Skip to content

Llafar - Datganiad Am Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru I Adroddiad Pwyllgor Yr Amgylchedd, Cynllunio A Chefn Gwlad Ar Y Mesur Morol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog Dros Yr Amgylchedd, Cynllunio A Chefn Gwlad
Croesawaf adroddiad y pwyllgor ar y Mesur morol a’r diddordeb y mae’r pwyllgor yn parhau i’w ddangos yn y gwaith o ddatblygu’r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn nodi’r datganiadau a’r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn ei adroddiad. Gwyddom fod y Mesur morol yn newid yn y ffordd y paratoir Mesurau yn y DU, gan ystyried Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a’r modd y mae datganoli yn newid.

Mae’r gwaith o ddatblygu’r Mesur morol yn digwydd ar adeg sy’n ein galluogi i gydnabod y gwahaniaethau rhwng gwledydd datganoledig, tra’n gweithio hefyd tuag at nod cyffredin o gael moroedd cynaliadwy a gaiff eu rheoli’n well yn y DU. O gofio’r cyd-destun hwnnw, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno â galwad y pwyllgor i sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf posibl o ran y ffordd y paratoir y Mesur. Mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod y cymysgedd cymhleth o bwerau datganoledig ac annatganoledig yn yr amgylchedd morol, a bydd angen gwneud gwaith gyda Llywodraeth y DU, ac nid dim ond yn yr ardaloedd trawsffiniol, megis moryd Hafren a Dyfrdwy.

Mae cynllunio gofodol morol yn ffordd newydd o reoli ein moroedd a bydd yn ofynnol sicrhau ymagwedd drawsbynciol, gydweithredol. Yr ydym ni, fel Llywodraeth, yn gweithio gyda gweinyddiaethau ac adrannau eraill i ddatblygu system cynllunio gofodol morol a fydd yn cyflwyno system well ar gyfer rheoli’r defnydd o adnoddau morol a’r modd y cânt eu diogelu, gan ystyried yr holl weithgareddau a defnyddiau.

Mae’n bwysig inni y gall unrhyw system cynllunio gofodol morol weithredu a gweithio gyda’n system cynllunio daearol a chynllun gofodol Cymru. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn croesawu cefnogaeth y pwyllgor i system cynllunio gofodol morol.

Noda adroddiad y pwyllgor gefnogaeth i symud fesul cam tuag at gyfundrefn drwyddedu fwy integredig. Mae’r Mesur morol yn gyfle allweddol i unioni’r trefniadau ad hoc sydd ar waith ac i sicrhau ein bod yn mynd ati i reoli’r moroedd mewn modd cyfannol, ystyriol a strategol i greu system a fydd yn galluogi ein hadnoddau morol i gael eu defnyddio, eu datblygu a’u diogelu yn gynaliadwy. Mae Llywodraeth y Cynulliad o blaid creu system drwyddedu symlach ar gyfer yr amgylchedd morol.

Fel y dywedodd llawer o siaradwyr yn y ddadl ar adroddiad y pwyllgor, mae gan Gymru amgylchedd morol y byddai gwledydd eraill yn genfigennus ohono o amgylchedd sydd o dan bwysau cynyddol oherwydd llawer o weithgareddau, er enghraifft, twristiaeth, trafnidiaeth, cynhyrchu ynni a’i storio. Mae 70 y cant o’n harfordir a 40 y cant o foroedd Cymru wedi’u dynodi yn rhai pwysig oherwydd eu cynefinoedd a’u rhywogaethau. Ceir amrywiaeth o gynigion o dan y Mesur morol i helpu i ddiogelu’r amgylchedd morol. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi’r symud tuag at ymagwedd fwy integredig tuag at ddiogelu’r amgylchedd morol, gan gydnabod pwysigrwydd diogelu ecosystemau cyfan yn ogystal â rhywogaethau unigol.

Yn olaf, o ran pysgodfeydd, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi argymhelliad y pwyllgor i ddiweddaru’r gwaith o reoli pysgodfeydd y glannau a deddfwriaeth yn y maes hwnnw. I’r perwyl hwnnw, cyhoeddais ar 15 Medi gynigion a nododd y dylai Llywodraeth y Cynulliad ymgymryd â chyfrifoldeb llawn am y gwaith o reoli pysgodfeydd yn nyfroedd Cymru. Mae swyddogion yn cynnal cyfarfodydd ar hyn o bryd gyda rhanddeiliaid allweddol a bydd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn dechrau ym mis Rhagfyr.

Bydd y Mesur morol yn fodd i drawsnewid y ffordd y rheolir ein holl foroedd, rhywbeth sy’n annhebygol o ddigwydd eto am gryn dipyn o amser. Mae hwn yn gyfle gwych. Croesawaf adroddiad y pwyllgor a byddaf yn parhau i hysbysu’r pwyllgor a’r Cynulliad cyfan o ddatblygiadau o ran y mater pwysig hwn.