Skip to content

Gwasanaeth Ocsigen Cartref

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rwyf wedi trafod y materion sydd wedi codi yn sgil cyflwyno'r gwasanaeth ocsigen cartref newydd ar 1 Chwefror, a hynny am amser hir, mewn pwyllgorau ac mewn mannau eraill. Mae'r papur hwn yn rhoi manylion y cynnydd a'r camau a gymerwyd tuag at gwblhau cynllun adfer yn llwyddiannus. Rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar i'r fferyllwyr sydd wedi darparu gwasanaeth wrth gefn i gleifion ers hynny.

Dyma amcanion strategol y cynllun:

- cyflawni amserau ymateb y contract;
-  cyflenwad amserol i gleifion newydd;
- gweithio drwy'r gorchmynion dilys erbyn 31 Mai - cyflawnwyd hyn i raddau helaeth erbyn hyn;  
- tynnu fferyllfeydd allan o'r trefniant mewn ffordd drefnus erbyn 31 Gorffennaf.

Mae swyddogion wedi cynnal cyfarfodydd rheolaidd gydag Air Products a'r Adran Iechyd ar hyd yr amser.  Maent hefyd wedi cymryd rhan mewn dwy gyfres o gyfarfodydd rhanbarthol gyda Byrddau Iechyd Lleol i drafod egwyddorion y cynllun; a bydd cyfres arall yn cael ei chynnal ddechrau Mehefin i gwblhau'r trefniadau yn derfynol.

Mae Byrddau Iechyd Lleol wedi llunio data ar fferyllfeydd sy'n cyflenwi cleifion penodol. Yn gynnar y mis hwn, byddant hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect i ddilysu data HOOF gyda data am feddygon teulu.  Dylai hwn nodi cyfanswm nifer y cleifion ocsigen; gan gynnwys y sawl y mae'r cwmni eisoes yn eu cyflenwi; y sawl a gyflenwir gan y cwmni a fferyllfeydd cymunedol; a defnyddwyr ysbeidiol nad ydynt eto wedi gwneud cais am gyflenwadau newydd.  

Bydd y cwmni wedyn yn rhoi rhaglen raddol ar waith i ddarparu cyflenwad cyflawn i'w prif gleifion sydd hefyd yn derbyn sylindrau o fferyllfeydd cymunedol a chytuno ar ddyddiadau cyflenwi priodol gyda defnyddwyr ysbeidiol, gan ei gwneud yn haws hepgor fferyllfeydd cymunedol o'r trefniant.

Mae Air Products wedi sefydlu uned benodol sydd wedi'i neilltuo i fireinio data a fydd yn sicrhau bod yr HOOFs yn gywir ym mhob ffordd, fel y bydd gwybodaeth yn fwy dibynadwy, ac y bydd manylion cleifion yn ddibynadwy.

Mae data o Air Products yn nodi eu bod, o 15 Mai, yn darparu >90% o therapïau ocsigen yr oeddent yn gwybod eu bod yn ofynnol ar gyfer tua 5100 o gleifion ledled Cymru.

Ar hyn o bryd, mae'r darlun ar draws Byrddau Iechyd Lleol yn amrywio'n sylweddol. Yn Sir y Fflint mae 90% o'r cleifion yn defnyddio Air Products, ond dim ond 71% sy'n gwneud hynny ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Yn sicr, lle mae Byrddau Iechyd Lleol yn gwirio eu cronfa ddata cleifion ac yn hyrwyddo'r broses, mae'r cymhathu'n digwydd yn gyflymach.

Mae fy swyddogion yn parhau â'u trafodaethau i gomisiynu gwerthusiad annibynnol o'r 3 mis cyntaf i nodi gwendidau a datblygu gweithdrefnau priodol i ata