Skip to content

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant A'r Glasoed

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Minister For Health And Social Services

Cyhoeddwyd y Strategaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) 'Busnes Pawb' ym mis Medi 2001, a amlinellodd gysyniad eang a thraws-sectoraidd ar gyfer CAMHS. Sefydlodd weledigaeth strategol ar gyfer CAMHS yng Nghymru.  Mae'n amlinellu nodau, amcanion ac egwyddorion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaeth CAMHS a ddarperir gan bob sector, iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol.

Bwriedir adolygu'r strategaeth eleni.  Bydd hyn yn creu cyfle i bennu mewn cryn fanylder yr hyn a gyflawnwyd ers lansio'r strategaeth ynghyd â'r canlyniadau a gyflawnwyd.  Bydd yn adlewyrchu datblygiadau newydd ac yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer gweddill oes y strategaeth 10 mlynedd.

Bydd yr adolygiad arfaethedig o Busnes Pawb yn ei gwneud yn bosibl i newid ffocws y polisi er mwyn sicrhau bod y plant a'r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal, yn gallu manteisio ar wasanaethau ymatebol a theg o'r radd flaenaf.

Ymdrinnir ag iechyd meddwl a lles seicolegol plant a phobl ifanc mewn un adran o'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'r Gwasanaethau Mamolaeth. Mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn cynnwys camau gweithredu allweddol sy'n benodol ac y gellir eu mesur at ddiben cyflawni gwasanaethau amlasiantaeth ar draws Haenau 1 i 4 sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth CAMHS 'Busnes Pawb'.

Mae'r ffrydiau ariannu canlynol wedi'u darparu mewn perthynas â'r gwahanol bolisïau a chamau gweithredu - ac mae elfennau ohonynt yn cefnogi Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

  • Arian GIG rheolaidd

Mae'r £1.2 miliwn wedi ei ddarparu i'r CAMHS o 2004-05 ar gyfer:

  • darparu gwelyau i'r glasoed y mae angen eu derbyn mewn argyfyngau,
  • Timau Fforensig ar gyfer Ymgynghori â'r Glasoed a
  • Gweithwyr Iechyd Meddwl Sylfaenol.
  • Datblygu modiwl ar lefel diploma gan Brifysgol Morgannwg a Phrifysgol Bangor.
  • Fframwaith Gwasanaeth a Chyllid - Arian ar gyfer y Fenter Amseroedd Aros

Mae swyddogion wedi gallu dyrannu oddeutu £1.4m o arian anghylchol a gafodd ei glustnodi ar gyfer CAMHS yn y flwyddyn ariannol 2005/06 ar gyfer Amseroedd Aros.  Roedd y ceisiadau a gefnogwyd yn destun asesiad gwerth am arian, a chanlyniadau mesuradwy, a bod yn rhaid gwario'r arian yn y flwyddyn ariannol hon.

  • Gwariant y GIG

Caiff y gwahanol ffrydiau ariannu mewn perthynas â gwasanaethau CAMHS eu cynnwys o fewn y dyraniadau i Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaethau'r GIG a Chomisiwn Iechyd Cymru. Byddai'n anodd iawn gwneud cymariaethau uniongyrchol â'r sefyllfa yn Lloegr.

Serch hynny, ceir ffigurau ynghylch gwariant Ymddiriedolaethau ar wasanaethau iechyd meddwl ar ffurflenni ariannol ymddiriedolaethau'r GIG. Ers 2000 y gwariant blynyddol cyfartalog swyddogol ar gyfer Cymru gyfan yw oddeutu £11m (nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys unrhyw wariant gan Fwrdd Iechyd Lleol na Chomisiwn Iechyd Cymru).

Menter newydd ydoedd cyllidebu rhaglenni yn 2003-04 er mwyn olrhain gwariant ar draws 23 maes penodedig - gan gynnwys iechyd meddwl. Mae ffurflenni cyllidebu rhaglenni a lenwir gan Fyrddau Iechyd Lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru yn nodi cyfanswm y gwariant ar iechyd meddwl yng Nghymru.  Serch hynny, ni chafodd ffigurau cyllidebau rhaglenni mewn perthynas â CAMHS ond eu casglu am y tro cyntaf yn 2004-05, gan fod eu datgelu ar wahân yn ofyniad newydd.

Caiff y data ynghylch cyllidebu rhaglenni ar gyfer 2004-05 ei gofnodi fel £18.7m gan Fyrddau Iechyd Lleol a £9.7m gan Gomisiwn Iechyd Cymru.

  • Y Rhaglen Rhoi Plant yn Gyntaf

Mae'r rhaglen Rhoi Plant yn Gyntaf yn derbyn adnoddau sylweddol.  Ers ei sefydlu yn 1999, mae dros £150 miliwn o adnoddau ychwanegol wedi ei ymrwymo i'r rhaglen, gyda £45 miliwn yn ychwanegol ar gael yn 2006/07. 

  •  Dyraniadau Cymorth Cymru Gyfan

Caiff Cymorth - y Gronfa Gymorth i Blant a Phobl Ifanc ei gweinyddu drwy Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc lleol ym mhob Awdurdod Lleol. Mae'n ceisio darparu rhwydwaith o gymorth wedi'i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc, rhwng 0-25 oed, o fewn fframwaith sy'n darparu gwasanaethau cyffredinol, er mwyn gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc o deuluoedd difreintiedig.  

           £

2003-4 39,935,002
2004-5 42,415,000
2005-6 43,263,001
2006-7 54,733,000



Amseroedd aros

Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2005:

  • Gwnaeth nifer y plant a'r glasoed a oedd yn aros dros 6 mis am apwyntiad cyntaf fel claf allanol leihau o 156 i 119, sef lleihad o bron i chwarter (23 y cant) yn nifer y rhai sy'n aros am gyfnod o'r fath.
  • Roedd cyfanswm nifer y plant a'r glasoed a oedd yn aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi lleihau ac nid oedd unrhyw un yn aros dros 12 mis.
  • O blith y 911 claf a oedd yn aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, roedd 340 yn aros dros 3 mis, sef lleihad o 51 o'i gymharu â'r chwarter blaenorol (391).   Cynrychiola hyn leihad o 6 phwynt canran (o 43 i 37 y cant).

Gweithwyr Iechyd Meddwl Sylfaenol

Mae llawer iawn wedi'i gyflawni o safbwynt cyflogi a hyfforddi gweithwyr iechyd meddwl sylfaenol.  Ar hyn o bryd, ceir mwy na 27.5 (cyfwerth ag amser cyflawn) o weithwyr iechyd meddwl sylfaenol yng Nghymru (ac eithrio staff sy'n rhoi cymorth gweinyddol).