Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Rhan 2 yr Adolygiad Polisi Anghenion Addysgol Arbennig
Diolchaf i’r pwyllgor am ymgymryd â’r adolygiad hwn o anghenion addysgol arbennig ac am gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr ar y fframwaith asesu statudol. Croesawaf yr adroddiad hwn ac, fel y nodwch, yr wyf, ar y cyfan, yn derbyn y rhan fwyaf o’i argymhellion. Mae’n bleser gennyf hefyd eich hysbysu ein bod eisoes yn mynd i’r afael â llawer o’r argymhellion.
Mae tystiolaeth yr adolygiad hwn wedi darparu’r sail imi ddatblygu gwaith pellach ar newidiadau i’r fframwaith asesu statudol presennol, i sicrhau y diwellir anghenion pob plentyn a pherson ifanc ag anghenion addysgol arbennig. Cydnabyddaf, er inni weld gwelliannau dros y 30 mlynedd diwethaf o ran y modd yr ydym yn adnabod, asesu ac yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc unigol ag AAA, mae angen adolygiad pellach o’r fframwaith asesu statudol presennol.
Byddai tystiolaeth a dderbyniwyd fel rhan o’r adolygiad hwn yn awgrymu bod y system bresennol bellach yn rhy gostus, biwrocrataidd ac anhylaw a’i bod yn anodd i rieni sicrhau’r lefelau priodol o ddarpariaeth a chymorth i’w plant. I’r gwrthwyneb, ac yn baradocsaidd, mae’r dystiolaeth gan rieni yn awgrymu eu bod yn parhau i ddibynnu ar ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig i sicrhau’r ddarpariaeth hon, ac, felly, dymunent am iddynt barhau.
Mae un o’r materion sylfaenol a godir yn yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar yr angen am ymagwedd bartneriaeth rhwng yr holl bobl dan sylw—awdurdodau addysg lleol, ysgolion, rhieni, disgyblion, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill—wrth ddiwallu anghenion plant ag AAA. Yn aml, bydd cydberthnasau’n chwalu os na fydd yr asiantaethau statudol yn mabwysiadu ymagwedd gydgysylltiedig. Polisïau ac arferion croes yw’r prif rwystrau i’r ymagwedd gydgysylltiedig hon yn aml, ac oherwydd hynny, dibynnir ar ddatganiadau i sicrhau darpariaeth.
Byddai’r modd y darperir gwasanaethau lleferydd ac iaith yn enghraifft o hyn. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, yn 2005, rhoddais £3 miliwn er mwyn datblygu prosiectau peilot i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae’n ofynnol i’r prosiectau ddatblygu gwasanaethau a gomisiynir ar y cyd, a ddarperir gan dimau integredig o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac addysg. Rhagwelir y caiff materion sy’n ymwneud â chyfrifoldeb pennaf a chyfrifoldeb yn y pen draw eu dileu yn raddol drwy brosiectau fel y rhain, a thrwy sefydlu partneriaethau fframwaith plant a phobl ifanc lleol.
Y llynedd, bu inni hefyd gyhoeddi’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer plant, pobl ifanc a gwasanaethau mamolaeth. Mae hwn yn rhoi templed i asiantaethau statudol ar gyfer darparu gwasanaethau’n well i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Er mwyn mynd i’r afael ag anghysondebau yn y fframwaith asesu statudol, ac fel rhan o’r gwaith o ddatblygu polisi cynhwysiant a fframwaith perfformiad i Gymru, y llynedd, gofynnais i’m grwp cynghori ar gyfer anghenion addysgol arbennig—WAGSEN—gynnal adolygiad o’r broses asesu statudol.
Sefydlwyd is-grwp o WAGSEN, a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor ar hynt y grwp, gan amlinellu nifer o opsiynau a ystyrir ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae ei adroddiad yn rhoi cyngor ymarferol ar y goblygiadau o ran diwygio i’r system bresennol, ac ystyriaethau cynnar y grwp ar newidiadau arfaethedig. Argymhella’r pwyllgor y dylid cynnal ymgynghoriad pellach â rhieni a rhanddeiliaid allweddol ar yr opsiynau hyn. Mewn ymateb, yr wyf wedi gofyn i’m swyddogion gynnal ymgynghoriad ar yr opsiynau ar gyfer newid gyda’r holl bartïon â diddordeb yn ystod y misoedd nesaf. Byddaf wedyn yn penderfynu pa newidiadau deddfwriaethol, os o gwbl, y bydd angen eu gwneud i’r system bresennol.
