Skip to content

Ysgrifenedig - Gwasanaethau HIV Yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yng Nghymru, ar 22 Medi 2006, roedd 1302 o bobl wedi canfod eu bod yn HIV positif. Mae 760 o gleifion yn cael eu monitro ar hyn o bryd mewn clinigau cleifion allanol ac o'r rhain gwyddom fod 526 yn derbyn rhyw fath o therapi cyffuriau gwrth-firol.

Nid oes angen i bob claf sy'n canfod eu bod yn HIV+ dderbyn triniaeth cyn gynted â'u bod yn canfod eu bod yn dioddef - mae triniaeth therapiwtig yn dechrau pan fo profion gwaed yn dangos gostyngiad penodol yn lefel imiwnedd y corff.  

Darperir gwasanaethau HIV mewn 7 o Ymddiriedolaethau yng Nghymru gyda rhai cleifion, yn bennaf y rhai hynny yng Nghanolbarth Cymru, yn derbyn gwasanaethau o Loegr. Nid oes yn rhaid aros am driniaeth - ac mae safon y driniaeth yn uchel iawn, gan ddilyn model rheoli meddygol Cymdeithas HIV Prydain. Gan fod y ddarpariaeth o wasanaethau a thriniaeth HIV yn galw am sgiliau penodol gyda therapi cyffuriau gwrth-firol yn mynd yn fwyfwy soffistigedig, nid yw'r gwasanaeth yn cael ei ddarprau ymhob clinig iechyd rhywiol yng Nghymru.

Cyfrifoldeb pob Bwrdd Iechyd Lleol yw darparu gwasanaethau iechyd rhywiol. Y Byrddau Iechyd Lleol, gyda'u gwybodaeth leol, sydd yn y sefyllfa orau i asesu anghenion iechyd eu trigolion ac i weithio gyda darparwyr gwasanaethau gofal iechyd ac eraill i gynllunio a blaenoriaethu gwasanaethau i fodloni'r angen hwnnw o fewn yr adnoddau sydd ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd Rhywiol ac Atal HIV
Nod y Fframwaith Strategol ar gyfer hybu iechyd rhywiol yng Nghymru a lansiwyd yn y flwyddyn 2000, yw gwella iechyd rhywiol y boblogaeth drwy sicrhau ei bod yn bosibl i bobl gael gafael ar wybodaeth, cyngor a gwasanaethau iechyd rhywiol. Un o'r prif amcanion o fewn y Strategaeth yw sicrhau bod llai o bobl yn dioddef o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Fel rhan o'r strategaeth, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu dwy ymgyrch ar hyn o bryd i sicrhau bod llai o bobl yn dioddef o glefydau sy'n cael eu trosglwyddo'n rhywiol. Ers 2001, mae'r Ymgyrch Atal Heintiau a Drosglwyddir drwy Ryw yn targedu pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Mae posteri a thaflenni gwybodaeth yn cael eu harddangos yn nhoiledau tafarndai, clybiau, prifysgolion a cholegau, clybiau ieuenctid ac amrywiol sefydliadau gofal iechyd ledled Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wedi ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad ers Gorffennaf 2001 i gynnal ymgyrch hybu iechyd HIV trwy Gymru gyfan sy'n targedu dynion hoyw, sef y grŵp sydd mewn mwyaf o berygl o hyd o fewn y gymuned frodorol. Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn cynnal yr ymgyrch 'Better to Know' hefyd. Nod yr ymgyrch yw annog pobl o wledydd sydd â pherygl uchel ac sydd bellach yn byw yng Nghymru i ddod i gael prawf HIV. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn cynnwys cynhyrchu adnoddau gwybodaeth, gwaith allgymorth a gwaith ysgogiadol cynhwysfawr.

Cafodd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins grant sector gwirfoddol Her Iechyd Cymru i sefydlu rhwydwaith HIV yng Nghymru. Mae'r rhwydwaith yn cyfuno defnyddwyr gwasanaethau, darparwyr gwasanaethau a'r sector gwirfoddol i wella'r ddarpariaeth ledled Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn rhoi hyfforddiant hefyd ar ymgyrchoedd hybu iechyd HIV i amrywiol grwpiau proffesiynol gan gynnwys staff ysbytai, gweithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol a gweithwyr ieuenctid.

Rhaglen Foderneiddio Gwasanaethau HIV ac Iechyd Rhywiol
Ym mis Rhagfyr 2004, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganlyniadau  ei hadolygiad o Wasanaethau HIV a Iechyd Rhywiol yng Nghymru, a chyhoeddodd ei bwriad i gyflwyno Rhaglen Foderneiddio ar gyfer y Gwasanaeth HIV a Iechyd Rhywiol.  

Nod gyffredinol y Rhaglen Foderneiddio yw integreiddio’r gwasanaethau meddyginiaeth cenhedlol-droethol a chynllunio teulu presennol yn un gwasanaeth iechyd, yn y gymuned lle y bo hynny'n bosibl, i gael cymaint o gyfle â phosibl i gynnal gwiriadau iechyd ataliol, dod i wybod am heintiau cyn gynted â phosibl, a darparu gwasanaeth mwy effeithlon, effeithiol a derbyniol i gleifion a staff.  

Arweiniad Cenedlaethol
Mae'r ariannu ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol (gwasanaethau cenhedlol-droethol a chynllunio teulu) wedi ei ddiogelu o fewn dyraniadau ariannol blynyddol y Bwrdd Iechyd Lleol ers mis Ebrill 2005. Cafodd £500 mil yn ychwanegol ei ddarparu gan Lywodraeth y Cynulliad o fis Ebrill 2005 i gynorthwyo'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei ymdrechion i'w gwneud yn haws i bobl gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol.

Er mwyn ysgogi gwelliannau, aeth Dr Marion Lyons, Meddyg Ymgynghorol Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy yn y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Gwladol, ar secondiad i Lywodraeth y Cynulliad fel Cyfarwyddwr y Rhaglen Foderneiddio.  Sefydlwyd Grŵp Cynghori Amlddisgyblaethol ar gyfer Iechyd Rhywiol i gefnogi a chynghori Dr Lyons.

Hynt Hyd Yma

Cafodd y gofynion ansawdd drafft ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol o safon uchel eu datblygu i'w cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan, mae'r rhain yn cynnwys gofynion ansawdd ar wasanaethau HIV ac AIDS.

Bydd y Grŵp Cynghori ar Iechyd Rhywiol hefyd yn datblygu dull o arwchwilio y gall Comisiynwyr a darparwyr ei ddefnyddio i fesur ansawdd eu gwasanaethau iechyd rhywiol a sicrhau eu bod yn bodloni anghenion amcanion polisi Llywodraeth y Cynulliad.

Cafodd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins un taliad o £20,000 o'r gronfa foderneiddio i gynnal prosiect peilot er mwyn cyflwyno, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Caerdydd a'r Fro, wasanaeth 'Cyflym' sy'n cynnig profion HIV am ddim, a chanlyniadau o fewn yr awr, y tu allan i oriau swyddfa, gan ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar y prawf.