Skip to content

Ysgrifenedig - Yr Adroddiad Leitch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, hoffem groesawu adroddiad terfynol yr Arglwydd Leitch, a gyhoeddwyd ddoe, ar broffil sgiliau gweithlu’r Deyrnas Unedig a’i anghenion ar gyfer y dyfodol. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r Arglwydd Leitch am y ffordd y mae wedi cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y gwaith o baratoi’i adroddiad. Mae’n cydnabod hefyd y bydd angen i’r gweinyddiaethau datganoledig gael cyfle i ystyried argymhellion yr adroddiad.

Rwy’n bwriadu ymgynghori â chyflogwyr, undebau llafur ac eraill dros y misoedd nesaf er mwyn gweld sut y gallwn ddefnyddio gweledigaeth yr Arglwydd Leitch i ddatblygu agenda sgiliau gyffrous i ni yng Nghymru. Yn benodol, byddwn am sicrhau fod gan ein cyflogwyr, trwy’r Cynghorau Sgiliau Sector, rôl bwysig i’w chwarae wrth ddatblygu cymwysterau galwedigaethol a dysgu’n seiliedig ar waith. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ganlyniadau’r adolygiad o sector addysg bellach Cymru, sy’n cael ei arwain gan Syr Adrian Webb, ac a fydd yn ystyried argymhellion Leitch fel rhan o’i gylch gwaith.

Mae nifer o argymhellion Leitch yn cyd-fynd â’r hyn rydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru. Mae gennym ni’n barod ffordd integredig o godi lefelau sgiliau a gwaith drwy’r Cynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth. Mae’n wir bod gennym lawer o waith i’w wneud eto, ond rydym ni wedi cydnabod pwysigrwydd integreiddio’r polisi. Mae’n ffordd o weithio hefyd yn cyd-fynd â’r neges o ‘weithredu yn ôl y galw’ a bwysleisir gan yr Arglwydd Leitch. Mae’n rhaid i Gyflogwyr fod yn fwy cyfrifol am arwain y gwaith o wella sgiliau’r gweithlu. Rydym ni’n symud yn nes at daro’r nod mewn nifer o ffyrdd, mae gwaith ymchwil Sgiliau Dyfodol Cymru wedi pennu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr, rydym ni’n cefnogi Cynghorau Sgiliau Sector Cymru’n frwd ac mae gennym System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol newydd ar gyfer addysg ôl-16. Mae’n Rhaglen Datblygu’r Gweithlu yn cynnig cefnogaeth hyfforddi wedi’i deilwra i fodloni anghenion cyflogwyr.

Mae argymhellion eraill adroddiad Leitch yn ategu’n polisïau a’n rhaglenni ee cefnogi gwasanaeth gyrfaoedd o ansawdd uchel, rhaglen Addewid y Cyflogwr (fel y rhaglen sydd eisoes gennym ar gyfer sgiliau sylfaenol yng Nghymru), a Chyfrifon Dysgu Unigol.

Rwy’n credu bod chwyldro wedi dechrau ym myd dysgu Cymru. Dyna fantais amlwg datganoli. Mae’r weledigaeth yn glir. Mae’n ffordd o weithio’n canolbwyntio ar y dysgwr, y cyflogwr a’r gymuned ac mae’n seiliedig ar egwyddorion cydweithio sy’n rhan annatod o’n hagwedd gyffredinol tuag at wella gwasanaethau cyhoeddus.

Ers 1999, rydym ni yng Nghymru wedi gwneud mwy na’n siâr i symud yr agenda sgiliau yn ei blaen. Rydym yn falch iawn bod yr Arglwydd Leitch wedi cydnabod hyn yn ei adroddiad. Rwy’n awr yn edrych ymlaen at wynebu’r her sydd o’n blaenau yn y maes hwn, ac at ddefnyddio’r adroddiad pwysig hwn fel canllaw i wella’r hyn yr ydym eisoes wedi llwyddo i’w gyflawni.