Skip to content

Cyllid Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau
Yn gynnar yn 2006, dechreuodd Cyllid Cymru ar broses recriwtio ar gyfer penodi a/neu ailbenodi cyfarwyddwyr anweithredol i Gyllid Cymru ccc. Hwyluswyd y broses hon gan wasanaeth ymgynghori recriwtio allanol.

Yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau a Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu Cyllid Cymru ccc, penderfynir ar benodiadau gan Gadeirydd y Cwmni, y Cyfarwyddwyr ac Ysgrifennydd y Cwmni. Nid yw’r penodiadau hyn yn rhan o gylch gwaith proses penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cynulliad Cymru

Wrth wneud penderfyniadau terfynol, ac wrth ddilyn arfer gorau, rhoddwyd ystyriaeth i egwyddorion Nolan yn ogystal â chanllawiau Cyllid Cymru ccc i aelodau’r Bwrdd. Mae’r canllawiau hyn wedi cael eu defnyddio ers cychwyn y cwmni yn 2001 ac maent yn cynnwys rolau a chyfrifoldebau, rheolau ymddygiad, penodiadau busnes a gweithgarwch gwleidyddol.

Daeth contract yr Athro Dylan Jones-Evans i ben ddiwedd mis Mehefin 2006. Ni chafodd ei ailbenodi.