Skip to content

Ganllawiau ar Leoliadau Hygyrch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog gyda cyfrifoldeb am cyfle cyfartal

Ar ryw bwynt yn ein bywydau, mae pawb ohonom yn wynebu rhwystrau sy’n ein hatal rhag cyflawni ein potensial ac, nid oes angen dweud, mae’r rhwystrau hyn yn fwy i rai pobl nag eraill. O dan adran 120 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddyletswydd statudol unigryw i hyrwyddo cyfle cyfartal ym mhob agwedd o fywyd Cymru, heb ystyried oed, anabledd, rhyw, iaith, hil, crefydd a chred neu dueddfryd rhywiol person.

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae cyflwyno Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 wedi gwella bywydau pobl anabl ledled y DU. Mae wedi gweithio i roi terfyn ar y gwahaniaethu yr oedd pobl anabl yn ei wynebu ac i gynnig amddiffyniad ym meysydd cyflogaeth, addysg, mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, a rheoli, prynu neu rentu eiddo. Yr oedd cyflwyno Rhan 3 o’r Ddeddf ar 1 Hydref 2004 yn rhoi gofyniad cyfreithiol ar ddarparwyr gwasanaethau i wneud addasiadau rhesymol i nodweddion ffisegol eu heiddo er mwyn goresgyn rhwystrau corfforol rhag mynediad.

I adeiladu ar hyn, mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 wedi ei bwriadu i roi hawliau sifil i bobl anabl mewn cyflogaeth ac mewn cymdeithas yn ehangach. Mae’n cyflwyno dyletswydd gyffredinol ar y sector cyhoeddus i hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl ac mae’n rhoi dyletswydd benodol ar rai cyrff cyhoeddus, yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i gynhyrchu cynllun cydraddoldeb i bobl anabl erbyn mis Rhagfyr 2006, yn nodi sut mae’n bwriadu hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod, er mwyn i bobl anabl gymryd rhan mewn cymdeithas, fod angen mynediad cyfartal arnynt at nwyddau, gwasanaethau ac eiddo. Mae newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth anabledd, yn ehangu hawliau mynediad, wedi cynyddu disgwyliadau pobl anabl, yn briodol, o’r lefel o wasanaeth y dylent ddisgwyl ei chael erbyn hyn pan fyddant yn mynd i gyfarfodydd a digwyddiadau ar raddfa fawr.

Ym mis Tachwedd 2004, argymhellodd Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol y dylid sefydlu gweithgor i ystyried cynyddu’r nifer o leoliadau hygyrch yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2005, sefydlais weithgor y rhaglen lleoliadau hygyrch i Gymru. Yr wyf yn falch o ddweud inni allu defnyddio profiad ac arbenigedd cynrychiolwyr o’r Comisiwn Hawliau Anabledd, Anabledd Cymru, Partneriaeth Fynediad JMU a Chyngor Cymru i’r Deillion, sydd i gyd wedi rhoi eu hamser i helpu i symud hyn yn ei flaen.

Nod y prosiect y buont yn gweithio arno yw hyrwyddo arferion da ymysg sefydliadau sy’n trefnu digwyddiadau cyhoeddus. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd ac yn gweithredu fel esiampl i sicrhau, lle bynnag y mae hynny’n bosibl, ein bod yn defnyddio lleoliadau hygyrch ar gyfer pob cyfarfod a digwyddiad cyhoeddus. Mae hynny’n golygu ein bod am ddefnyddio lleoliadau sydd nid yn unig yn hygyrch, ond sy’n grymuso pobl anabl, gan roi iddynt synnwyr o annibyniaeth a chyflawniad. Er enghraifft, mae adeilad a ddyluniwyd i ganiatáu i bobl abl o gorff a phobl anabl ddefnyddio’r un fynedfa yn llawer mwy deniadol a derbyniol i berson anabl. Mae aelodau’r grwp wedi mabwysiadu’r meddylfryd hwn drwy eu gwaith yn datblygu’r canllawiau ar ei hyd. Mae eu gwaith, felly, wedi ei fwriadu i adeiladu ar y ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd ac yn y pen draw i gynyddu’r nifer o leoliadau hygyrch yng Nghymru.

Fel rhan o’r broses hon, yr wyf yn falch o gyhoeddi ein bod wedi datblygu canllawiau arferion da ar leoliadau hygyrch a fydd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad heddiw. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 4 Ebrill a 13 Mehefin 2006. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn ceisio canfod barn cymaint ag sy’n bosibl o bobl y mae a wnelo hyn â hwy o drawstoriad eang o’r gymdeithas, gan gynnwys cyrff sector gwirfoddol sy’n ymwneud ag anabledd, pwyllgorau pwnc Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cyrff cyhoeddus eraill a mentrau preifat. Defnyddir eu hadborth er mwyn gwella’r canllawiau ac er mwyn sicrhau eu bod mor effeithiol ag sy’n bosibl.

Dylai’r canllawiau gael eu defnyddio gan ddarparwyr lleoliadau fel dull o asesu beth yw’r ffordd orau o ddiwallu anghenion pobl anabl a darparu gwasanaeth sy’n mynd ymhellach na’r gofynion cyfreithiol sylfaenol cyfredol a nodir yn Rhan M y rheoliadau adeiladu. Mae’r canllawiau’n cynnwys nifer o nodweddion pwysig, fel system raddio sylfaenol, da a gorau ar gyfer arferion i roi gwybod i ddarparwyr lleoliadau pa gamau y mae angen iddynt eu cymryd er mwyn cynnig patrwm o wasanaeth i bobl anabl. Mae hefyd yn cynnwys dolenni cyswllt i wefannau sy’n cynnwys deunydd mwy technegol, yn enwedig mewn perthynas â rheoliadau adeiladu Rhan M.

Fel y nodir yn y canllawiau, yn 2002, mabwysiadodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y model cymdeithasol o anabledd fel sylfaen ar gyfer ei holl waith ar anabledd. Mae’r model yn nodi’r problemau a wynebir gan bobl anabl yn eu cyd-destun cymdeithasol. Mae’n awgrymu nad pobl anabl sy’n broblem, oherwydd eu bod yn wahanol, ond mai methiant y gymdeithas i ddarparu ar gyfer y gwahaniaeth hwnnw sy’n achosi’r gwahaniaethu. Bydd y canllawiau hyn yn cyfrannu tuag at weledigaeth Llywodraeth y Cynulliad o greu cymdeithas fwy cynhwysol yng Nghymru. Byddaf yn lansio’r canllawiau yn ffurfiol ym mis Gorffennaf eleni mewn dau ddigwyddiad, y naill yn y De a’r llall yn y Gogledd.