Skip to content

Adroddiad ar Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt,Y Gweinidog dros Blant

Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi fy mod wedi cael yr adroddiad terfynol ar yr adolygiad diogelu plant sy’n agored i niwed. Bu i’r Prif Weinidog a minnau gomisiynu’r adolygiad ym mis Rhagfyr 2003. Bu inni wneud hynny, nid mewn ymateb i unrhyw ddigwyddiad penodol, ond yn sgîl ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod ein buddsoddiad mewn polisïau a rhaglenni plant yn cael ei gyflawni’n llawn a’n bod yn gweithredu ar yr uchelgeisiau sydd gennym ni oll ar gyfer plant yng Nghymru. Mae’n bleser gennyf ddweud bod yr adroddiad yn rhoi cryn dystiolaeth o’r cynnydd a wnaed i ddiogelu plant sy’n agored i niwed.

Cydnabyddaf yn llawn fod yr adroddiad yn cyflwyno rhai heriau mawr inni hefyd ac yr oeddem bob amser yn bwriadu iddo wneud hynny. Bydd natur bell-gyrhaeddol yr adroddiad a’r holl dystiolaeth a barn a geir ynddo yn gwobrwyo ein sylw gofalus ac mae fy nghyd-Weinidogion a’u swyddogion eisoes wedi dechrau paratoi ymateb ffurfiol gan y Llywodraeth. Fy mwriad i yw y dylid cynnal dadl arall ar argymhellion manwl yr adroddiad ac ar yr ymateb cyn diwedd y tymor hwn. Bydd y ddadl honno yn gyfle i drafod cynnwys yr adroddiad yn fanwl.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y cyfoeth o ddelfrydau, ymrwymiad, mentrau rhagorol a gwaith caled ar bob lefel y mae’r adolygiad wedi dod ar ei draws ac mae’n egluro bod gennym lawer i’w ddathlu, i’w gefnogi ac i adeiladu arno. Fel y noda’r adolygiad, mae’n bwysig bod y rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc yn cael cydnabyddiaeth briodol. Yn rhy aml, manteisir ar y cyfle i danseilio egni, creadigrwydd a brwdfrydedd gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr a rhieni yn eu gwaith gyda phlant drwy ganolbwyntio’n unig ar y digwyddiadau unigol hynny lle bydd rhywbeth wedi mynd o chwith. Gall hynny gael effaith ddifrifol ar forâl a gall beri i waith a all fod yn anodd ac yn heriol iawn weithiau ymddangos yn amhosibl bron.

Yn ogystal â chydnabod gwaith ein partneriaid wrth ddarparu gwasanaethau yn uniongyrchol i blant, cyfeirir yn arbennig at ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gyfranogiad plant a’n hymrwymiad unigryw i ddatblygu polisïau ac arferion yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn yr adroddiad. Mae llawer o fentrau penodol hefyd yn cael eu canmol gan yr adolygiad, gan gynnwys y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gwasanaethau mamolaeth, menter Plant yn Gyntaf, strategaeth troseddwyr ifanc Cymru gyfan, y cynllun gweithredu rhianta a strategaeth chwarae Cymru gyfan. Hyderaf y bydd mentrau mwy diweddar megis Dechrau’n Deg a Rhagori—codi cyrhaeddiad a safonau addysgol unigolion yng Nghymru—hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at ateb yr heriau a nodir ar ein cyfer yn yr adroddiad.

Cydnabyddwn hefyd yr angen i atgyfnerthu a rhannwn ymrwymiad y tîm adolygu i sicrhau bod yr holl waith yn y dyfodol yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael o’r hyn sy’n gweithio, er bod yn rhaid cydnabod bob amser bod llai o gytundeb ar yr hyn sy’n gweithio nag y byddem yn ei ddymuno weithiau.

