Skip to content

Adeilad Newydd y Cynulliad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog Cyllid

Y Gweinidog Cyllid (Sue Essex):

Gobeithiaf eich bod, fel fi, yn falch o fod yma heddiw.


Yr wyf yn falch ac wrth fy modd o fod yma heddiw, oherwydd y mae heddiw’n uchafbwynt blynyddoedd lawer o waith caled. Bu’r ffordd i’w wireddu yn hir a throellog; yn wir, bu adegau pan oedd rhywun yn teimlo efallai na wireddid y diwrnod hwn byth. Fodd bynnag, yr ydym yma bellach, a chredaf fod hwn yn gartref priodol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Fe’i gwelir fel cartref Cymru. Nid oes dwywaith nad yw’r hyn sydd wedi’i gyflawni’n ateb y dyhead am adeilad eiconaidd o ansawdd eithriadol.


Yr ydym i gyd yn ymwybodol o gyfyngiadau’r hen Siambr a’r cyfleusterau yn adeilad arall y Cynulliad, nid yn unig fel amgylchedd gweithio, ond o ran y cyfleusterau i aelodau’r cyhoedd. Mae ein cartref newydd yn darparu amgylchedd agored a chroesawgar i’r cyhoedd ymweld a phrofi a gweld y Cynulliad wrth ei waith. Gobeithiaf fod aelodau’r cyhoedd yn mwynhau hyn heddiw. Gofod cyhoeddus yw o leiaf ddwy ran o dair o’r adeilad, ac, yn wir, clywyd yr Arglwydd Rogers yn ei alw’n ‘ystafell fyw Cymru’. Gobeithiaf y daw pobl Cymru i deimlo’n gartrefol yma.


Mae’r adeilad nid yn unig yn orchestwaith pensaernïol, mae hefyd yn gampwaith o ran cynllunio a pheirianneg sydd yn arddangosiad o ymroddiad y Cynulliad i gynaliadwyedd. Mae’r cynllun yn gwneud y defnydd mwyaf posibl o olau dydd naturiol, awyru naturiol i oeri’r adeilad, cyfnewidwyr gwres daear, coed gwastraff i wresogi’r adeilad a dwr glaw i olchi’r toiledau. Nid oes dim wedi’i anghofio.


Gwariwyd dros £14 miliwn o swm y contract ar ddefnyddiau a llafur Cymreig, gan gynnwys llechi o’r gogledd a dodrefn sefydlog wedi’i wneud gan gwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio derw a dyfwyd yng Nghymru. Yr oeddwn ar ben fy nigon yn ddiweddar pan gafodd yr adeilad ddyfarniad ‘rhagorol’ gan BREEAM, sef y marc uchaf posibl am gynllunio cynaliadwy.


Mae’r systemau TGCh diweddaraf un yr ydym yn eu defnyddio heddiw yn ganolog i gynllun agored a blaengar yr adeilad, ac yn peri bod y Cynulliad ar y blaen o ran defnyddio technoleg mewn adeiladau seneddol. Mae Siemens a’i isgontractwyr, fel rhan o gynghrair Merlin, wedi gweithio’n agos gyda defnyddwyr i gael gwybod beth yw’r gofynion ac i ddarparu ateb i’n hanghenion. Mae arnaf eisiau talu teyrnged hefyd i Taylor Woodrow, a ddangosodd gryn ymroddiad ac egni wrth fynd â’r maen i’r wal yn llwyddiannus o ran y prosiect heriol hwn.


Credaf fod yr adeilad hwn yn gwneud cyfraniad go iawn i adfywiad Caerdydd. Gwariwyd bron £5 miliwn ar waith tirlunio allanol a chwblhau’r promenâd i sicrhau bod yr adeilad hwn mewn amgylchedd o safon.


