Skip to content

Ymarfer Edrych Nôl yn sgîl achos o Hepatitis C

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r diweddaraf i'r Aelodau am yr ymarfer edrych nôl yng Ngogledd Cymru yn sgîl yr achos o Hepatitis C. Roedd y mater hwn yn destun Datganiad Ysgrifenedig blaenorol gennyf ar 16 Mai.

Rhoddwyd gwybod i'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (NHPS) a Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd bod gweithiwr gofal iechyd wedi derbyn diagnosis o Hepatitis C ar 3 Hydref 2005. Ni fu'r gweithiwr gofal iechyd yn gweithio o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Mae llythyrau yn cynnig cyngor, cymorth a phrawf gwaed wedi'u hanfon at y 5,500 o gleifion a gafodd eu trin gan y gweithiwr gofal iechyd dan sylw. Rhoddwyd rhif ffôn i'r cleifion er mwyn iddynt allu gwneud apwyntiad i fynd i un o'r 47 o glinigau arbennig a sefydlwyd i gynnal profion gwaed. Mae'r llinell gymorth gyfrinachol hon wedi derbyn 2,147 o alwadau ers iddi gael ei sefydlu ddydd Mercher 31 Mai.

Hyd yn hyn, mae apwyntiadau wedi eu gwneud ar gyfer 1,480 o gleifion a ofynnodd am brawf gwaed. Mae'r clinigau yn cael eu cynnal yn y bore, y prynhawn a chyda'r nos, yn ogystal ag ar y penwythnos, rhwng dydd Llun 5 Mehefin a dydd Llun 17 Gorffennaf. Bellach, mae dau ar bymtheg o'r 47 clinig yn llawn.

Mae'r GIG yn cynnig cyfle i'r cleifion cael eu profi am hepatitis B a HIV yn ogystal â hepatitis C. Bach iawn yw'r risg bod cleifion wedi dal hepatitis C oddi wrth y gweithiwr iechyd dan sylw. Mae'r risg o ddal hepatitis B neu HIV hyd yn oed yn llai, oherwydd gallai hyn ddim ond digwydd petai'r haint yn cael ei drosglwyddo o un claf i'r llall yn y lleoliad gofal iechyd. Serch hynny, er mwyn bod yn rhagofalus, roedd tîm y digwyddiad yn ystyried ei bod yn briodol cysylltu â'r cleifion sydd wedi cael eu trin gan y gweithiwr gofal iechyd