Skip to content

Iaith Arwyddion Prydain

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Hutt, y Gweinidog gyda cyfrifoldeb am Cyfle Cyfartal
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yw iaith gyntaf neu ddewis iaith tua 3,000 o bobl yng Nghymru, ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod ei bod yn iaith ynddi hi ei hun.

Sefydlwyd Grw^p Gorchwyl a Gorffen o dan adain y Cabinet gan fy nghydweithwraig, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, ym mis Mehefin 2004. Fe’i cadeiriwyd gan Karen Sinclair AC, ac aeth ati i ymchwilio i'r gwasanaethau dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain sydd ar gael yng Nghymru. O'i gymharu â'r nifer mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, gwelwyd mai dim ond nifer bach o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain/Iaith Lafar â’r cymwysterau priodol sydd ar gael yng Nghymru.

Argymhellodd y Grw^p hwn y dylai Llywodraeth y Cynulliad fynd ati i sefydlu Cynllun Prentisiaeth ar gyfer Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo £1.6 miliwn i gyllido Cynllun Dyfodol BSL, sef y Cynllun Prentisiaeth ar gyfer Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain. Mae'r bartneriaeth sy'n rhedeg y Cynllun wedi llwyddo i gael dros £1.1 miliwn o arian cyfatebol o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio’r 10 prentis cyntaf.

Bydd y Cynllun hefyd yn buddsoddi mewn mentrau i ddatblygu'r gallu i addysgu BSL yng Nghymru, gan wneud hynny  drwy:
• hyfforddi mwy o diwtoriaid BSL i ddysgu'r iaith ar y lefelau uchaf;
• cynorthwyo colegau ledled Cymru i ddatblygu ac i ddarparu cyrsiau BSL;
• datblygu cwrs ôl-radd mewn dehongli BSL/Iaith Lafar; a
• chynorthwyo darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu'r gallu i ddarparu gwasanaethau mewn BSL.  

Mae nifer y dehonglwyr sydd ar gael yn effeithio'n uniongyrchol ar gynhwysiant cymdeithasol ac ar allu dinasyddion sy'n defnyddio BSL i gael gafael ar wasanaethau. Mae hwn yn gam mawr ymlaen.