Jane Davidson, Y Gweinidog Dros Addysg, Dysgu Gydol Oesa Sgiliau
Ffitrwydd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm ar 29 Mehefin 2006. Mae'r adroddiad hwn, a luniwyd gan y Gweithgor Bwyd mewn Ysgolion, yn amlinellu canlyniad eu hadolygiad o brydau bwyd mewn ysgolion a'u cynigion ynghylch sut y gallwn barhau i fwrw ati yng Nghymru â'n gwaith i wella bwyd a maeth yn yr ysgol gyfan.
Mae'r adroddiad hwn yn torri tir newydd. Nid yn unig y mae'n cynnig cyflwyno safonau llymach ar gyfer ciniawau ysgol, ond mae hefyd yn cynnig pennu safonau gofynnol newydd ar gyfer yr holl fwyd a diod sydd ar gael drwy gydol y diwrnod ysgol. Mae'r cynigion hyn yn rhai hirddisgwyliedig, ac rwy'n eu croesawu'n gynnes iawn.
Rydym oll yn cydnabod bod deiet cytbwys a iach yn bwysig, nid yn unig i iechyd ein plant a'n pobl ifanc, ond hefyd i'w gallu i berfformio yn yr ysgol. Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn awgrymu bod disgyblion sy'n bwyta prydau cytbwys a iach ac sy'n gallu cael gafael ar ddŵr yfed yn medru canolbwyntio a thalu sylw yn well. Maent yn llai tebygol o fod yn orfywiog ac yn fwy tebygol o fod yn dawel a sylwgar yn yr ystafell ddosbarth. Dyma newyddion ardderchog i'n plant ac i ni fel gwlad yn y dyfodol.
Felly, mae'n hanfodol ein bod yn darparu'r bwyd mwyaf maethlon posib yn ein ysgolion yng Nghymru, law yn llaw ag ethos sy'n atgyfnerthu'r angen i fyw bywydau iach.
Rhaid gwneud hyn o'r cychwyn cyntaf. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar yn natblygiad personol a chymdeithasol plentyn a'i agwedd at ddysgu yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae'r ysgogiadau y mae plentyn yn eu derbyn yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn yn gallu effeithio ar allu a photensial yr unigolyn hwnnw drwy gydol ei oes. Rhaid i ni roi dechrau teg i bob plentyn - a rhaid i ni ddangos ein hymrwymiad i helpu rhieni i alluogi hyn i ddigwydd. Mae'r Cynllun Gweithredu Rhianta, a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2005, yn nodi yr hyn y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn cael mwy o wybodaeth a mwy o gymorth. Rydym ni oll yn gwybod bod plant difreintiedig yn tyfu'n oedolion difreintiedig. Rhaid inni dorri'r cylch dieflig hwn drwy sicrhau ein bod yn datblygu polisïau a rhaglenni cydgysylltiedig sy'n caniatáu i hyn ddigwydd. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod mai'r ymyriaethau mwyaf effeithiol yw'r rheini sy'n mynd i'r afael â'r holl ffactorau sy'n effeithio ar y plentyn. Mae angen inni ddarparu amgylchedd lle y gall plant a phobl ifanc ddysgu a datblygu'r sgiliau hanfodol a fydd yn ddefnyddiol iddynt gydol eu hoes. Mae hyn yn cynnwys sgiliau coginio ymarferol, ynghyd â dealltwriaeth o faeth, bwyta'n iach a diogelwch bwyd.
Ni ddylid edrych ar Blas am Oes ar ei ben ei hun. Dyna pam y defnyddiwyd y gynhadledd ar 29 Mehefin i lansio'r adroddiad hwn ar y cyd â'r Cynllun Gweithredu Bwyd a Ffitrwydd.
