Skip to content

Llafar -Marwolaethau o Ganlyniad i Wenwyno Carbon Monocsid

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart,Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Yr wyf yn falch gwneud y datganiad hwn, gan ei fod yn tynnu sylw at fater difrifol—peryglon gwenwyn carbon monocsid. Cynhyrchir nwy carbon monocsid drwy losgi tanwydd. Fel y gwyddom, mae’n wenwynig a gall hyd yn oed anadlu ychydig bach arwain at fynd yn anymwybodol a marw. Yn y DU, mae dros 50 o bobl yn marw o wenwyn carbon monocsid damweiniol bob blwyddyn. Gan nad oes iddo arogl na lliw, mae’n anodd canfod carbon monocsid. Mae’n hawdd ei anadlu felly yn ddiarwybod.

Cynhyrchir carbon monocsid pan na fydd tanwydd fel nwy, olew, glo a choed yn llosgi’n llawn. Pan fydd tân yn llosgi mewn ystafell gaeëdig, caiff yr ocsigen yn yr ystafell ei ddefnyddio’n raddol a’i ddisodli gan garbon deuocsid. Ar ôl i garbon deuocsid gronni yn yr aer, caiff y tanwydd ei atal rhag llosgi’n llawn, a bydd yn dechrau rhyddhau carbon monocsid yn lle hynny.

Y rheswm mwyaf cyffredin dros wenwyn carbon monocsid yw system awyru annigonol neu ddiffyg cynnal a chadw cyfarpar gwresogi yn y cartref. Mae ffyrnau, tanau a boeleri nwy, gwresogyddion dwr sy’n cael eu cynhesu gan gan nwy, gwresogyddion paraffîn, ffyrnau sy’n cael eu cynhesu gan danwydd solet, boeleri a gwresogyddion ystafell i gyd yn ffynonellau posibl. Gall nwy carbon monocsid gael ei ryddhau pan na fydd cyfarpar yn gweithio’n iawn, os bydd y ffliw wedi’i rhwystro neu’n gollwng, neu os na fydd yr ystafell wedi’i hawyru’n ddigonol.

Yn ôl y gyfraith, mae landlordiaid cymdeithasol a phreifat yn gyfrifol yn gyffredinol am sicrhau bod ffitiadau a ffliwiau nwy yn cael eu cynnal a’u cadw a’u bod mewn cyflwr da, a bod cyfarpar nwy a ffliwiau’n cael eu harchwilio unwaith bob 12 mis i sicrhau eu bod yn ddiogel. Rhaid iddynt hefyd gadw cofnod o’r archwiliadau diogelwch am o leiaf ddwy flynedd, a rhoi’r dystysgrif ddiweddaraf i denantiaid presennol ac unrhyw denantiaid newydd cyn iddynt symud i mewn. Mae gwneud archwiliadau diogelwch ar osodiadau gwresogi yn rheolaidd hefyd yn un o ofynion safon ansawdd tai Cymru, sy’n gymwys i bob landlord tai cymdeithasol yng Nghymru.

Yn y sector rhentu preifat, mae canllawiau ar y system mesur iechyd a diogelwch ar gyfer tai yn dweud yn glir fod landlordiaid yn gyfrifol, at ddibenion gorfodi, am ddarparu cyfarpar nwy, tanwydd solet ac olew ac am sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn. Er bod synwyryddion carbon monocsid yn ddull diogelu defnyddiol, ni allant gymryd lle cyfarpar a ffliwiau sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n briodol. Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu bod cyfarpar nwy diffygiol yn dal i gael ei ddefnyddio mewn nifer o gartrefi, a bod ymwybyddiaeth y cyhoedd o risg gwenwyn carbon monocsid yn bryderus o isel.

Y ffordd fwyaf dibynadwy i archwilio lefelau carbon monocsid yn y cartref yw gosod synhwyrydd carbon monocsid. Mae synwyryddion o’r fath ar gael yn y rhan fwyaf o siopau DIY a nwyddau metel. Fodd bynnag, ni ellir dibynnu arnynt yn llwyr am mai system rybuddio ydynt, ac ni allant gymryd lle’r broses reolaidd o gynnal a chadw cyfarpar. Serch hynny, gallant helpu achub bywydau.
Yn gyffredinol, nid yw iechyd a diogelwch wedi ei ddatganoli i Gymru, ac nid oes rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol gosod synwyryddion carbon monocsid yn y cartref. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn adolygu diogelwch nwy domestig yn y DU ar hyn o bryd, ac mae swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda HSE ar yr adolygiad hwnnw i lunio cynigion a fydd yn rhoi cyfundrefn diogelwch nwy fodern ac effeithiol ar waith. Heb beryglu canlyniad yr adolygiad diogelwch nwy, yr wyf yn ystyried beth y gellir ei wneud i leihau risg gwenwyn carbon monocsid i gartrefi diamddiffyn yng Nghymru.
Mae’r gwasanaethau tân ac achub yn anelu at wneud tua 50,000 o archwiliadau diogelwch yn y cartref yng Nghymru yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Byddaf yn gofyn i gyfarfod nesaf Pwyllgor Cynghori Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru ystyried beth y gellir ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth am y mater a diogelu cartrefi diamddiffyn, gan gynnwys tai amlfeddiant, rhag gwenwyn carbon monocsid. Yr wyf hefyd am siarad ag awdurdodau lleol am dai amlfeddiant, a’r hyn sy’n hysbys am y risgiau i’r sector hwnnw. Yr wyf am edrych ar y cyfleoedd a all fod ar gael drwy eu cysylltiad â grwpiau landlordiaid preifat, a’u gweithgareddau wrth drwyddedu a mesur iechyd a diogelwch, er mwyn cynyddi ymwybyddiaeth am yr angen i weithredu.
Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i helpu cartrefi diamddiffyn drwy’r cynllun effeithlonrwydd ynni cartref, ac yr wyf wedi gofyn i Bartneriaeth Eaga, sy’n rhedeg y cynllun, edrych ar y ffordd y gellir cynnwys cyngor ar wenwyn carbon monocsid a diogelu rhagddo. Gofynnwyd i’r bartneriaeth ystyried materion megis gosod synwyryddion, posibilrwydd cynnwys archwiliad iechyd cyffredinol ar sail ymweliad cynnal a chadw blynyddol y cynllun, i gwmpasu unrhyw gyfarpar nwy presennol, a llenyddiaeth gynghori.
Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn y flwyddyn newydd am ganlyniadau’r trafodaethau hyn, a’m casgliadau ynglyn â pha gamau ymarferol y gallai Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd i atal marwolaethau oherwydd carbon monocsid.