Skip to content

Bensiynau Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog

Y Prif Weinidog:

Yr wyf yn ddiolchgar am eich caniatâd, Lywydd, i wneud datganiad am y trefniadau pensiwn ar gyfer y cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad sy’n cael eu huno.
Yr wyf yn sylweddoli yn fwy na’r rhan fwyaf o bobl fod hwn yn gyfnod pryderus i’r staff y mae’r uno a fydd yn digwydd ar 1 Ebrill yn effeithio arnynt. Ni ddylai neb fod yn ceisio achosi dim ansicrwydd iddynt. Yn anffodus, mae rhai nad ydynt mor ystyriol ohonynt, ac sy’n creu cynnwrf dibwrpas yn y cyfryngau.


Mae’r prif bwyntiau fel a ganlyn. Sut y gall unigolion wneud yn siwr na fyddant ar eu colled â’u pensiynau o ganlyniad i’r uno? Ar ôl trosglwyddo, y bwriad yw y bydd y staff yn dal i fod yn aelodau o’u cynlluniau presennol, heb ddim newid. Cyn gynted ag y bo hynny’n bosibl o safbwynt gweinyddol, byddant yn cael datganiadau pensiwn a chyngor ariannol annibynnol a digon o amser i ystyried eu sefyllfaoedd unigol a gwneud penderfyniad gwybodus ynglyn â’r hyn y maent am ei wneud â’u pensiwn yn y dyfodol. Bydd unrhyw benderfyniadau a wneir yn cael eu dyddio yn ôl i 1 Ebrill, a gwneir unrhyw newidiadau angenrheidiol.

 
A yw’n debygol y bydd llawer o staff yn ymuno â chynllun pensiwn y gwasanaeth sifil? O ran yr awdurdod datblygu, gweinyddir ei gynllun pensiwn gan gronfa bensiwn Rhondda Cynon Taf, ac mae’n dangos diffyg sylweddol. Rhagwelwn y bydd y rhan fwyaf o’r staff yn aros gyda’u cynllun pensiwn presennol, gan na fyddai telerau arian parod cyfatebol yn ffafriol iawn. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai trosglwyddo arian parod cyfatebol yn sicrhau llai na gwasanaeth blwyddyn-am-flwyddyn. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai aelodau o’r staff, y rhai sydd â gwasanaeth byr yn eu cynllun pensiwn CCNC presennol mae’n debyg, yn dymuno trosglwyddo i gynllun y gwasanaeth sifil. Yr ydym felly’n cynnig gwahanol ddewisiadau ar gyfer y staff gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau personol, a byddwn yn eu cynorthwyo i wneud penderfyniad gwybodus drwy ddarparu cyngor ariannol annibynnol.


A fyddai’r telerau hyn ar gyfer ‘swmp-drosglwyddo’ yn addas i bawb? Gwelwyd o brofiad fod yn well gan y rhan fwyaf o’r staff gadw pethau fel y maent ac aros gyda’u cynllun presennol. Ein bwriad ni felly yw galluogi’r staff i wneud hynny, ond rhoi’r hawl hefyd iddynt drosglwyddo i gynllun y gwasanaeth sifil fel dewis arall os yw’n addas i’w hamgylchiadau unigol hwy. Beth am drosglwyddiadau blaenorol? Mae angen edrych ar bob trosglwyddiad yn unigol a’i reoli yn y ffordd orau posibl ar gyfer y staff a’r cyflogwr. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gyflogwr amrywiol ac mae ganddi eisoes rai staff sy’n aelodau o gynlluniau pensiwn ar wahân i brif gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil. Ar sail hynny, nid yw’r trefniadau arfaethedig ar gyfer pensiynau staff yr awdurdod datblygu a’r bwrdd croeso yn gosod cynsail. Byddai’r dewis arall, sef tynnu £38 miliwn o gyllidebau rheng flaen i dalu’r gost o drosglwyddo o gynllun pensiwn Rhondda Cynon Taf, yn un na ellid ei fforddio. Byddai hynny’n golygu y gallai holl staff yr awdurdod datblygu drosglwyddo i gynllun y gwasanaeth sifil â’u holl flynyddoedd o wasanaeth yn cael eu cyfrif yn llawn fel blynyddoedd blaenorol o wasanaeth, ond mae’n ddewis na ellir ei fforddio. Fel llawer o gynlluniau pensiwn yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, mae elfen yr awdurdod datblygu o gynllun pensiwn RhCT yn golygu bod angen cymryd camau dros nifer o flynyddoedd er mwyn cynnal ei sicrwydd ariannol.


Mae gan Fwrdd Croeso Cymru broblem fach gan ei fod yn aelod o gynllun Awdurdod Twristiaeth Prydain, sydd bron iawn â diffyg tybiannol o ychydig dros £100,000. Yn ychwanegol at hyn, yr ydym wedi cytuno y bydd staff yr awdurdod datblygu a’r bwrdd croeso’n cael y dewis i fod yn gymwys i ymuno â chynllun pensiwn y gwasanaeth sifil ar gyfer eu gwasanaeth yn y dyfodol yn y sefydliad unedig. Hysbyswyd y staff ynglyn â’r cymhwyster hwn mewn neges e-bost ar y cyd gan yr undebau a’r rheolwyr, dyddiedig 31 Ionawr, a anfonwyd at bob aelod o’r staff, ac yr ydym yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd gyda gweinyddwyr y cynllun pensiwn perthnasol ynglyn â pha effaith a geid ar wasanaeth blaenorol staff yr awdurdod datblygu a’r bwrdd croeso pe bai aelodau o’r staff yn dymuno ymuno â chynllun pensiwn y gwasanaeth sifil. I’r perwyl hwn, byddwn yn rhoi cyfle i’r staff gael cyngor ariannol annibynnol ynglyn â goblygiadau rhewi eu gwasanaeth blaenorol yn eu cynllun pensiwn presennol neu drosglwyddo eu gwasanaeth blaenorol i gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil dan delerau y bydd angen cytuno arnynt â gweinyddwyr y cynllun pensiwn perthnasol, a chan gymryd sylw o’r diffyg. Sicrhaf fod copi o’r hysbysiad i’r staff, dyddiedig 31 Ionawr, ar gael i bob Aelod Cynulliad. Pwysleisiaf fod staff Dysgu ac Addysgu Cymru ac Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, a fydd yn cael eu huno ar 1 Ebrill, eisoes yn aelodau o gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil ac na fydd dim effaith, yn y bôn, arnynt hwy.


Mae’r canlyniad hwn yn gwbl gyson â’r safbwynt yr ydym wedi ei ddatgan o’r blaen. Yn un o’n hysbysiadau staff cyntaf, dyddiedig 30 Gorffennaf 2004, cadarnhawyd gennym y byddai’r staff yn gallu aros gyda’u cynllun pensiwn presennol neu symud i gynllun y gwasanaeth sifil.


Bu inni gadarnhau hefyd y byddem yn trafod y cyfle i’r staff gael trosglwyddo gwasanaeth blaenorol i gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, ond gan gydnabod problem diffyg yr awdurdod datblygu. Dyna’r hyn yr ydym wedi’i wneud—ni chafwyd dim tro pedol ac yr wyf yn dirmygu ymgais gan unrhyw un i geisio creu dryswch ymhlith y staff hynny ar adeg anodd i bawb.