Wrth ystyried unrhyw newidiadau yn y dyfodol, bydd yn bwysig sicrhau bod anghenion plant wrth wraidd y ddadl. Rhaid diogelu eu hanghenion, a byddaf am gael sicrwydd y caiff eu buddiannau eu diogelu yn anad dim, waeth pa newidiadau a argymhellir.
Argymhella’r pwyllgor fod angen newid y derminoleg drwy roi’r gorau i ddefnyddio’r term ‘anghenion addysgol arbennig’ a defnyddio’r term ‘anghenion addysgol ychwanegol’ yn ei le. Mae canllawiau a gaiff eu cyhoeddi yn ystod tymor yr hydref— ‘Cynhwysiant a Chymorth i Ddisgyblion’—wedi mabwysiadu’r term ‘anghenion dysgu ychwanegol’ i gwmpasu ystod amrywiol o anghenion dysgwyr. Yn dilyn ymgynghoriad â rhieni a rhanddeiliaid allweddol eraill, byddaf yn ystyried ceisio pwerau fframwaith i ddiwygio’r derminoleg bresennol ar gyfer anghenion addysgol arbennig, a chyhoeddi canllawiau diwygiedig. Tan hynny, bydd angen cadw’r term ‘anghenion addysgol arbennig’ er mwyn sicrhau bod plant a rhieni yn cynnal eu hawliau statudol o dan y ddeddfwriaeth bresennol.
Yr wyf eisoes wedi rhoi amryw brosiect a ffrwd ariannu ar waith, cyn unrhyw newidiadau i’r trefniadau asesu statudol, i wella darpariaeth a gwasanaethau i blant a phobl ifanc ag AAA, er mwyn sicrhau cyfle addysgol cyfartal a diddymu rhwystrau posibl i ddysgu. Er mwyn cydnabod y ffaith bod angen darparu amrywiaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc â nifer fach o anghenion a’r rhai ag anghenion cymhleth, ystyriwyd darpariaethau ar gyfer Cymru yn unig yn Neddf Addysg 2002 ar gyfer darparu nwyddau a gwasanaethau AAA rhanbarthol. Hyd yma, dyrannwyd bron £6 miliwn i awdurdodau ledled Cymru i gyflawni ymagwedd gydweithredol ac i ddatblygu cyfleusterau a gwasanaethau o safon yn rhanbarthol. Un enghraifft o hyn yw’r gwaith o ddatblygu Ysgol Plas Brondyffryn yn y gogledd fel canolfan ragoriaeth i ddisgyblion ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig.
Yr oedd hefyd yn bleser gennyf gyhoeddi, yn gynharach eleni, grant o £5.1 miliwn i awdurdodau lleol ddatblygu rôl ysgolion arbennig sy’n gweithio gydag ysgolion prif ffrwd, a’u galluogi i rannu arbenigedd a gwybodaeth werthfawr wrth ddiwallu anghenion disgyblion. Eir i’r afael â hyn fel un o argymhellion penodol yr adolygiad hwn. Ar ôl cyhoeddi ymateb Llywodraeth y Cynulliad i ‘Cydnabod Angen’—adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar wasanaethau AAA drwy gyfrwng y Gymraeg—yr wyf wedi addo darparu £90,000 i Brifysgol Cymru, Bangor i ddatblygu deunydd asesu diagnostig drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n un o argymhellion pellach yr adroddiad hwn. Sefydlwyd grwp cyfeirio allanol gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ymgymryd â’r gwaith hwn.
Sicrhaf Aelodau fod cynhwysiant cymdeithasol yn dal i fod wrth wraidd ein holl bolisïau. Bydd sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaethau gorau posibl i blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig yn parhau i fod yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth y Cynulliad.