Un datblygiad hynod o gyffrous sy'n gysylltiedig â'r cynllun gweithredu Bwyd a Ffitrwydd yw'r Bws Coginio. Ystafell ddosbarth coginio ar olwynion yw y Bws Coginio Byd y Bwyd. Bydd yn canolbwyntio ar ymweld ag ysgolion cynradd mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf sy'n aelodau o Rwydwaith Cymru o Gynlluniau Ysgolion Iach a sydd eisoes yn cynnal mentrau bwyta'n iach ac ymarfer corff. Bydd un sesiwn yn ystod pob ymweliad yn canolbwyntio ar helpu rhieni plant ifanc i ddatblygu eu sgiliau coginio; bydd un arall yn canolbwyntio ar hyfforddi athrawon i ddysgu sgiliau coginio i'w disgyblion.
Un conglfaen o agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i'r afael â iechyd a maeth yn yr ysgol gyfan yw ein menter brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd. Brecwast yw pryd pwysicaf y dydd, ac mae'n rhoi cychwyn da i blant. Mae dros draean o'n hysgolion cynradd eisoes wedi cytuno i gymryd rhan yn y fenter. Mae'r nifer hwn yn parhau i gynyddu wrth i fwy a mwy o ysgolion glywed am y manteision o ran iechyd ac addysg a ddaw yn ei sgil. Mae angen inni adeiladu ar y fenter hon a mentrau eraill sy'n ceisio gwella iechyd a maeth drwy annog disgyblion i fwyta'n iachach yn ein hysgolion. Mae llawer o waith eisoes wedi ei gyflawni, ac yn dal i gael ei gyflawni, i ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan at fwyd a maeth, ac mae Blas am Oes yn cydnabod hyn.
Er enghraifft, roeddem ar flaen y gad yn y DU yn cyhoeddi canllawiau ar ddarparu siopau ffrwythau, peiriannau gwerthu bwyd iach a ffynhonnau dŵr mewn ysgolion.
Fodd bynnag, lle bynnag y mae ceir arferion da, mae angen i ni sicrhau bod gennym systemau a safonau effeithiol er mwyn sylwi arnynt, eu rhannu a'u hailadrodd. Mae angen cydweithio, yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, i gyflawni'r agenda uchelgeisiol a chyffrous hon.
Yn dilyn ymgyrch Jamie Oliver y llynedd, cafwyd adroddiadau negyddol yn y wasg am brydau ysgol. Arweiniodd hyn i'r cyhoedd yn gyffredinol feddwl bod llawer o'r bwyd sy'n cael ei ddarparu mewn ysgolion wedi'i brosesu yn hytrach na'i baratoi yn ffres. Rydym yn gwybod bod hyn ymhell o fod yn wir. Mae llawer o awdurdodau lleol ac ysgolion yng Nghymru eisoes yn cynnig bwyd mwy iach yn yr ysgol ac yn mabwysiadu dulliau effeithiol o annog disgyblion i wneud dewisiadau mwy iach. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd datblygu strategaeth farchnata a chyfathrebu effeithiol fel rhan o unrhyw gamau cydgysylltiedig i wella rhagor ar ansawdd a maeth prydau ysgol.
Gyda phryder yn cynyddu ynghylch lefelau uchel o ordewdra a sut y mae hyn yn effeithio ar ein hiechyd, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod y bwyd sy'n cael ei ddarparu i'n plant a'n pobl ifanc yn ystod y diwrnod ysgol yn iach ac yn faethlon. Yn ddiau, mae deiet plant yn chwarae rhan allweddol yn eu twf a'u datblygiad, eu lles nawr ac yn y dyfodol, eu perfformiad addysgol a'u cyfle i osgoi clefydau cronig drwy gydol eu hoes.
Er ei fod yn bwysig, dim ond rhan o ddeiet ein plant a'n pobl ifanc yw'r bwyd y maent yn ei dderbyn yn yr ysgol. Mae angen i ni anfon negeseuon clir a chyson ynghylch yr hyn ydyw deiet iach, nid yn unig yn yr ysgol ond hefyd yn y cartref ac yn y gymuned yn ehangach. Ni ddylem fyth danbrisio pwysigrwydd dylanwadau y tu allan i'r ysgol - yn enwedig pwysau o du cyfoedion a theulu - a'r angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru fynd i'r afael â'r mater ehangach hwn.
