Skip to content

Setliad Grant Trafnidiaeth 2006-07

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Byddaf yn cyhoeddi am 9.00 o’r gloch bore heddiw fy mhenderfyniad ar ddyranu’r Grant Trafnidiaeth i awdurdodau lleol ar gyfer 2006-07.

Rwy’n darparu £125 miliwn i wella isadeiledd trafnidiaeth Cymru ac i hybu trafnidiaeth gynaliadwy.  Bydd y setliad yn cynnwys dros £90 miliwn i ddatblygu’r rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd, gan gynnwys dros £9 miliwn ar gyfer cymal buddsoddi nesaf y cynllun gwella rheilffyrdd strategol gwerth £36 miliwn ar gyfer y De Ddwyrain. Mae’n cynnwys hefyd rhyw £24 miliwn i gefnogi trafnidiaeth integredig a bydd £7 miliwn pellach yn mynd i annog pobl i gerdded a beicio, gan gynnwys mwy o arian i’r fenter lwyddiannus, Llwybrau Diogel i Ysgolion

Bydd y setliad hwn yn rhoi’r modd i awdurdodau lleol fwrw ymlaen ag amrywiaeth o brosiectau, i fynd â’r rhaglen Grant Trafnidiaeth yn ei blaen ac i helpu i roi polisi trafnidiaeth integredig Llywodraeth y Cynulliad ar waith.

Amgaeir copi o’r prif Ddatganiad i’r Wasg er gwybodaeth i chi.