr MTHR gyhoeddi Adroddiad yn gynnar yn 2007 a fydd yn cyhoeddi canfyddiadau’r ymchwil hyd yma. Bryd hynny, caiff taflenni gwybodaeth i’r cyhoedd y Cynulliad eu diweddaru. Pe bai’r canfyddiadau ymchwil iechyd yn dangos ei bod yn angenrheidiol newid y polisi cynllunio caiff hynny ei ystyried bryd hynny. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu’n ariannol at Raglen Ymchwil MTHR 2.
Pan leolir gorsafoedd mewn mannau ansensitif gall hynny arwain at bryderon am les unigolion a chymunedau. Y ffordd fwyaf priodol o ragatal unrhyw bryderon am les yw drwy gynnwys yw awdurdod cynllunio lleol yn y cynlluniau datblygu’r rhwydwaith blynyddol a chydymffurfio â’r Cod Arferion Gorau. Nid oes yna dystiolaeth bwysig sy’n awgrymu bod angen cynnal asesiadau gorfodol o’r effaith ar iechyd wrth wneud cais am ganiatâd cynllunio neu ganiatâd ymlaen llaw ar gyfer cyfarpar telathrebu electronig. Mae’n debygol y byddai defnyddio’r arf hwn ym mhob achos yn rhoi baich ychwanegol ar y diwydiant, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd. Byddaf yn parhau i adolygu’r sefyllfa hon, fodd bynnag, ac yng ngoleuni’r ymatebion i Ddatganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog ar Iechyd a Chynllunio byddaf yn ystyried a oes angen egluro ein polisïau ymhellach a/neu roi cyfarwyddyd ymarferol.
Argymhelliad 5 paragraff 27 o’r Adroddiad: “ Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, o dan nawdd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn annog awdurdodau cynllunio lleol i dderbyn y cynnig i gael cyfarfodydd gydag aelodau y Mobile Operators Association ar ôl iddynt ddosbarthu cynlluniau datblygu blynyddol eu rhwydwaith bob hydref”.
Ymateb: Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn yr argymhelliad hwn. Rwy’n ymwybodol mai nifer gyfyngedig o awdurdodau cynllunio lleol Cymru sydd wedi manteisio ar y cynnig o gael cyfarfod gyda’r gweithredwyr i drafod eu cynlluniau adeiladu rhwydwaith blynyddol. Ar hyn o bryd, mae’r Gweithgor y cyfeiriwyd ato yn yr ymateb i argymhelliad 1 yn ystyried sut i wneud y cynlluniau adeiladu rhwydwaith a ddarperir ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol yn fwy defnyddiol a sut i hyrwyddo mwy o gyfranogiad. Byddaf hefyd yn ymgynghori â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch y ffordd orau o annog awdurdodau cynllunio lleol i fanteisio ar y cyfle i gael cyfarfodydd.
Goblygiadau Ariannol- dim gan y bydd hyn yn cael ei wneud fel rhan o’r cyfarfodydd rheolaidd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Prif Swyddogion Cynllunio gan ddefnyddio’r cyllidebau costau gweinyddol cyfredol ac arfaethedig.
Argymhelliad 6 paragraff 28 o’r Adroddiad: “Bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi cynlluniau datblygu rhwydwaith blynyddol aelodau’r Mobile Operators Association ac yn trefnu iddynt gael eu hanfon at y rhanddeiliaid allweddol cyn gynted ag y bydd modd. Hefyd bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu’r Cod Arferion Gorau i adlewyrchu hyn”.
Ymateb: Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn yr argymhelliad hwn. Ymdrinnir â’r mater hwn yn ystod yr adolygiad o’r Cod Arferion Gorau.
Goblygiadau Ariannol- dim gan fod y gwaith hwn eisoes wedi’i raglennu a byddwn yn cwrdd â’r gost drwy gyllidebau costau gweinyddol cyfredol ac arfaethedig.
Argymhelliad 7 paragraff 31 o’r Adroddiad :” Bod y canllawiau yn cael eu diwygio fel bod ymrwymiad i ddichonoldeb rhannu safle yn orfodol ym mhobl cais.”
Ymateb: Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn yr argymhelliad hwn. Ymdrinnir â’r mater hwn yn ystod yr adolygiad o’r Cod Arferion Gorau.
Goblygiadau Ariannol- dim gan fod y gwaith hwn eisoes wedi’i raglennu a byddwn yn cwrdd â’r gost drwy gyllidebau costau gweinyddol cyfredol ac arfaethedig.