Mae angen inni ddeall a chydnabod y bydd awdurdodau lleol ac ysgolion oll ar gamau gwahanol yn y broses o gyflwyno a bwrw ati ag agenda arfaethedig Blas am Oes, ac y bydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn wynebu heriau gwahanol.
Mae Blas am Oes yn cydnabod bod yr amgylchedd ffisegol - yn y gegin a'r ffreutur - yn ystyriaeth bwysig wrth fabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan. Mae llawer o awdurdodau lleol eisoes yn cymryd camau i wella eu gwasanaeth prydau ysgol ac maent yn buddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi ar gyfer eu staff arlwyo. Er mwyn gweithredu ar yr adroddiad hwn yn effeithiol, bydd yn allweddol bod y sgiliau a'r offer angenrheidiol ar gael i hyrwyddo a chefnogi'r gwaith o gyflwyno'r safonau bwyd a maeth arfaethedig newydd. I gynorthwyo'r gwaith o gyflwyno'r safonau newydd, mae'r Gweithgor yn cynnig y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru brynu meddalwedd i ddadansoddi prydau, a fydd ar gael ledled Cymru. Mae hwn yn gynnig rhagorol ac yn un y byddaf yn ei gefnogi'n gryf.
Ar ei ben ei hun, nid yw'n ddigon gwella ansawdd a maeth y bwyd sydd ar gael mewn ysgolion. Rhaid i ni weithio gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau eu bod yn bwyta'r opsiynau iachach hyn.
Mewn ardaloedd difreintiedig lle mae'r rhan fwyaf o'r prydau sy'n cael eu gweini am ddim, y rhain sy'n gosod y safon ar gyfer y gwasanaeth i gyd. Mae nifer sylweddol o blant yn dal i fethu â manteisio ar eu hawl i gael prydau ysgol am ddim. Rwy'n croesawu cynigion y Gweithgor am fesurau, megis ymgyrchoedd marchnata a systemau lle na ddefnyddir arian parod, i geisio sicrhau bod pawb sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn gwneud hynny.
Os ydym i lwyddo i gyflwyno newidiadau i'r ddarpariaeth bwyd yn ein hysgolion, rhaid inni gynnwys yr holl randdeiliaid yn y broses honno. Fel oedolion, mae plant a phobl ifanc yn ymateb orau i newid pan yr ymgynghorir â hwy a phan y mae eu barn yn cael ei ystyried. Rwy'n falch bod y Gweithgor yn cydnabod y bydd gan gynghorau ysgol rôl allweddol i'w chwarae yn y gwaith o fwrw ati â'r agenda hon.
Mae hefyd yn bwysig bod y broses o gaffael bwyd ar gyfer y sector cyhoeddus yn taro deuddeg, a bod y rhanddeiliaid allweddol yn cydweithio i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae CLILC wedi dwyn ynghyd grŵp bychan o awdurdodau lleol er mwyn archwilio'r arferion gorau ym maes darparu prydau ysgol. I ategu'r gwaith hwn, mae CLlLC hefyd wedi comisiynu yr Athro Kevin Morgan a Dr. Adrian Morley i lunio adroddiad o'r enw Sustainable Procurement: from good intentions to good practice. Mae'n hanfodol cydweithredu'n effeithiol â rhanddeiliaid allweddol. Mae angen inni annog pobl i feddwl yn greadigol ac arloesol wrth gyflenwi bwyd i ysgolion. Mae astudiaethau achos Cnoi Cil yn tynnu sylw at ddulliau o'r fath.
