Skip to content

Ysgrifenedig - Ariannu’r Broses O Ddylunio Adenydd Airbus

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidiog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau
Yr wyf yn tybio bod y cais am y datganiad hwn yn ymwneud â dylunio’r adenydd ar gyfer yr Airbus A350 XWB.

Ar 1 Rhagfyr, rhoddodd Bwrdd Cyfarwyddwyr EADS y golau gwyrdd i Airbus lansio’r rhaglen ddiwydiannol ar gyfer y teulu newydd o awyrennau A350 XWB.  Bydd yr A350 XWB, ynghyd â’r teulu o awyrennau A330/A340, yn bodloni anghenion marchnad sy’n galw am ryw 5,700 o awyrennau newydd yn y ddau ddegawd nesaf. Mae’n sector allweddol o’r farchnad a bydd yr awyrennau yn cystadlu’n uniongyrchol gyda ‘Dreamliner’ Boeing 787.

Mae’r gwaith o ddylunio a chreu adenydd yr A350 XWB yn allweddol a gall sicrhau dyfodol ffatri Airbus ym Mrychdyn, sydd â thros 7,000 o weithwyr crefftus iawn.  Dyma’r model cyntaf gan Airbus sydd wedi’i wneud yn bennaf o ddeunyddiau cyfansawdd, sy’n ysgafnach nag alwminiwm, ac sy’n fanteisiol iawn o ran arbed ynni.  Mae datblygu’r dechnoleg o wneud adenydd o ddeunydd cyfansawdd yn ganolog i hybu i’r eithaf gyfraniad y DU yn y gwaith o greu’r A350 XWB, a hefyd i sicrhau bod y DU yn dal i arwain wrth greu adenydd i’r genhedlaeth nesaf o awyrennau Airbus.

Amcangyfrifir y bydd dyluniad a datblygiad yr A350 XWB yn costio  €10 biliwn, gan gynnwys yr adenydd.  Bydd yn cael ei ariannu’n bennaf o lif arian Airbus, gyda chyfraniad helaeth o raglen cystadleurwydd Power 8 y cwmni ac o bartneriaid sy’n rhannu’r risg.  Mae EADS yn ystyried lledaenu’r costau o ddatblygu’r teulu cyfan o awyrennau A350 XWB yn ystod y blynyddoedd 2007 i 2014 a bydd swmp y gwario’n digwydd rhwng 2010 a 2013.