O ran cyfanswm y gost, adroddais ym mis Tachwedd mai £67 miliwn oedd yr amcangyfrif o’r gost derfynol. Mae’n dda gennyf allu dweud bod yr amcangyfrif cyfredol o’r gost derfynol yn cyd-fynd â hynny. Gallai fod fymryn yn uwch neu fymryn yn is na’r ffigur hwnnw yn y diwedd; cawn wybod ymhen ychydig wythnosau. Mae cyfanswm y gost yn cynnwys costau cyfalaf TGCh hyd yma, dodrefn rhydd, costau rhagarweiniol, ffioedd proffesiynol, darpariaeth wrth gefn a TAW, ac, wrth reswm, y gwaith adeiladu.


Yr oedd yn benderfyniad anodd a dewr gan fy rhagflaenydd, Edwina Hart, atal y prosiect hwn dros dro ac adolygu’r llwybr caffael, ond hynny oedd y penderfyniad iawn, a dylem gofio hynny. Y canlyniad yn y diwedd yw adeilad y gallwn i gyd ymfalchïo ynddo, yn ogystal â chanlyniad llwyddiannus sydd yn dangos y gall y sector cyhoeddus gyflawni prosiect sy’n cael sylw mawr. Mae ansawdd yr adeilad hwn eisoes wedi’i gydnabod yn rhyngwladol. Mae’n adeilad unigryw a ddaw, gobeithio, yn esiampl nid yn unig o ran cynllun ac adeiladwaith, ond o ran y dull o weithio mewn partneriaeth a ddilynwyd, yr ysbryd o gydweithredu y gweithiodd pawb ynddo, a’r dull o gaffael. Mae’n esiampl o adeilad, a dylem geisio rhannu ein gwersi gydag eraill.


Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan wrth sicrhau’r adeilad, gan gynnwys fy nghyd-Aelodau ar y grwp llywio polisi, sy’n cynnwys Elin Jones, chi’ch hun, Lywydd, a Mike German. Diolch am eich cefnogaeth ddiwyro. Hoffwn estyn fy niolch i’r tîm adeiladu o’r newydd am ei ymroddiad a’i benderfyniad; i’r bwrdd prosiect swyddogol, a lywiodd y prosiect; i Wasanaeth Seneddol y Cynulliad am ei gyfraniad; i Taylor Woodrow a’i dîm adeiladu a chynllunio am wneud y peth yn bosibl; i Siemens a’i isgontractwyr am sefydlu system TG o’r radd flaenaf; i aelodau’r grwp cynghori ar fynediad a’r grwp cynghori ar y celfyddydau am eu cyngor a’u harweiniad, a oedd yn bwysig wrth gyflawni’r adeilad hwn; i TPS and Northcroft, ein rheolwyr prosiect a’n hymgynghorwyr costau, am helpu i’n cadw ar y llwybr iawn; ac i bawb arall a chwaraeodd ran am eu cymorth a’u cydweithrediad. Ymdrech tîm fu hyn. Fodd bynnag, hoffwn grybwyll un unigolyn yn arbennig, sef Richard Wilson, sydd wedi gwneud gwaith gwych wrth sicrhau bod hyn yn digwydd. Diolch yn fawr iawn iddo ef.


Bellach mae gennym gartref teilwng o ganolfan i Lywodraeth a ddaw’n hawdd ei adnabod ar unwaith drwy’r byd i gyd. Gobeithiaf y gwnaiff ysbrydoli dadlau ac arweiniad o safon uchel gennym ni, ac annog ac ennyn brwdfrydedd y cyhoedd i gymryd rhan. Pan bleidleisiodd y Cynulliad o blaid bwrw ymlaen â’r contract adeiladu hwn—a chofiaf y ddadl honno’n dda—dywedais fod hyn yn benderfyniad anodd ac fy mod yn credu mai hwn oedd y penderfyniad cywir. Credaf y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn barnu inni wneud y penderfyniad iawn. Credaf fod y rhan fwyaf o bobl, wedi iddynt weld yr adeilad arbennig hwn, yn credu erbyn hyn mai hwn oedd y penderfyniad cywir, ac y bydd yn ennyn gwir falchder yng Nghymru a hyder ar gyfer y dyfodol.