Skip to content

Dyfodol ALCOA yn Abertawe

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau
Diolch am roi’r cyfle imi wneud datganiad ar y cynnig i gau ffatri Alcoa. Yr oeddwn yn siomedig iawn, fel yr oedd pob Aelod mae’n siwr, o glywed y newyddion ddoe fod Alcoa wedi cyhoeddi y bydd ffatri Waunarlwydd yn cau ym mis Mawrth, yn ddarostyngedig i ganlyniad y cyfnod ymgynghori statudol o 90 diwrnod. Yr hyn a wnaeth y newyddion yn anos oedd ei fod mor annisgwyl ac na fu unrhyw ymgynghori â’r undebau na’r gweithlu yn Abertawe.

Byddaf yn cyfarfod â’r cwmni fore dydd Gwener i drafod beth y gellid ei wneud i gadw’r ffatri ar agor ac i gynnig unrhyw gymorth y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ei roi. Deallaf fod y cwmni yn cyfarfod â’r undebau llafur yfory. Yr wyf yn siwr fy mod yn siarad ar ran pob Aelod wrth ddatgan fod ein cydymdeimlad gyda’r gweithlu a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ymwelais â’r ffatri yn 2002 i gyhoeddi prosiect cymorth dewisol rhanbarthol gwerth £4.25 miliwn, a oedd yn anelu at gefnogi buddsoddiad yn y ffatri a’i wneud yn fwy cystadleuol. Er bod y cwmni wedi gwneud ceisiadau yn erbyn y grant hwn, mae rhan helaeth o’r cynnig ar gael o hyd. Fodd bynnag, rhaid imi egluro—fel y gwneuthum i’r cwmni ddoe—os bydd y ffatri’n cau, byddaf yn disgwyl adennill y £1.87 miliwn a dalwyd, er yr hawliwyd £2.5 miliwn hyd yma.

Mae’r cwmni wedi beio tri ffactor am y penderfyniad: costau ynni uwch—o ran trydan ac olew—costau llafur uchel a chostau defnyddiau. Yr ydym wedi trafod ynni yn y Siambr o’r blaen. Ymatebodd Llywodraeth y Cynulliad i adolygiad ynni Llywodraeth y DU drwy bwysleisio fod prisiau ynni uchel yn y DU yn cael effaith anghymesur o fawr ar Gymru gan fod gennym gyfran uwch o ddiwydiannau ynni-ddwys nag unrhyw ran arall o’r DU. Yr ydym yn llawn ddisgwyl i seilwaith cyflenwi nwy newydd gael ei gyflwyno. Dylai hyn, gobeithio, leihau prisiau ynni, ond yn amlwg, nid yn y byrdymor.

Mae’r gweithwyr yn Alcoa yn fedrus iawn ac yn gweithredu peiriannau cymhleth. Mae llawer ohonynt wedi bod yn gweithio yno ers amser ac yn ennill cyflogau sy’n adlewyrchu eu sgiliau. Gobeithiaf na ddaw i hyn, ond pe cadarnheir y cynigion i gau’r ffatri, bydd fy swyddogion a swyddogion adrannau eraill—yn arbennig swyddogion adran Jane Davidson—yn gwneud popeth posibl i helpu’r gweithlu i ddod o hyd i swyddi newydd, gan gynnwys defnyddio rhaglen ReAct ar ariennir gan Amcan 1.

Yn ogystal, yr wyf yn ymwybodol y bydd y cyhoeddiad hwn yn effeithio ar gyflenwyr y cwmni. Ar ôl fy nghyfarfod ddydd Gwener, bydd fy swyddogion yn nodi’r cyflenwyr hyn ac yn cynnig cymorth iddynt.