Skip to content

Diogelwch terfynfeydd yn dilyn digwyddiad diweddar yn Aberdaugleddau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau
Bu i'r 'MV Prospero', y Tancer 16,700 tunnell (pwysau marw) angori'n drwm wrth ddocio yn y derfynfa SemLogistics yn Aberdaugleddau yn oriau mân bore dydd Sul.

Roedd peilot ar fwrdd y llong adeg y digwyddiad.

Achosodd y digwyddiad fân ddifrod i'r llong a difrod mwy difrifol i'r lanfa.

Roedd y tancer bron yn wag adeg y digwyddiad, yn cludo 248 o dunnelli o gerosîn.

Ni fu unrhyw anafiadau na llygredd yn sgil y digwyddiad ac nid yw'n berygl i'r amgylchedd nac i iechyd pobl.

Mae Swyddfa Ymchwilio i Ddamweiniau Môr yr Adran Drafnidiaeth wrthi'n cynnal ymchwiliad.  Bydd y Swyddfa Ymchwilio i Ddamweiniau Môr yn anfon copi o'i adroddiad ataf wedi iddi gwblhau'i hymchwiliad.  Mae Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau hefyd yn cynnal ymchwiliad.

Trefniadau ar gyfer diogelwch morgludiant a phorthladdoedd

Caiff porthladdoedd a morgludiant eu llywodraethu gan ofynion diogelwch cynhwysfawr.  Mae'r rhain yn cynnwys cymdymffurfio â gofynion rhyngwladol a bennir gan yr IMO (y Sefydliad Morol Rhyngwladol), gofynion y wlad lle mae'r llong wedi'i chofrestru ('gwladwriaeth y faner'), gofynion y wlad lle mae'r llong yn masnachu ('rheolaeth gwladwriaeth y porthladd'), a phan maent yn y porthladd, gofynion y porthladd hwnnw fel y'u pennir yn y ddeddfwriaeth sy'n berthnasol iddo.

Yn achos y DU, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau sy'n rheoli ac yn monitro “rheolaeth gwladwrieth y porthladd”, sy'n rheoleiddio mordwyaeth yn nyfroedd y DU ac yn monitro ac arolygu llongau.

Mae Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau yn mynnu, fel rhan o dderbyn unrhyw long, ddatganiad ei bod mewn cyflwr digonol i fynd a dod o'r porthladd.  Daw datganiad o'r fath oddi wrth y llong a / neu'r derfynfa sydd wedi'i chofrestru cyn iddi gyrraedd, ac mae hefyd yn cynnwys cadarnhâd bod yr holl ofynion rheoleiddio, sef archwiliadau, caniatâd gan swyddogion, cyflwr y peirianwaith a'r offer etc mewn trefn.   Yn ogystal, bydd y peilot yn adolygu'r rhain fel rhan o'i archwiliad cychwynnol o'r llong, yn ogystal â chytuno gyda'r capten ar y ffordd y bydd y llong yn mynd a dod o'r porthladd.

Os bydd unrhyw ran o'r broses hon yn nodi rhywbeth nad yw'n ofynnol neu'n ddisgwyliedig, bydd angen mwy o fanylion er mwyn cynnal asesiad risg ynghylch a fydd hynny'n effeithio ar ddefnydd y llong o'r porthladd, a sut bydd yn effeithio ar hyn os yw'n berthnasol.

Asesiadau risg i baratoi ar gyfer agor cyfleusterau LNG.

Cynhaliodd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ystod eang o asesiadau risg a phrofion sefyllfaoedd fel rhan o'i ddull cynllunio manwl ar gyfer derbyn llongau LNG.

Mae'r rhain yn cynnwys Asesiad Risg Mesuradwy o long LNG wrth ei hangorfa, a'r sefyllfaoedd a allai arwain at golli llwyth - sef i bob pwrpas risg gwrthdaro â llong arall.

Canlyniad yr Asesiadau Risg Mesuradwy hyn oedd bod y risgiau'n bodloni lefelau derbyniol, ac y bydd y mesurau lleihau risg y mae Awdurdod y Porthladd wedi'u nodi ac yn bwriadu'u rhoi ar waith yn lleihau lefel y risg ymhellach.

Mae'r mesurau'n cynnwys cyfyngiadau cyflymder ar longau sy'n pasio'i gilydd, nifer, math a defnydd o dynfadau, lledu'r prif sianel fordwyo, nifer y tynfadau i'w defnyddio, nifer y peilotiaid, amser mynd a dod i longau (mewn perthynas â'r llanw), y sianelau mordwyo i'w defnyddio, amgylchiadau tywydd etc.  Yn ogystal, mae'r broses hon yn diffinio a oes angen unrhyw arwyddnodau mordwyo ychwanegol, unrhyw garthu ac ati.