Mae angen i ni fod yn glir ar y mater hwn - nid gwario mwy sydd ei angen ond gwario'n well. Gellid sicrhau arbedion effeithlonrwydd drwy sefydlu gwell trefniadau caffael a thrwy wneud defnydd mwy effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael eisoes.
Nid yn unig y mae Blas am Oes yn cynnig y newidiadau y dylid eu gwneud i fwyd yn ein hysgolion, ond hefyd sut y dylem gyflwyno'r newidiadau hynny, eu monitro a'u gwerthuso.
Os ydym yn mynd i fod yn llwyddiannus yn trawsnewid y ddarpariaeth bwyd yn ein hysgolion, mae angen dull cydgysylltiedig o weithio rhwng ysgolion, awdurdodau lleol, arlwywyr, Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r gwasanaethau iechyd. Rwy'n gryf o blaid cynnig y Gweithgor ein bod ni yn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dal ati i ddarparu'r cyfeiriad strategol, ond ein bod hefyd yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i benodi cyd-drefnydd i gynorthwyo â'r gwaith ymarferol o gyflawni Blas am Oes yn lleol. Mae trafodaethau cychwynnol eisoes wedi'u cynnal rhwng fy swyddogion i a swyddogion CLlLC ynghylch sut y gelllid bwrw ati â chynnig o'r fath.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'n hanfodol bod gennym systemau er mwyn ein galluogi ni i wneud hynny. Mae'r Gweithgor wedi pwysleisio'r angen i sefydlu system gwybodaeth reoli genedlaethol ar gyfer bwyd ysgol, er mwyn darparu data gwaelodlin cyson y gellir ei gymharu â'i gilydd. Hefyd, mae angen gwerthuso'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu'n lleol ac yn genedlaethol er mwyn asesu effaith gyffredinol y safonau. Mae hwn yn faes y byddaf yn ei astudio'n fanwl er mwyn gwneud yn siwr ein bod yn sicrhau gwelliannau go iawn yn y ddarpariaeth bwyd yn ein hsgolion, drwy ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi'r disgybl yn flaenaf ac sy'n wir yn fanteisiol i'n plant a'n pobl ifanc.
Ar hyn o bryd, dim ond caniatáu inni bennu safonau ar gyfer ciniawau ysgol y mae'r ddeddfwriaeth. Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y pŵer i wahardd bwydydd penodol, er enghraifft. Serch hynny, erbyn yr hydref dylai'r Mesur Addysg ac Arolygiadau, sydd ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yn San Steffan, roi'r holl bwerau sydd eu hangen arnom i fwrw ati â phob un o'r cynigion yn Blas am Oes. Daw'r cyfnod ymgynghori ar gyfer Blas am Oes i ben ar 31 Hydref. Mae hyn yn cyd-daro â'r adeg y daw'r ddeddfwriaeth newydd i rym.
O ran yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r newidiadau sydd wedi'u hamlinellu yn Blas am Oes erbyn mis Medi 2008, rhaid i ysgolion fodloni'r holl safonau bwyd ar gyfer ciniawau ysgol a'r cynigion ar gyfer bwydydd a diodydd eraill - er enghraifft y bwyd sy'n cael ei werthu drwy beiriannau. Yn ogystal, bydd safonau newydd ar gyfer maeth mewn prydau bwyd yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2008, i'w ddilyn gan gyfnod gweithredu o flwyddyn mewn ysgolion cynradd a dwy flynedd mewn ysgolion uwchradd.
Rhaid i'r holl fwyd a diod sy'n cael ei ddarparu yn ein hysgolion - drwy beiriannau, siopau a gwasanaethau ffreutur - fod yn iach a maethlon. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisiau darparu'r gorau i'n plant a'n pobl ifanc, a dyna pam ei bod yn hanfodol inni ddal ati i weithio mewn partneriaeth â'r holl randdeiliaid i ddatblygu a chyflwyno ymagwedd ysgol gyfan tuag at fwyd a maeth.