Skip to content

Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) (Cymru) 2006 a wnaed o dan Reol Sefydlog Rhif 24.27

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones , Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Yn dilyn canslo’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, gwnaed Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) (Cymru) 2006 trwy ddefnyddio’r weithdrefn weithredol lawn ar 2 Mai, a daethant i rym ar 3 Mai. Fe wyddoch, ar 3 Mai, gyda chyflwyno’r rheoliadau hyn a rheoliadau cyfochrog yng ngweddill y DU, y daeth terfyn o’r diwedd ar y gwaharddiad ar allforio cig eidion wedi 10 mlynedd. Sylweddolaf y carai Aelodau’r Cynulliad fod wedi cael cyfle i drafod y rheoliadau cyn iddynt ddod i rym, ond yn anffodus, ni fu hyn yn bosibl, ac yn dilyn y datganiad hwn, bydd cyfle i ofyn cwestiynau am y rheoliadau.

Yr oedd cyflwyno’r rheoliadau hyn a chodi’r gwaharddiad ar allforio cig eidion yn sgîl hynny o bwysigrwydd economaidd sylweddol i ddiwydiant ffermio Cymru, ac nid yw’n syndod iddynt gael croeso brwd.

Bydd y garreg filltir bwysig hon yn caniatáu, ar yr un sail ag aelodau eraill yr Undeb Ewropeaidd, allforio gwartheg a aned neu a fewnforiwyd i’r DU ar 1 Awst 1996 neu wedi hynny. Bydd hefyd yn caniatáu allforio cynhyrchion sy’n deillio o wartheg a laddwyd yn y DU ar 15 Mehefin neu wedi hynny, a chynhyrchion yn cynnwys asgwrn cefn sy’n deillio o wartheg a laddwyd ar 3 Mai 2006 neu wedi hynny. Yr oedd angen deddfwriaeth gartref i ddiddymu cyfreithiau presennol oedd yn gwahardd allforio cig eidion a da byw. Yr oedd angen deddfwriaeth hefyd i orfodi rheolau’r UE ynghylch tynnu asgwrn y cefn a chig pen. Heb orfodi’r rheolau hyn, ni ellid fod wedi codi’r gwaharddiad ar allforio.
Cyhoeddwyd rheoliad y Comisiwn Ewropeaidd a baratôdd y ffordd ar gyfer codi’r gwaharddiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Uned Ewropeaidd ar 29 Ebrill, a daeth i rym ar 2 Mai. Pe na baem wedi cyflwyno ein deddfwriaeth gartref trwy weithdrefn weithredol lawn, fel y deuai i rym ar yr un pryd â gweddill y DU, yr oedd siawns y gallem fod wedi peryglu codi’r gwaharddiad i’r DU gyfan. Gallai aelod-wladwriaethau fod wedi dadlau nad oedd y DU yn cydymffurfio â’r rheolau newydd ar asgwrn cefn a gwrthod prynu unrhyw gig eidion o’r DU.

Byddai ffermwyr ac allforwyr o Gymru hefyd wedi bod dan anfantais petai oedi wedi digwydd yn nyddiad deddfwriaeth Cymru, gan na fyddent wedi gallu cyrraedd marchnadoedd newydd yr UE ar yr un pryd â’u cystadleuwyr. Petaem wedi bod yn hwyr gyda’n deddfwriaeth, yr oedd risg hefyd y gallai effeithio ar y ffordd y gwelid cig eidion Cymru dramor – fod problem o ryw fath gyda’n cig eidion am nad oedd ar gael i’w allforio ar yr un pryd â chig eidion o weddill y DU.

Yr wyf yn sylweddoli nad yw pawb yng Nghymru yn cefnogi allforio gwartheg byw, ond y mae hyn yn rhan annatod o ddeddfwriaeth yr UE a phe na fyddem yn cynnwys darpariaethau ar gyfer allforio gwartheg byw yn ein rheoliadau, gallem fod mewn perygl o wynebu camau am dor-rheolau. Bydd gofyn i ffermwyr sydd am allforio lloi lynu at reoliadau iechyd a lles llym, a orfodir yn haearnaidd.

Yr oedd yn bwysig cyfuno’r rheoliadau TSE ar yr un pryd â chodi’r gwaharddiad ar allforio cig eidion er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn deall y ddeddfwriaeth yn glir. Pe na bai’r ddeddfwriaeth wedi ei chyfuno, gallai fod wedi achosi diffyg eglurder, a hynny wedi arwain ar fethu â chydymffurfio. Y mae’n hanfodol felly ein bod yn osgoi hyn wrth i ni geisio lleihau unrhyw risg i’r UE ail-osod y gwaharddiad neu i aelod-wladwriaethau wrthod cymryd ein cig eidion.

Mae Rheoliadau TSE (Cymru) 2006 yn caniatáu i Gymru elwa o godi’r gwaharddiad ar gig eidion cyn gynted ag y bo modd. Maent yn rhoi fframwaith deddfwriaethol clir i allforwyr ac yn sylfaen mewn cyfraith i ofynion yr UE, oedd yn gorfod bodoli pan godwyd y gwaharddiad.