Yr wyf am egluro ar y cam cynnar hwn ein bod eisoes yn ymrwymedig i weithredu ar rai o argymhellion yr adroddiad. Yn arbennig, fel rhan o’m rôl fel y Gweinidog dros blant, yr wyf wedi cymryd cyfrifoldeb, drwy is-bwyllgor y Cabinet ar blant a phobl ifanc, am wella’r modd y caiff polisïau a rhaglenni plant eu cydlynu a’u cysoni ar draws yr amrywiaeth o gyfrifoldebau gweinidogol. Yr ydym wrthi’n ymgynghori ar gynllun sydd wedi’i ddiwygio’n sylweddol ar gyfer darparu gwasanaethau eiriolaeth i blant. Yr ydym yn datblygu ymagweddau newydd tuag at gyllidebu ar gyfer plant ac yr ydym yn ymrwymedig i ddatblygu’r gweithlu plant yng Nghymru ymhellach. Bydd angen gweithredu ar rai o argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys diogelwch y rhyngrwyd a chyflwyno plant yn y cyfryngau gyda swyddogion mewn adrannau o’r Llywodraeth ledled y DU.

Wrth dderbyn yr adroddiad hwn, talaf deyrnged i waith y tîm adolygu ac yn arbennig i gadeirydd yr adolygiad, Gwenda Thomas. Mae Gwenda wedi llywio’r adolygiad hwn gyda chryn benderfyniad, doethineb a hiwmor. Mae wedi llwyddo i roi ffocws i’r hyn a oedd yn dasg hynod anodd. Bu’n gadeirydd ar dîm a oedd yn cynnwys ystod eang o fuddiannau a barn, gan gynnwys y sector gwirfoddol, buddiannau awdurdodau lleol, meysydd cyfreithiol ac academaidd ac a oedd yn cynnwys arsyllwr o Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.

Ar y cyfan, ystyriodd y tîm adolygu dros 50 o gyflwyniadau ysgrifenedig a chynhaliwyd tua 25 o sesiynau lle y rhoddwyd tystiolaeth ar lafar. Rhoddais dystiolaeth i’r tîm adolygu ar ran fy nghyd-Aelodau o’r Cabinet a gallaf eich sicrhau bod y tîm adolygu yn benderfynol iawn o graffu’n fanwl iawn ar yr holl dystiolaeth a’r wybodaeth a gyflwynwyd iddo.

Bu’r adolygiad yn fanwl iawn wrth sicrhau y rhoddir prif flaenoriaeth i leisiau plant. Pobl ifanc a roddodd deitl yr adroddiad i’r tîm adolygu, sef ‘Ein Cadw’n Ddiogel’. Wrth gydnabod pa mor ganolog yw cyfraniad plant yn y broses, mae’r tîm adolygu a Llywodraeth y Cynulliad o’r un meddylfryd.

Mae’r hawl i gyfranogi mewn penderfyniadau a wneir amdanoch chi yn hawl sylfaenol sy’n ymestyn i bawb, gan gynnwys plant. Cyfranogiad yw sylfaen democratiaeth ddeallus a sail dinasyddiaeth weithredol. At hynny, un o’r mesurau amddiffyn gorau y gallwn ei gynnig i blant yw’r cyfle i gael eu clywed. Lle y gall plant a phobl ifanc fynegi eu huchelgeisiau a chyflwyno eu profiadau i gynulleidfa a fydd yn gwrando ac yn ystyried yr hyn a ddywedant yn ofalus, gallwn fod yn hyderus y caiff y plant a’r bobl ifanc hynny eu hystyried o ddifrif, eu parchu a’u gwerthfawrogi. Lle y caiff plant eu hystyried o ddifrif, eu parchu a’u gwerthfawrogi, gallwn fod yn fwy hyderus y byddant yn ddiogel.

Yr wyf yn ddiolchgar i Gwenda a’i thîm am atgyfnerthu’r neges honno ac am gyflwyno cyfres o gynigion mor gynhwysfawr a heriol inni er mwyn helpu i weithredu ar yr agenda hanfodol hon.