Skip to content

Ddiwygio’r Heddlu

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart,Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i wneud datganiad pellach ar adolygu strwythurau’r heddluoedd, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cartref ddydd Llun. Mae pethau wedi datblygu’n gyflym ers fy natganiad diwethaf. Yr wyf wedi parhau’n gysylltiedig â’r datblygiadau hyn, drwy ohebu a thrwy drafodaethau rhwng gweinidogion.

Fis Rhagfyr, cyflwynwyd dewisiadau gan yr heddluoedd ar gyfer strwythurau’r dyfodol. Ers hynny, mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi wedi ystyried pob dewis yn erbyn ystod o feini prawf. Bellach cwblhawyd cam cyntaf y gwaith hwn, sef asesu lefel y gwasanaethau diogelu a ddarperir gan bob dewis. O ganlyniad i asesiad yr Arolygiaeth, mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi mai dim ond rhai dewisiadau a aseswyd yng Nghymru, ac mewn tri rhanbarth yn Lloegr, fel rhai sy’n addas i’w hystyried ymhellach.

Ar gyfer Cymru, dim ond y dewis o gael un heddlu sydd wedi bodloni meini prawf
gwasanaethau diogelu’r Arolygiaeth. Yr oedd datganiad yr Ysgrifennydd Cartref ddydd Llun yn gwneud yn glir y bydd angen o hyd i’r Arolygiaeth brofi’r dewis o gael un heddlu ar sail gwytnwch sefydliadol, fforddiadwyedd, praeseptio a’r effaith ar y system cyfiawnder troseddol ehangach. Caiff yr asesiadau sy’n weddill eu cwblhau maes o law.
Trefnodd yr Ysgrifennydd Cartref gyfarfod gyda’r prif gwnstabliaid a chadeiryddion awdurdodau’r heddlu yng Nghymru ddydd Llun i drafod y ffordd ymlaen. Deallaf, nes daw’r asesiadau sy’n weddill, ei fod wedi gofyn iddynt weithio gyda’i swyddogion yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf i fynd i’r afael â materion cyllid a threfniadaeth allweddol, ac unrhyw faterion eraill, sy’n gysylltiedig â gweithredu heddlu strategol yn llwyddiannus. Mae hefyd wedi gofyn iddynt ddweud, erbyn 24 Chwefror, a ydynt yn barod i uno’n wirfoddol.

Gwn fod Aelodau hefyd yn pryderu’n fawr am ddyfodol strwythurau’r gwasanaeth heddlu yng Nghymru. Mae angen imi gofnodi eto y ffaith ganolog nad yw hwn yn fater datganoledig, ac mai cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Cartref yw gwneud penderfyniadau, ar sail ar yr asesiadau proffesiynol ger ei fron. O fewn y fframwaith hwnnw, serch hynny, mynegwyd pryderon dilys gan y Cynulliad am y materion cyllid ac atebolrwydd democrataidd cysylltiedig a phwysig. Mae’n bleser gennyf allu dweud bod rhywfaint o gynnydd yn y materion hyn.

Yn gynharach yr wythnos hon, cefais lythyr gan Hazel Blears yn ateb pob un o’r pwyntiau yr wyf wedi eu codi gyda’r Swyddfa Gartref yn ystod y deufis diwethaf, drwy ohebiaeth a thrafodaethau. Mae’r llythyr hwnnw’n cadarnhau bod y Swyddfa Gartref bellach yn sylweddoli’n iawn yr amgylchiadau democrataidd penodol sydd gennym yng Nghymru, a bod angen sicrhau cynrychiolaeth ddemocrataidd ddigonol ar unrhyw awdurdod heddlu strategol newydd. Bydd trefniadau ar gyfer Cymru yn y dyfodol yn galluogi pob awdurdod lleol i gael ei gynrychioli, a bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gyda’r Cynulliad ar y broses o ddewis yr aelodau annibynnol ar awdurdod heddlu strategol.

