Skip to content

Network Rail

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau

Ddydd Llun, 3 Gorffennaf 2006, cyhoeddodd Network Rail ei Gynllun Busnes Strategol Cychwynnol ar gyfer Cyfnod Rheoli 4 – 2009/10 i 2013/14.

Mae hwn yn nodi’r cynlluniau sy’n datblygu gan Network Rail ar gyfer y rhwydwaith rheilffyrdd fel cam cyntaf yn y broses o sefydlu Manyleb Allbwn Lefel Uchel Gweinidogion yr Alban a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, a’r Datganiad o Gyllid sydd Ar Gael, i’w cyhoeddi yn ystod haf 2007. Bydd dogfennau’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn cynnwys Cymru a Lloegr a bydd dogfennau Gweinidogion yr Alban yn cynnwys yr Alban. Ymgynghorir â Llywodraeth y Cynulliad ynghylch dogfennau Cymru a Lloegr. Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yw cyllido Network Rail yng Nghymru a Lloegr.

Mae Cynllun Network Rail yn seiliedig ar ddwy strategaeth

  • Y Llinell Sylfaenol, sef y gost isaf bosibl a amcangyfrifir o gynnal rhwydwaith nad yw’n dirywio, gan gynnwys prosiectau gwella sydd eisoes wedi’u hymrwymo. Y gwariant amcangyfrifedig ar gyfer y Cyfnod yw £21,957 miliwn, gan gynnwys Gweithrediadau, Cynnal a Chadw, Adnewyddu a Gwella.
  • Yr Achos Sylfaenol, sy’n cynnwys prosiectau gwella i helpu i ddarparu capasiti, sydd ei angen i ymateb i’r twf rhesymol mewn traffig o ran teithwyr a chludo nwyddau. Y gwariant amcangyfrifedig ar gyfer Cyfnod y strategaeth hon yw £29,285 miliwn.

Nid yw hwn yn gynllun terfynol gan Network Rail, ond mae’n gyfraniad at y broses o edrych ar opsiynau ar gyfer y rheilffordd a’u trafod. Bydd yn arwain at y Datganiadau Allbwn Lefel Uchel a’r Datganiadau o’r Cyllid sydd Ar Gael haf nesaf, ac Adolygiad Cyfnodol nesaf Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd.

Yng Nghymru, mae Strategaeth Drafnidiaeth arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad, Asesiad Cynllunio Rheilffyrdd Cymru, sy’n ystyried y tymor hir a Strategaeth Defnyddio Llwybrau Cymru, sy’n ystyried y tymor canolig, yn cael eu llunio. Byddant yn nodi’r gweledigaethau cynllunio strategol ar gyfer dyfodol y rheilffordd yng Nghymru. Cânt eu cwblhau mewn pryd i lywio’r Datganiad Allbwn Lefel Uchel a’r Datganiad o’r Cyllid sydd Ar Gael (i Gymru a Lloegr) haf nesaf.

Fel arall, rwy’n gweithio’n agos ac yn gynhyrchiol gyda Network Rail ar fy rhaglen barhaus o fuddsoddiadau i wella’r rheilffyrdd ac rwy’n cael cyfarfod gyda Robbie Burns y Cyfarwyddwr Llwybrau bob chwarter.

Rwy’n sefydlu Bwrdd Diwydiant Rheilffyrdd ar y Cyd i Gymru, a fydd yn cynnwys Network Rail a rhanddeiliaid amlwg eraill. Pwrpas y bwrdd yw gwella’r ffordd y darperir gwasanaethau a gofal cwsmeriaid i bobl sy’n teithio ar drenau ac o ran cludo nwyddau.

Ar hyn o bryd mae Network Rail yn cyllido cynlluniau adnewyddu signalau Port Talbot, Caerdydd a Chasnewydd ar gost o £400 miliwn.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu Network Rail i gyflwyno rhaglen bwysig i wella’r seilwaith yng Nghymru, sy’n cynnwys:-

  • Darparu trenau yn amlach ym Merthyr
  • Ymestyn platfformau ar rwydwaith Cledrau’r Cymoedd i’w gwneud yn bosibl cael trenau hirach i ymdopi â’r galw nas gwelwyd o’r blaen
  • Ailwampio Gorsaf Casnewydd
  • Gorsaf Llanharan