Skip to content

Gyngor Celfyddydau Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh , Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon

Mae’r straeon yn y Western Mail am swydd cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi camliwio yr hyn sydd, yn y bôn, yn fater syml iawn. Gan hynny, yr wyf yn croesawu’r cyfle hwn i egluro’r sefyllfa. Nid oes dim sydd yn faleisus nac yn Stalinaidd ynghylch dilyn gweithdrefnau arferol ar gyfer penodiadau i gyrff cyhoeddus. Esboniaf sut y mae’r gweithdrefnau hynny’n gweithio.


Yn gyntaf, bwriadaf gwblhau dau ymarferiad ar gyfer penodi i gyngor y celfyddydau. Un o’r rhain yw recriwtio pedwar aelod newydd i’r cyngor i gymryd lle aelodau sydd yn ymddeol. Yr wyf hefyd yn cadarnhau fy mod yn bwriadu hysbysebu swydd y cadeirydd. Nid oes neb wedi ei ddiswyddo. Yn groes i’r awgrymiadau yn y Western Mail, nid wyf wedi gwneud cyhoeddiad, boed yn annisgwyl neu fel arall, ynghylch y cadeirydd. Rhoddwyd rhybudd ymlaen llaw i’r cadeirydd presennol am fy mwriad i hysbysebu’r swydd pan ddaw ei dymor i ben ar 31 Mawrth 2006. Arfer da a mater o gwrteisi yw hysbysu’r deiliad presennol ynghylch yr hyn y bwriedir ei wneud mewn modd amserol.


Yr wyf yn dilyn cod ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer penodiadau gweinidogol i gyrff cyhoeddus yn gyfan gwbl. Gwneir y penodiadau hyn yn unol â chod ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol, fel y’i cymeradwywyd gan y Cyfarfod Llawn, a bydd yr hysbysebion yn gyson â’r arferion gorau sefydledig. Mae lle o hyd i’r cadeirydd presennol benderfynu a yw’n dymuno ymgeisio i gael ei ailbenodi ai peidio. Ymgynghorir ag enwebeion Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn y modd arferol pan ddaw’n bryd gwneud hynny. Nid oes dim darpariaeth yn y cod ar gyfer ymholiadau anffurfiol o’r math a awgrymir gan aelodau o gyngor y celfyddydau. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn deall nad yw’n briodol trafod ar goedd rinweddau penodol ymgeiswyr posibl wrth wneud penodiadau cyhoeddus, ac yr wyf yn atgoffa’r holl Aelodau am ddarpariaethau ein cod.


Mae cyngor y celfyddydau wedi derbyn buddsoddiad sydd wedi cynyddu’n sylweddol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yn 1999-2000 £15 miliwn oedd ei gyllideb; eleni mae’n £27 miliwn, sef cynnydd o 56 y cant. Ers 1999-2000, mae’r Llywodraeth hon wedi buddsoddi cyfanswm o £181 miliwn yn y celfyddydau—mewn cyferbyniad eglur â’r blynyddoedd o farweidd-dra a sefyll yn stond dan Redwood. Er bod mwy wedi ei fuddsoddi’n ddiweddar, ceir rhwystrau gwirioneddol o hyd rhag cael mynediad at y celfyddydau mewn rhai cymunedau yng Nghymru. Mae angen diwygio ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau fel cenedl i ddatblygu celfyddyd ragorol, gyda mynediad i bawb.


Yn y cyd-destun hwn, bu llawer o ddyfalu ynghylch yr arolwg diweddar o gyfranogi yn y celfyddydau. Gadewch imi roi’r ffeithiau plaen i chi. Os ydych mewn swydd rheoli neu swydd broffesiynol, yr ydych dair gwaith yn fwy tebygol o gael budd o arian cyhoeddus sydd wedi ei fuddsoddi yn y celfyddydau nag ydych os ydych yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Mae’r rhai sydd leiaf tebygol o fynd i ddigwyddiadau celfyddydol yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a’r cymoedd o gylch Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r un peth yn wir am gymunedau difreintiedig yn sir y Fflint a Wrecsam. Nid wyf yn credu bod y gwahaniaethau anferth hynny o ran cyfranogi yn dderbyniol, ac yr wyf yn gwahodd Aelodau i anghytuno â mi. Mae’r Pwyllgor diwylliant wedi cael cyflwyniad manwl am yr arolwg hwnnw o gyfranogi yn y celfyddydau, ac edrychaf ymlaen at drafod y materion pwysig hyn gyda’r gwrthbleidiau. Ni chefais ddim ganddynt hyd yma.


Ynghylch mater annibyniaeth a’r egwyddor o weithredu hyd braich, yr ydym wedi egluro nad yw gwleidyddion yn dylanwadu ar ddyfarniadau celfyddydol, ac ni fyddant yn gwneud ychwaith. Mae’n amlwg bod y sylwadau a wnaed gan Mike German yn y Western Mail, i’r perwyl y byddaf yn dewis pa operâu y bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn eu perfformio, yn rhai hurt. Yn wir, cyfeiriodd Judith Isherwood, prif weithredwr Comisiwn Mileniwm Cymru, at y dadlau a fu ynghylch Jerry Springer The Opera mewn cyfarfod busnes, ac atebais yn gwbl glir fod y mater yn un a oedd yn llwyr ddibynnol ar ddyfarniad ariannol a chelfyddydol Canolfan Mileniwm Cymru. Nid yw Gweinidogion yn ymyrryd â’r materion hyn, ac ni fyddant ychwaith. Y rôl y mae’n briodol i Weinidogion ei chyflawni, fodd bynnag, yw sicrhau bod y seilwaith, y datblygiadau polisi a’r dulliau llywodraethu priodol ar waith mewn cysylltiad â nawdd cyhoeddus i’r celfyddydau. Y Gweinidog biau penodi cadeiryddion ac aelodau cyrff cyhoeddus, gan ddilyn ein canllawiau ar gyfer penodiadau.

 
Dyna’r ffeithiau ynghylch y broses benodi, ond pwysicach o lawer na hynny yw’r materion go iawn. Sut y byddwn yn sicrhau bod y buddsoddiad mwyaf erioed yn cyrraedd pob congl o’n gwlad a phob cymuned? Mae newidiadau pwysig yn wynebu cyngor y celfyddydau, felly mae rôl y cadeirydd yn newid. Dyna pam yr wyf yn fwy na bodlon cymryd rhan mewn dadl oleuedig a rhesymol ynghylch y newidiadau a’r materion goiawn. Er mwyn y dyfodol, bydd yn rhaid i gyngor y celfyddydau ddod yn gorff sydd yn fwy datblygiadol ei natur ac yn un a wnaiff ariannu’r pethau gorau un, o fewn fframwaith cefnogol ar gyfer doniau newydd, syniadau a chreadigedd.