Skip to content

Cynllun Wrth Gefn Clwy’r Traed a’r Genau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Mae Cynllun Wrth Gefn Clwy’r Traed a’r Genau yn rhan o Gynllun Wrth Gefn Clefydau Egsotig Cymru. Ceir ynddo fframweithiau, systemau, llinellau cyfathrebu a phrosesau penderfynu i’w defnyddio ar gyfer rheoli pob clefyd egsotig ac sy’n cymryd y gwersi a ddysgwyd wedi cynnal ymchwiliadau a chyhoeddi Ymchwil Hornbeam ym Mehefin 2004 i ystyriaeth.  Mae’r adran ar Glwy’r Traed a’r Genau yn disgrifio gofynion penodol ar gyfer ei reoli.

Wrth weithredu’r systemau, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi Cynllun i ategu cynllun generig DEFRA ar waith.  Mae cynllun DEFRA yn disgrifio’r fframweithiau a’r systemau sydd eu hangen pe bai’r clefyd yn ymddangos trwy Brydain a sut y byddai’r Cynulliad yn cyfrannu atynt.

Mae’r Cynllun Cymreig yn cydnabod hefyd y byddai’r Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol yn atebol i’r Cynulliad am roi mesurau ymarferol ar gyfer rheoli’r clefyd ar waith yng Nghymru.

Caiff y cynllun ei gyhoeddi yn yr ychydig fisoedd nesaf ond os ceir achos o’r clefyd yn y cyfamser, mae’r cynllun drafft yn ddigon cyfan iddo allu cael ei ddefnyddio.