O ran y strwythurau democrataidd a fydd yn ategu awdurdod heddlu strategol newydd, mae’r Swyddfa Gartref wedi gwrando ar ein safbwyntiau fod angen lefel is-ranbarthol o atebolrwydd yng Nghymru. Yn fy marn i, nid oes angen i’r trefniadau hyn fod yn seiliedig ar statud; mae’n bwysicach fod gennym drefniadau gwaith cadarn sy’n gweithredu’n effeithiol. O ganlyniad i’r trafodaethau hyn, mae gan y Cynulliad gyfle arall yn awr i lunio barn am y ffordd y byddai strwythur rhanbarthol o’r fath yn gyfleu’r farn honno i’r Swyddfa Gartref. Yn y maes hwn o strwythurau democrataidd ac atebolrwydd, mae’r Swyddfa Gartref hefyd wedi cytuno ar ddau drefniant pwysig arall yr wyf am eu trosglwyddo i Aelodau. Yn gyntaf, bydd gan uwch aelodau o unrhyw awdurdod heddlu strategol yng Nghymru gyfrifoldebau daearyddol penodol, gyda threfniant cyfochrog mewn unrhyw heddlu strategol, i sicrhau bod gan bob ardal lais cryf ac amlwg ar lefel strategol. Yn ail, caiff atebolrwydd lleol ei bennu yng Nghymru, ac mae Mesur yr Heddlu a Chyfiawnder yn rhoi hyblygrwydd inni yn hynny.

O gofio’r cyfyngiadau deddfwriaethol, yr wyf wedi cytuno â Hazel Blears y byddem yn llunio barn ar ein cynlluniau ar gyfer atebolrwydd rhanbarthol a lleol yn gyflym. Mae’r amserlen ar gyfer Mesur yr Heddlu a Chyfiawnder yn dynn iawn. Yr wyf, felly, eisoes wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio i ofyn a fyddai’r pwyllgor—gan adeiladu ar yr adroddiad rhagorol a baratowyd ganddo y llynedd—yn llunio barn am y materion hyn ar ran y Cynulliad yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

O ran ariannu’r costau ailstrwythuro, yr wyf wedi mynegi ein pryderon yn glir wrth y Gweinidog Gwladol a’r effaith bosibl ar bobl sy’n talu treth gyngor yng Nghymru. Atgyfnerthais bwysigrwydd y broses ailstrwythuro a thalu costau lefel 2 gan Whitehall, ac yr wyf am barhau i wneud hynny. Mae’r gwaith o archwilio’r prisiadau manwl yn parhau, ac mae’r Swyddfa Gartref yn awyddus i aros nes bydd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar y ffordd y caiff y costau eu talu neu adnoddau eu neilltuo. Yn fy marn i, mae’n hanfodol i’r gwaith hwn gael ei gwblhau mewn da bryd i lywio penderfyniadau awdurdodau’r heddlu ar uno gwirfoddol.

Yn olaf, bûm yn trafod gyda’r Swyddfa Gartref y trefniadau y bydd angen eu rhoi ar waith i bennu blaenoriaethau plismona yn y dyfodol yng Nghymru, pe cytunid ar gael un heddlu. Mae’n bleser gennyf adrodd y bydd Llywodraeth y Cynulliad, yn y dyfodol, yn cymryd mwy o ran yn y broses o ddatblygu’r cynllun diogelwch cymunedol cenedlaethol. Bwriadaf barhau i ddatblygu ein trafodaethau ar y mater hwn yn y dyfodol.

Fy nod yn hyn oll oedd sicrhau bod y Swyddfa Gartref yn gwbl ymwybodol o’r cyd-destun penodol ar gyfer gweithredu ei chyfrifoldebau yng Nghymru. Yr wyf wedi bod yn ofalus i gyfleu’r pwyntiau a wnaed gan Aelodau, a sensiteiddio gwneud penderfyniadau mewn meysydd allweddol, megis cyllid ac atebolrwydd democrataidd. Mae’r broses hon yn un barhaus, a bydd y Cynulliad yn awr yn dal i fod yn rhan ohoni. Byddaf yn cyflwyno adroddiad pellach ar hyn maes o law.