Skip to content

Datblygiadau Diweddar O Fewn Airbus SAS

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau

Bu nifer o ddatblygiadau o fewn Airbus SAS dros yr wythnosau diwethaf a llawer o ddyfalu beth fyddai eu heffaith ar ffatri adeiladau adenydd Airbus yn Mrychdyn.

Ar 2 Gorffennaf, cyhoeddodd Cadeiryddion EADS, Manfred Bischoff ac Arnaud Lagardere bod y Bwrdd Cyfarwyddwyr wedi derbyn ymddiswyddiad Noel Forgeard fel Prif Swyddog Gweithredol EADS, fel aelod o Fwrdd EADS ac fel Cadeirydd Pwyllgor Cyfranddalwyr Airbus yn ogystal ag ymddiswyddiad Gustav Humbert fel Prif Swyddog Gweithredol Airbus ac fel aelod o Bwyllgor Gwaith EADS.

Mae’r Bwrdd wedi penodi Louis Gallois yn Brif Swyddog Gweithredol a bydd yn ymuno â’i gyd-brif swyddog Tom Enders i arwain EADS.  Hyd hynny, Mr Gallois oedd Llywydd y cwmni rheilffyrdd Ffrengig SNCF ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio mewn busnesau diwydiannol, yn enwedig ym maes awyrofod. Mae Christian Strieff wedi’i enwebu fel Prif Swyddog Gweithredol Airbus a’i benodi’n aelod o Bwyllgor Gwaith EADS.  Mae Mr Strieff wedi rheoli nifer o fusnesau diwydiannol a thechnolegol y Saint-Gobain Group a chafodd ei benodi’n Brif Weithredwr arnynt yn 2004.  Bydd yn atebol i Mr Enders sydd wedi cael ei enwebu’n Gadeirydd ar Bwyllgor Cyfranddalwyr Airbus yn amodol ar gael sêl bendith y Pwyllgor.

Daeth y newidiadau hyn yn sgil oedi ym mhrosiect Super Jumbo yr A380 ac anniddigrwydd ynghylch cyfrannau a werthwyd yn yr wythnosau cyn i’r problemau gyda phrosiect yr A380 ddod i’r amlwg.  Er mwyn cadw dilyniant, bydd Mr Forgeard a Mr Humbert yn aros fel cynghorwyr arbennig i’w holynwyr tan o leiaf ddiwedd y flwyddyn.  Nid oes unrhyw reswm i gredu y caiff y newidiadau hyn unrhyw effaith andwyol ar y ffatri ym Mrychdyn.

Mae prosiect yr A380 tua flwyddyn ar ei hôl hi, hynny oherwydd problemau â’r systemau gwifrau yn bennaf. Mae’n debygol o gael effaith andwyol ar elw Airbus.  Serch hynny, mae’r rhaglen brofion yn mynd rhagddi’n dda iawn ac mae ymateb cwsmeriaid i’r awyren wedi bod yn dda, felly mae’i dyfodol tymor hir yn ymddangos yn addawol.  Mae Airbus wedi gwrando ar ymateb ei gwsmeriaid yn y cwmnïau hedfan i awyren newydd yr A350 ac wedi penderfynu bod angen ailddylunio corff ac adenydd yr awyren er mwyn gallu cystadlu â’r Boeing 787 llwyddiannus yn y farchnad teithiau canolig eu hyd. Bydd hyn yn esgor ar oedi ac ar gynnydd yn y costau datblygu ond dylai arwain at awyren fwy llwyddiannus yn y tymor canolig i hir.

Mae BAE Systems wedi penderfynu cynnal archwiliad llawn o Airbus cyn penderfynu a ddylai werthu 20% o’i gyfrannau, gwerth £1.9bn, yn EADS. Airbus sy’n cyflogi’r 7,000 o weithwyr ym Mrychdyn, nid BAE Systems.  Mae miloedd yn ychwanegol yn gweithio i Airbus ym Mryste ac i gwmnïau eraill sy’n darparu rhannau a gwasanaethau i Airbus.   Nid oes awgrym y bydd hyn yn newid yn sgil gwerthu’r cyfrannau.

Yn ôl adroddiad a ollyngwyd heddiw, mae Llywodraeth Sbaen yn bwriadu cynyddu’i chyfran yn EADS er mwyn cynyddu cyfran y gwaith sy’n cael ei wneud yn Sbaen. Mae hyn wedi codi ofn bod Sbaen am i’r gwaith o gynhyrchu awyrenau’r A380 symud o Frychdyn i Sbaen.  Mae’r buddsoddiad anferthol yn ffatri Brychdyn, ynghyd â’r amodau sydd ynghlwm wrth fuddsoddiad ad-daladwy Llywodraeth y Deyrnas Unedig o £530m, yn gwneud hynny’n annhebygol iawn. Damcaniaethu yw hyn i gyd ond mae cystadleuaeth frwd o fewn Airbus am y gwaith fel ym mhob cwmni byd-eang mawr.  Fodd bynnag, mae’r DU yn rhagori ar wneud adenydd, mae hynny’n gydnabyddedig, ac mae Airbus UK yn hyderus ynghylch dyfodol y ffatri adenydd ym Mrychdyn.  Wedi dweud hynny, nid yw’n llaesu dwylo.

Er y bu oedi gyda phrosiectau’r A380 a’r A350, bu hwb yng nghynhyrchiant yr awyrenau un-ale, yr awyrenau teithiau canolig a hir presennol a’r Hawker Executive Jet (y gwneir ei gorff a’i adenydd ym Mrychdyn).  Trwy ailddiffinio rhai o swyddi’r A380 a newid y patrymau sifft, ni ragwelir colli swyddi ym Mrychdyn.  Yn wir, mae’n dal yn fwriad gan y cwmni i gyflogi 100 o brentisiaid newydd ym mis Medi.  Yn ôl Airbus UK, mae diogelu swyddi ei weithlu crefftus yn flaenoriaeth bennaf.