Skip to content

Uno’r Heddluoedd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio

Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei bod yn bwriadu gweithredu ar yr adroddiad gan Arolygiaeth Heddlu Ei Mawrhydi, sef ‘Cau’r Bwlch’, cyn uno’r pedwar heddlu yng Nghymru, yr wyf wedi rhoi adroddiadau rheolaidd i’r Cynulliad ar ffurf datganiadau ysgrifenedig a llafar.

Bydd Aelodau’n gwybod yn sgîl fy natganiad ysgrifenedig ar 11 Mai fy mod wedi siarad â Liam Byrne yn fuan ar ôl ei benodiad i’r Swyddfa Gartref i sicrhau ei fod yn ymwybodol o’r materion yng nghyswllt ad-drefnu’r heddlu yng Nghymru. Diau y byddwch yn gwybod bod newidiadau pellach wedi eu gwneud i staff gweinidogol y Swyddfa Gartref bythefnos yn ddiweddarach, ac mai Tony McNulty bellach yw’r Gweinidog yn y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am faterion heddlu. Felly, cefais air â Tony McNulty yn fuan ar ôl ei benodi, ac, o ganlyniad i’r drafodaeth honno, cytunodd i gael cyfarfod yn fuan i glywed yn uniongyrchol beth yw ein pryderon am broses ad-drefnu’r heddlu yng Nghymru. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ddydd Iau diwethaf yn y Swyddfa Gartref, ac roedd prif gwnstabliaid pedwar heddlu Cymru yno.

Gwrandawodd Tony McNulty’n ofalus ar y pwyntiau a wnaed gennyf i a’r prif gwnstabliaid. Lleisiais anfodlonrwydd Llywodraeth y Cynulliad, a hefyd gadeiryddion awdurdodau’r heddlu yng Nghymru, gyda’r modd y deliwyd â’r broses hon hyd yma. Pwysleisiais eto ba mor bwysig yw datrys y materion ariannol ar fyrder, o ran y costau sefydlu cychwynnol a’r praeseptau treth gyngor. Atgoffais y Gweinidog ein bod yn bendant o’r farn, a’r Cynulliad cyfan hefyd, na ddylai costau’r ad-drefnu ddisgyn ar gyllideb y Cynulliad, nac ychwaith ar drethdalwyr cyngor Cymru, ond mai’r Swyddfa Gartref a ddylai dalu amdano. Yn olaf, pwysais arno drachefn i ailystyried yr amserlen.
Achubodd y prif gwnstabliaid ar y cyfle i fynegi eu rhwystredigaeth gyda’r broses hyd yma, a thynnwyd sylw’r Gweinidog at yr ohebiaeth a anfonwyd at y Swyddfa Gartref sydd heb ei hateb, sy’n nodi eu pryderon yn fwy manwl.

Dywedodd y Gweinidog ei fod yn ymrwymedig i ymgysylltu’n bersonol â’r broses o hyn ymlaen, a dywedodd ei fod yn cydnabod bod angen i’r materion ariannol a llywodraethu a’r amserlen gael eu datrys yn foddhaol. Fel cyn aelod awdurdod lleol, mae’n amlwg yn deall beth yw’r cymhlethdodau yng nghyswllt cyllido’r heddlu, a’r materion praesept, a bydd ei wybodaeth am y maes hwn yn gymorth i ddatrys y materion hyn.

Mae’n ddealladwy na allai’r Gweinidog ddatrys unrhyw faterion penodol yn y cyfarfod, ond cyfeiriodd at y sylwadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cartref newydd yng nghynhadledd Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu yn ddiweddar. Yn y gynhadledd, soniodd John Reid ei fod am gymryd amser i ystyried y materion yng nghyswllt y broses ad-drefnu yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys yr amserlen bresennol. Fodd bynnag, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref yn glir ei fod yn cytuno ag Arolygiaeth Heddlu Ei Mawrhydi bod angen ad-drefnu. Gwn eich bod yn rhannu’r rhwystredigaeth bod materion allweddol yn dal i fod heb eu datrys, a chyda’r modd y deliwyd â’r broses hyd yma. Fodd bynnag, mae angen inni roi amser i’r Ysgrifennydd Cartref newydd ac i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am yr heddlu gael eu gwynt atynt er mwyn pwyso a mesur y sefyllfa a phenderfynu sut i fwrw ymlaen. Yn sicr, mae’r prif gwnstabliaid wedi croesawu ymrwymiad personol Mr McNulty i ymwneud yn agos â’r broses, a gobeithio bod cyfarfod yr wythnos ddiwethaf yn argoeli ar gyfer perthynas fwy adeiladol â’r Swyddfa Gartref ar y mater hwn yn y dyfodol. Un arwydd amlwg o’r ymwneud personol agosach hwnnw yw bod Tony McNulty wedi cytuno i ddod i Gymru i gael cyfarfod pellach gyda mi a phedwar cadeirydd awdurdodau’r heddlu yng Nghymru, a drefnwyd ar gyfer dechrau Gorffennaf. Gwn y bydd y cadeiryddion yn croesawu’r cyfle i gyflwyno eu barn i’r Gweinidog newydd yn bersonol, ac i glywed o lygad y ffynnon beth yw’r casgliadau y bydd, gobeithio, wedi eu llunio ar rai materion erbyn hynny. Byddaf yn parhau roi gwybod ichi am unrhyw ddatblygiadau.